Yn y canllaw hwn
2. Inswleiddio wal geudod
Yn y Rheoliadau Adeiladu caiff gwaith gosod deunydd inswleiddio mewn wal geudod ei ddiffinio’n benodol yn waith adeiladu y dylid hysbysu rhywun yn ei gylch. Yn achos pob adeilad nad yw wedi’i eithrio rhag y Rheoliadau, mae hynny’n golygu y bydd yn angenrheidiol cyflwyno hysbysiad adeiladu i Gorff Rheoli Adeiladu, sy’n nodi y bydd gwaith inswleiddio wal geudod yn cael ei wneud. Nid yw’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn codi tâl rheoli adeiladu yng nghyswllt hysbysiadau adeiladu o’r fath. Os bydd y crefftwr sy’n gosod y deunydd inswleiddio wedi cofrestru â’r Asiantaeth Gwarantu Deunydd Inswleiddio Waliau Ceudod (Saesneg yn unig), bydd ef fel rheol yn cyflwyno’r hysbysiad adeiladu. Beth bynnag am hynny, dylai perchnogion adeiladau sicrhau bob amser bod hysbysiad adeiladu’n cael ei gyflwyno.
Mae’r Rheoliadau Adeiladu yn mynnu bod y deunydd inswleiddio a ddefnyddir yn addas ar gyfer y wal dan sylw. Yn achos rhai mathau o sbwng inswleiddio waliau ceudod, bydd angen asesu’r perygl y gallai nwy fformaldehyd ollwng.
Bydd Adrannau Rheoli Adeiladu awdurdodau lleol yn gallu rhoi cyfarwyddyd mwy manwl ichi.