Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y Cylchlythyr: WGC 001/2025

Dyddiad cyhoeddi: 31/03/2025

Statws: Er gwybodaeth

Teitl: Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2025

Cyhoeddwyd gan: Paul Keepins, Rheolwr Technegol Safonau Adeiladu

 Wedi'i gyfeirio at:

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Cymdeithas y Cymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu
Fforwm Personau Cymwys

I'w anfon ymlaen at:

Rheolwyr Rheolaeth Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau Senedd Cymru
Arolygiaeth Gofal Cymru

Crynodeb:

Pwrpas y Cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at y Rheoliadau Diwygio ac at gyhoeddi Cyfrolau 1 a 2 Dogfen Gymeradwy R newydd.  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r:

Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ  

Llinell uniongyrchol: 0300 060 4400
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan: adeiladu a chynllunio

Cyflwyniad

  1. Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd imi dynnu'ch sylw at Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2025 (OS 2025 Rhif 377 (Cy. 74)) ("y Rheoliadau Diwygio") a wnaed ar 21 Mawrth 2025, a osodwyd ar 25 Mawrth 2025, ac a fydd yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2025, ac at gyhoeddi Cyfrolau 1 a 2 Dogfen Gymeradwy R newydd. 
     
  2. Yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984, gwnaed y rheoliadau diwygio ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu.  
     
  3. Diben y Cylchlythyr hwn yw gwneud y canlynol:
  • tynnu sylw at y Rheoliadau Diwygio ac esbonio'r newidiadau y maent yn eu gwneud i Reoliadau Adeiladu 2010 a Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010;  
  • tynnu sylw at gyhoeddi Cyfrolau 1 a 2 Dogfen Gymeradwy R newydd;
  • tynnu sylw at dynnu'r Ddogfen Gymeradwy R bresennol yn ôl.
  1. Mae Atodiad A i'r Cylchlythyr hwn yn  nodi'r newidiadau a wnaed gan Reoliadau Diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 a Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
     
  2. Nid yw'r cylchlythyr hwn yn rhoi cyngor ar ofynion technegol Rheoliadau Adeiladu 2010 gan fod Dogfennau Cymeradwy yn mynd i'r afael â'r materion hyn.

Cwmpas

  1. Dim ond i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru y mae'r Rheoliadau Diwygio a Chyfrolau 1 a 2 Dogfen Gymeradwy R yn berthnasol.

Diwygiadau i'r rheoliad

  1. Mae'r Rheoliadau Diwygio yn cyflwyno gofynion newydd i Ran R Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010. Mae'r Rheoliadau Diwygio a Gofynion RA1 ac RA2 yn nodi'r gofynion newydd o ran seilwaith a chysylltedd ar gyfer anheddau sydd newydd eu codi gyda rhai addasiadau ac eithriadau; ochr yn ochr â gofynion o ran seilwaith yn y Gofyniad R1 diwygiedig ar gyfer adeiladau eraill sydd o fewn ei gwmpas. 

Dogfennau cymeradwy

  1. Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo canllawiau statudol newydd i gefnogi cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Diwygio a Rhan R Atodlen 1 i'r Rheoliadau Adeiladu. Mae Atodiadau B a C i'r Cylchlythyr hwn yn rhoi'r Hysbysiad Cymeradwyo ar gyfer Cyfrolau 1 a 2 y Ddogfen Gymeradwy R newydd a'r Hysbysiad Tynnu Cymeradwyaeth yn Ôl oddi wrth rhifynnau blaenorol o Ddogfen Gymeradwy R yn eu trefn, yn amodol ar ddarpariaethau trosiannol.
     
  2. Mae'r Dogfennau Cymeradwy ar gael yn Rheoliadau adeiladu: dogfennau cymeradwy.
     

Trefniadau trosiannol

  1. Nid yw'r Rheoliadau Diwygio na'r Dogfennau Cymeradwy newydd yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu, pan fydd hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi'i roi i awdurdod lleol, neu fod cynlluniau llawn wedi'u hadneuo mewn perthynas â'r gwaith hwnnw, cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym, ar yr amod bod y gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau, neu yn dechrau o fewn 12 mis o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Rhagor o wybodaeth

  1. Cliciwch ar y ddolen a ganlyn i weld Rheoliadau Adeiladu etc (Diwygio) (Cymru) 2025.

Ymholiadau

Oes oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn, dylech ei hanfon at:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu, 
Llywodraeth Cymru, 
Rhyd-y-car 
Merthyr Tudful, 
CF48 1UZ. 

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir,

Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu

Atodiad A

Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) (O.S. 2025 Rhif 377 (Cy. 74)) (y "Rheoliadau Diwygio"). Mae'r Rheoliadau Diwygio hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (O.S. 2010/2214) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru i'w gwneud hi'n ofynnol gosod seilwaith ffisegol sy'n barod ar gyfer trosglwyddo data ar gyfradd gigadid a hyd at derfyn cost o £2,000 fesul annedd, cysylltiadau sy'n gallu trosglwyddo data ar gyfradd gigadid ar gyfer anheddau newydd. Mae'r Rheoliadau Diwygio hyn yn diwygio hefyd Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/1268).

Rheoliadau Adeiladu 2010

  • Mae Rheoliad newydd 44ZAA yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n codi annedd newydd gyflwyno i’r awdurdod lleol, cyn cychwyn ar waith adeiladu, fanylion unrhyw gysylltiad â rhwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus a ddarperir ar gyfer yr annedd honno, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth sy’n ategu ei ddibyniaeth ar yr esemptiadau a nodir yn rheoliadau newydd 44ZB a 44ZC.
  • Mae Rheoliad newydd 44ZB yn darparu esemptiadau i'r gofynion newydd, i adeiladau sydd o dan feddiant y Weinyddiaeth Amddiffyn neu luoedd arfog y Goron, neu dan feddiant rhywun arall at ddibenion sy'n gysylltiedig â diogelwch cenedlaethol, yn ogystal â'r rhai sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd sydd wedi'u hynysu oddi wrth rwydweithiau cyfathrebu electronig cyhoeddus.
  • Mae Rheoliad newydd 44ZC (1)-(4) yn nodi esemptiadau i'r gofyn i ddarparu cysylltiad sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigadid os yw gwneud hynny'n costio mwy na'r terfyn cost, fel a ganlyn:
    ○ lle na ellir gosod cysylltiadau gigadid o fewn y terfyn cost o £2,000, rhaid gosod cysylltiad rhwydwaith cyflym iawn, ar yr amod y gellir ei sicrhau o fewn y terfyn cost. 
    ○ lle na ellir gosod cysylltiad cyflym iawn o fewn y terfyn cost, rhaid gosod cysylltiad o safon USO, ar yr amod y gellir ei sicrhau o fewn y terfyn cost. 
    ○ lle na ellir darparu cysylltiad o safon USO o fewn y terfyn cost, nid oes angen cysylltiad.
  • Mae Rheoliad newydd 44ZC (5) yn diffinio'r termau "rhwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus cyflym iawn" a "rhwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus safon USO".
  • Mae Rheoliad newydd 44ZC(6) yn trin y datblygwr fel pe bai'n gallu darparu un o'r cysylltiadau uchod oni bai bod y datblygwr wedi gwahodd o leiaf ddau ddarparwr addas (fel y'u diffinnir yn rheoliad 44ZC(9) i roi dyfynbrisiau o fewn cyfnod o 30 diwrnod a bod y darparwyr hyn naill ai wedi gwrthod darparu cysylltiad perthnasol o fewn y terfyn cost, neu heb ymateb i wahoddiadau i ddarparu dyfynbris.
  • Mae rheoliadau 44ZC(7) ac (8) yn nodi'r terfyn cost o £2,000, a'r ffactorau sydd i'w cynnwys wrth wneud y cyfrifiad hwn.
  • Mae rheoliad 44C bellach yn cynnwys y diffiniadau newydd canlynol: "rhwydwaith cyfathrebu electronig sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigadid", "rhwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigadid", "seilwaith ffisegol sy'n barod ar gyfer trosglwyddo ar gyfradd gigadid", a "rhwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus".
  • Mae Atodlen 1 (gofynion) yn mewnosod 'Gofyniad RA1: Seilwaith ffisegol sy'n barod ar gyfer trosglwyddo ar gyfradd gigadid, a Gofyniad RA2: Cysylltiad â rhwydwaith sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigadid.
  • Diwygir gofyniad R1, 'seilwaith ffisegol o fewn adeilad' i eithrio o gwmpas y gofyniad hwnnw unrhyw waith adeiladu y mae gofyniad RA1 yn gymwys iddo.

Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024

Mae'r Rheoliadau Diwygio yn ychwanegu gofynion rheoliad newydd 44ZAA at y rhestr o swyddogaethau y gall Cymeradwywyr eu cyflawni. 

Atodiad B

Deddf Adeiladu 1984

Hysbysiad cymeradwyo i newid dogfennau sy'n rhoi arweiniad ymarferol ar ofynion Rheoliadau Adeiladu 2010

Mae Gweinidogion Cymru drwy hyn yn hysbysu o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu1984 eu bod, wrth arfer y  pwerau a enwyd o dan adran 6, wedi cymeradwyo'r diwygiadau a restrir isod i’r Ddogfen Gymeradwy er mwyn rhoi arweiniad ymarferol mewn perthynas â gofynion penodedig Rheoliadau Adeiladu 2010 (fel y'u diwygiwyd) yng Nghymru yn unig.

Mae'r gymeradwyaeth yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2025 ac eithrio mewn perthynas â gwaith y mae hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi'i roi ar ei gyfer neu y mae cynlluniau llawn wedi'u hadneuo ar ei gyfer cyn y dyddiad hwnnw ac ar yr amod bod gwaith yn dechrau o fewn 12 mis i'r dyddiad hwnnw.

Dogfen Gymeradwy

Cyfrol 1 Dogfen Gymeradwy R Seilwaith ffisegol a chysylltiad â'r rhwydwaith ar gyfer anheddau newydd.

Gofynion y Rheoliadau Adeiladu y cymeradwyir y ddogfen hon mewn cysylltiad â hwy

Rhan R, Atodlen 1; rheoliadau newydd 44ZAA, 44ZB a 44ZC, a gofynion newydd wedi'u hychwanegu at reoliad 44C.

Y dyddiad y daw'r diwygiad i rym

1 Gorffennaf 2025

Dogfen Gymeradwy

Cyfrol 2, Dogfen Gymeradwy R: Seilwaith ffisegol ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym iawn.

Gofynion y Rheoliadau Adeiladu y cymeradwyir y ddogfen hon mewn cysylltiad â hwy

Rhan R, Atodlen 1 .

Y dyddiad y daw'r diwygiad i rym

1 Gorffennaf 2025

Annex C

Deddf Adeiladu 1984

Hysbysiad tynnu cymeradwyaeth yn ôl ar gyfer dogfennau sy'n rhoi arweiniad ymarferol ar ofynion Rheoliadau Adeiladu 2010

Mae Gweinidogion Cymru drwy hyn yn hysbysu o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu1984 eu bod, wrth arfer y pwerau a enwyd o dan adran 6, wedi tynnu cymeradwyaeth yn ôl ar gyfer y dogfennau a restrir isod sy'n rhoi arweiniad ymarferol mewn perthynas â gofynion penodedig Rheoliadau Adeiladu 2010.

Daw'r cynnig i dynnu cymeradwyaeth yn ôl i rym ar 1 Gorffennaf 2025 ac eithrio mewn perthynas â gwaith y mae hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi'i roi ar ei gyfer neu y mae cynlluniau llawn wedi'u hadneuo ar ei gyfer cyn y dyddiad hwnnw ac ar yr amod bod gwaith eisoes wedi dechrau neu'n dechrau o fewn 12 mis i'r dyddiad hwnnw. 

Dogfen Gymeradwy

Dogfen Gymeradwy R: Seilwaith ffisegol ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym iawn (rhifyn 2016).