Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

2. Effaith ar hygyrchedd toiledau ar y llawr gwaelod

Bydd gan unrhyw uned annedd a adeiladwyd ar ôl 1999 doiled ar y llawr gwaelod, a ddyluniwyd i ddarparu ar gyfer unrhyw ymwelwyr sy'n defnyddio cadair olwyn. 

Yn ystod unrhyw waith adnewyddu, ni ddylid cael gwared â'r toiled hwn ac ni ddylid gwaethygu ei hygyrchedd mewn unrhyw ffordd, oherwydd byddai wedyn yn annigonol yn y dyfodol ar gyfer y sawl sy'n defnyddio cadair olwyn. 

Am y rhesymau hyn, efallai y bydd angen gwneud cais o safbwynt y Rheoliadau Adeiladu os bydd unrhyw newid yn cael ei wneud i doiled presennol ar y llawr gwaelod.