Neidio i'r prif gynnwy

6. Rwyf am addasu lle uwchben siop yn fflat

Mae hwn yn newid defnydd o bwys yn ôl yr hyn a ddiffinnir yn y rheoliadau, ac maent yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid i'r adeilad cyfan neu ran ohono gydymffurfio â nhw o ganlyniad i'r newid defnydd hwnnw (e.e. y gofynion sy'n ymwneud â dianc o'r adeilad a materion eraill sy'n ymwneud â thân, hylendid, inswleiddio rhag sŵn, ac arbed ynni).

Felly, efallai y bydd angen uwchraddio'r adeilad cyfan neu o leiaf rhan ohono er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir.