Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

7. Waliau islaw lefel y ddaear

Yn dibynnu ar b'un a yw'r sylfaen ar gyfer adeilad sengl newydd yn ddwfn ynteu'n fas, gallai fod angen gwneud ychydig neu lawer o waith adeiladu waliau islaw lefel y ddaear (a elwir yn isadeiledd), y bydd y waliau sydd uwchlaw lefel y ddaear (a elwir yn aradeiledd) yn cael eu codi arnynt. 

Y prif ofyniad o ran yr isadeiledd yw sicrhau bod digon o gynhaliaeth yn cael ei darparu ar gyfer yr aradeiledd.  Dylai'r isadeiledd (brics neu flociau a morter) fod yn effeithiol, a dylai allu gwrthsefyll rhew yn ogystal â sylffadau yn y ddaear.