Daeth yr ymgynghoriad i ben 9 Hydref 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 202 KB
Rhestr o ymgynghoreion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 19 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Ceir pysgodfeydd cocos ar hyd arfordir Cymru a gallant fod yn gymharol fawr mewn rhai aberoedd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r pysgodfeydd hyn wedi cyfrannu at dreftadaeth Cymru ers cenedlaethau. Mae eu pwysigrwydd economaidd wedi cynyddu’n ddiweddar ac maent bellach yn gwneud cyfraniad pwysig i’r diwydiant pysgota.
Mae’n hollbwysig fod pysgodfeydd cocos Cymru yn cael eu rheoli mewn modd sy’n sicrhau’r manteision mwyaf posibl mewn modd cynaliadwy. Yn yr un modd mae’n rhaid ceisio sicrhau cyn lleied â phosibl o effeithiau negyddol ar gymunedau lleol a’r amgylchedd.
Er mwyn gallu cyflawni’r amcanion hyn hoffai Llywodraeth Cymru dderbyn eich sylwadau ynghylch cyflwyno cynllun rheoli newydd ar gyfer pysgodfeydd cocos yng Nghymru. Rydym yn croesawu eich sylwadau ynghylch y cynnig er mwyn sicrhau bod pysgodfeydd cynaliadwy yn cael eu rheoli mewn modd effeithiol er lles cenedlaethau’r dyfodol. Rydym hefyd yn awyddus i fodloni anghenion cymunedau lleol.
Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Efallai y byddwn hefyd yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Caiff enw/cyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) y person/sefydliad a anfonodd yr ymateb eu cyhoeddi â’r ymateb. Mae hyn yn helpu i ddangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal mewn modd priodol. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw neu’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi nodwch hynny’n ysgrifenedig pan fyddwch yn anfon eich ymateb.