Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Chwefror 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion ac ymateb Llywodraeth Cymru (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 66 KB
Ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 263 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydyn ni eisiau'ch barn ar y newidiadau i'r Rheoliadau Adeiladu, sy'n ymwneud â pherfformiad ynni adeiladau, Cynllun y Fargen Werdd a Chynllun y Personau Cymwys.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r Rheoliadau Adeiladu’n rheoli mathau penodol o waith adeiladu ac yn sicrhau bod adeiladau’n cyrraedd safon benodol ar gyfer iechyd diogelwch lles hwylustod a chynaladwyedd.
Mae’n rhaid i ni roi ar waith ofynion Cyfarwyddeb yr UE 2010/31/EU ar Berfformiad Ynni Adeiladau. Rydyn ni eisiau’ch barn ar sut i ymgorffori’r gofynion hyn i’r gyfraith. Nid ydym yn gofyn am eich barn ar y gofynion eu hunain.
Hefyd hoffem glywed eich barn ar y newidiadau sy’n ofynnol yng Nghymru i hwyluso’r Fargen Werdd. Mae’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd wedi ymgynghori ar y newidiadau hyn yn barod yn Lloegr.
Rydym wedi cynnal ymgynghoriad caeedig ar y newidiadau i Atodlen 3 gyda’r cyrff canlynol:
- Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu (BRACW)
- Fforwm Personau Cymwys a
- Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC)
Rydym wedi cynnwys y newidiadau hyn yn y ddogfen ymgynghori er gwybodaeth.