Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Dogfennau

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 (wedi eu dirymu) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 55 KB

PDF
55 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2003 mewn 2 ffordd: 

  • er mwyn caniatáu i ysgolion a agorodd am wythnos ychwanegol ar ddiwedd tymor yr haf yn y flwyddyn ysgol 2019-2020 gynnal o leiaf 370 o sesiynau yn ystod y flwyddyn ysgol 2020 i 2021 yn lle o leiaf 380 o sesiynau. 
  • er mwyn caniatáu i hyd at 4 sesiwn gyfrif fel sesiynau pan gyfarfu’r ysgol os oeddent wedi eu neilltuo i baratoi ysgolion a chynllunio gan athrawon yn dilyn gostyngiad mewn gweithrediadau o ganlyniad i fynychder a throsglwyddiad y coronafeirws yn ystod y flwyddyn ysgol 2019 i 2020. Cynhelir y sesiynau hyn yn ystod dwy wythnos gyntaf tymor cyntaf y flwyddyn ysgol 2020 i 2021.