Neidio i'r prif gynnwy

3. Llawr

Bydd angen i lawr ddarparu ar gyfer un neu ragor o'r swyddogaethau canlynol:

  • cynnal yn strwythurol gynnwys a defnyddwyr yr ystafell a phwysau'r llawr ei hun; ac
  • os yw'n llawr gwaelod, gwrthsefyll:
    • lleithder o'r ddaear; a
    • phrosesau colli gwres (inswleiddio thermol).

Bydd adeiladwaith llawr gwaelod yn un o dri math cyffredinol:

Llawr solet

Un ffordd nodweddiadol o adeiladu llawr solet yw darparu sylfaen o graidd caled â thywod llenwi, a haen o goncrit dros y cyfan. Er mwyn sicrhau gorffeniad gwastad i'r llawr, caiff haen o forter llyfn ei hychwanegu ar ben y concrit, sy'n cynnwys tywod a sment. Rhaid darparu croen atal lleithder o drwch addas ynghyd â deunydd inswleiddio thermol. Gellir gosod y rhain dros y tywod llenwi neu ar ben y concrit.

Dylid lapio'r croen atal lleithder am y cwrs atal lleithder yn y waliau allanol, ac os yw'n berthnasol, am y waliau mewnol o amgylch y llawr. Bydd trwch amryw rannau'r llawr yn dibynnu ar amodau'r ddaear ac ar y drefn y cafodd yr amryw rannau eu gosod. Os oes gan y tŷ presennol frics tyllog sydd, er enghraifft, yn awyru gwagle mewn lloriau sy'n bodoli eisoes, dylid darparu pibellau er mwyn gadael i aer lifo drwy'r llawr solet ac i mewn i'r gwagle dan y tŷ presennol. Yna, dylid gosod brics tyllog yn y wal newydd.

Llawr pren crog

Bydd y Rheoliadau Adeiladu yn mynnu y dylai'r strwythur gael ei amddiffyn rhag chwyn a phlanhigion eraill.  Dylid arllwys haen o goncrit dros y ddaear, a dylid gadael o leiaf 150mm o fwlch wedi'i awyru rhwng gwaelod y pren a'r concrit er mwyn atal lleithder rhag cronni ac effeithio ar gyflwr y distiau. Dylai distiau'r llawr pren fod o'r maint cywir, a fydd yn dibynnu ar eu rhychwant (yr hyd rhwng y cynheiliaid), ac fel rheol byddant yn cael eu gosod ar draws y rhychwant byrraf o wal i wal gan adael bwlch danynt. 

Efallai y bydd angen wal yn y canol ac iddi sylfaen fach, er mwyn medru lleihau'r rhychwant a defnyddio distiau llawr sydd o'r trwch lleiaf posibl. Dylid gosod cwrs atal lleithder rhwng y pren a'r wal. Yna, dylid gosod deunydd inswleiddio rhwng y distiau (bydd ei drwch yn dibynnu ar y cynnyrch a ddefnyddir). Dylid gosod fentiau oddi tanodd i awyru'r gwagle, a dylai fod modd i'r aer fynd o'r naill ochr i'r adeilad i'r llall.

Llawr concrit crog

Mae adeiladwaith y llawr hwn yn debyg i adeiladwaith y llawr pren uchod, ond mae'n defnyddio planciau concrit neu drawstiau concrit bach a gastiwyd ymlaen llaw, a blociau concrit a osodir rhwng y trawstiau. Fel rheol gallant ymestyn dros bellteroedd hwy na distiau pren.  Bydd angen fentiau ar y llawr hwn yn yr un modd ag y mae angen fentiau ar lawr pren crog.  Mae'n bosibl iawn y bydd y gwneuthurwyr yn fodlon cyfrifo maint y trawstiau concrit a darparu'r cyfrifiadau strwythurol.  Fel arall, gallai peiriannydd adeiladu ddarparu'r gwasanaeth hwn hefyd.

Daear halogedig a radon

Mewn rhai ardaloedd efallai y bydd y ddaear wedi'i halogi rywfaint lle mae nwyon yn ffurfio, er enghraifft, o safleoedd tirlenwi. Mae radon yn nwy naturiol sy'n bodoli mewn rhai ardaloedd o'r wlad.  Mae angen awyru'r nwyon hyn, a bydd gofyn gosod croen atal nwy er mwyn eu rhwystro rhag mynd i mewn i'r adeilad.