Neidio i'r prif gynnwy

4. Addasrwydd strwythurau lloriau presennol

Os newidir y modd y caiff ystafell ei defnyddio, ac os gallai olygu bod y llwyth (pwysau) ar strwythur y llawr yn newid yn sylweddol, efallai y bydd yn angenrheidiol gwneud gwaith i gryfhau'r llawr.

Er enghraifft, os caiff swît newydd ystafell ymolchi ei gosod mewn ystafell lle mae'r llawr wedi'i wneud o ddistiau ac estyll pren, mae perygl mawr y gallai'r llawr gael ei orlwytho pan fyddai'r bath yn llawn dŵr ac yn cael ei ddefnyddio.  Gallai fod angen cryfhau llawr o'r fath, felly.

Gall syrfëwr neu beiriannydd adeiladu asesu'r llawr a chadarnhau hynny ichi. Os oes angen cryfhau'r llawr, gallant baratoi'r gwaith papur y bydd ei angen ar y Corff Rheoli Adeiladu cyn ichi ddechrau ar y gwaith.