Rheoli Llifogydd yn Naturiol: canllawiau i ymgymryd â gwaith rheoli llifogydd naturiol
Canllawiau i awdurdodau lleol ar ariannu gwaith dan y Gronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol 2025 i 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad: Cronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol 2025 i 2026
Mae Llywodraeth Cymru’n annog Awdurdodau Rheoli Risg (RMAs) i Reoli Llifogydd yn Naturiol. I’r perwyl hwnnw, mae’r Canllaw Achos Busnes ar gyfer Rheoli Peryglon Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn ei gwneud yn orfodol iddynt ystyried dulliau Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) wrth baratoi pob cynllun.
Yn eu Rhaglen Lywodraethu ar gyfer y tymor hwn, mae Gweinidogion wedi ymrwymo i:
- Rheoli llifogydd mewn modd sy’n seiliedig ar natur ym mhob dalgylch afon mawr i ehangu cynefinoedd gwlyptiroedd a choetiroedd.
Yn dilyn Rhaglen Beilot NFM 2020-2023 a’r Rhaglen Sbarduno ddilynol (2023 – 2025),rydym wedi sicrhau cyllid cyfalaf o £2 filiwn am 12 mis ychwanegol, gyda chyllid yn y dyfodol hefyd yn cael ei ystyried.
Nod parhad y rhaglen hon yw cyflymu ein darpariaeth o ymyriadau rheoli llifogydd naturiol i leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â llifogydd neu erydu arfordirol a chefnogi ein huchelgais i reoli perygl llifogydd ar raddfa dalgylch. Bydd allbynnau o'r rhaglen hon hefyd yn cefnogi datblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y disgwylir iddo ddarparu cyfleoedd opsiynol a chydweithredol i ffermwyr ddarparu NFM.
Byddwn yn sbarduno Rheoli Llifogydd yn Naturiol ymhellach trwy barhau i gynnig cyllid llawn ar gyfer cynlluniau sy’n rhan o’r rhaglen NFM hon a fydd yn cynnwys arfarnu, dylunio, adeiladu ac offer monitro. Nid yw’r cymorth ariannol yn cynnwys help â chostau cynnal a chadw na monitro. Ni fydd gofyn i RMAs gyfrannu at gostau cynnal cynlluniau NFM na rhannau NFM mewn cynlluniau “hybrid”. Ond maen nhw’n cael neilltuo arian ychwanegol i sicrhau manteision ychwanegol neu ofyn i drydydd partïon sydd am gyfrannu am gymorth ychwanegol.
Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Cyhoeddwyd Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) diwygiedig: amlinelliad arfaethedig o'r cynllun ym mis Tachwedd, ond ni fydd penderfyniadau terfynol a thaliadau'r Cynllun ar gael tan yn ddiweddarach yn 2025 cyn i'r Cynllun ddechrau yn 2026. Mae'r SFS yn cynnwys gofyniad arfaethedig bod o leiaf 10% o bob fferm yn cael ei reoli fel cynefin. Wrth benderfynu a oes gan ffermwyr gynefin lled-naturiol digonol i fodloni'r gofyniad o 10%, byddwn yn cynnwys pob ardal gynefin fel glaswelltiroedd llawn rhywogaethau, pyllau a choetir llydanddail sefydledig. Rydym hefyd yn cynnig cynnwys ardaloedd o gynefinoedd newydd eu creu fel gwrychoedd, plannu coetiroedd neu greu cynefinoedd ar dir gwell – y bwriad yw y gallai hyn gynnwys ardaloedd newydd o gynefinoedd a grëwyd fel rhan o gynllun hyn felly does dim rheswm i ffermwyr oedi cyn creu cynefinoedd nawr os oes cyfle i wneud hynny. Nid yw'n bosibl gwneud sylwadau ar daliadau SFS ar hyn o bryd.
Pwy sy’n gymwys
Fel gyda grant craidd Rheoli Peryglon Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) Llywodraeth Cymru, dim ond Awdurdodau Rheoli Risgiau sy’n gweithredu yng Nghymru sy’n gymwys am help y Rhaglen Sbarduno NFM. Ond byddem yn annog RMAs i weithio gyda phartneriaid eraill a meysydd ariannu traws-bolisi er mwyn cael arian ychwanegol i gefnogi prosiectau ac i sicrhau mwy o fuddion mewn dalgylchoedd. Gallai’r rheini gynnwys Awdurdodau Lleol neu CNC i ariannu trydydd partïon i wneud gwaith ar eu rhan, gyda’r RMA yn ymgeisio am a hawlio grant oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Yn unol â'n polisi cyllido a ddisgrifir yn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, rhaid i bob prosiect NFM leihau'r risg i bobl ac eiddo neu gynnal y lefelau amddiffyn presennol. Mae hynny’n gyson â grant craidd FCERM. Mae angen i waith ddod â budd economaidd a bodloni'r holl ofynion statudol angenrheidiol.
Er mwyn gallu arfarnu cynlluniau NFM yn barhaus, rhaid i bob prosiect gynnwys elfen fonitro ar ôl adeiladu’r cynllun i’w hariannu trwy'r grantiau refeniw presennol.
Rydym yn cydnabod nad ar chwarae bach y mae mesur y manteision a ddaw o gynnal cynlluniau NFM ac rydym wrthi'n chwilio am ffyrdd arloesol o fonitro a chofnodi allbynnau a manteision. Rydym yn derbyn y gallai peth monitro fod yn seiliedig ar dystiolaeth anecdotaidd, o bosibl gyda chefnogaeth cymunedau neu'r byd academaidd, a dylech nodi hynny yn eich cais. Mae Llywodraeth Cymru'n cadw'r hawl i wrthod cynlluniau y mae’n teimlo nad ydynt yn rhoi gwerth am arian. Dylech nodi yn eich cais y manteision ehangach rydych yn eu disgwyl, er mwyn iddynt gael eu hystyried a chefnogi'r cais. Bydd disgwyl i RMAs adrodd cynnydd ar sail y manteision ehangach hyn wrth i gynlluniau fynd yn eu blaen.
Gwahoddir RMAs i wneud cais ar gyfer cynlluniau sy’n werth hyd at £300,000 ar y ceisiadau NFM ar RPW Ar-lein. Mae cynlluniau uwch eu gwerth yn gymwys ond dylid eu trafod yn gyntaf â’r tîm FCERM i weld a fyddai Cyfiawnhad Busnes neu Achos Busnes Llawn yn fwy priodol.
Bydd y rhaglen yn cael ei threfnu fel y Grant Gwaith Graddfa Fach gydag awdurdodau lleol yn cael cynnal mwy nag un cynllun, ond rhaid cyflwyno cais gwahanol ar gyfer pob un. Rhaid cwblhau pob cynllun a chyflwyno’i hawliad olaf erbyn Mawrth 2026.
Gwaith nad yw’n gymwys am grant
Blaenoriaeth FCERM o hyd yw perygl i fywyd a dylai pob cynllun hefyd leihau'r risg i gartrefi. Ond gallai lleihau’r risg i wasanaethau neu gyfleustodau eraill, er enghraifft, ffyrdd, rheilffyrdd neu amaethyddiaeth fod yn fantais ychwanegol. Ni fydd cynlluniau sy'n lleihau’r risg i dir amaethyddol, ffyrdd neu isadeiledd arall yn unig yn gymwys.
Y broses ymgeisio
Dylech gyflwyno ceisiadau i raglen sbarduno NFM gan ddefnyddio'r ffurflen ar RPW ar-lein ar gyfer cynlluniau gwerth hyd at £300,000. Gall cynllun sy’n werth mwy na £300,000 fod yn gymwys os y gallant ddod â manteision mwy, ond trafodwch â FCERM Llywodraeth Cymru yn gyntaf i weld a ellid ei ystyried yn eithriad.
Rydym yn annog cydweithio â phartneriaid ac ar draws yr RMA. Gall cynllun dalgylch gynnwys sawl prosiect syn dod â budd i fwy nag un RMA a/neu nifer o drydydd partïon. Bryd hynny, dylai'r cais gael ei wneud gan un o'r RMAs hynny a fydd yn gweithredu fel y sawl sy’n derbyn y grant.
Dim ond am 1 flwyddyn ariannol y cytunir ar y cyllid hwn drwy'r gyllideb cyfalaf Llifogydd, felly dylid bwrw ymlaen yn gyflym â'r cynllun i’w gwblhau erbyn mis Mawrth 2026. Dylid ystyried hyn wrth lenwi ceisiadau, yn enwedig ar gyfer cynigion sy'n ymwneud â gwaith o fewn cyrsiau dŵr. Os bydd oedi ac na fydd modd cwblhau cynllun mewn pryd, gallech golli’r cyllid, ac nid oes sicrwydd y bydd cyllid ar gael ar gyfer eich cynllun mewn blynyddoedd i ddod.
Mae cyllid RIS yn gyllid blynyddol ac efallai na fydd modd trosglwyddo cyllid rhwng blynyddoedd. Gofynnir i’r RMA ragweld ei wariant blynyddol fel rhan o'r cais a cheisio cadw ato. Dylid trafod newidiadau yn y rhagolwg sy’n arwain at symud arian rhwng blynyddoedd â Changen Llifogydd Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosib er mwyn gallu rheoli cyllidebau.
Mae cyfyngiadau cyllidebol llym yn golygu na chewch newid contract o dan y rhaglen hon.
Gall gwaith a ariennir gan y grant sicrhau manteision eraill yn ogystal â rheoli perygl llifogydd, a dylid eu hystyried yn rhan o'r broses ymgeisio. Er bod y manteision ecolegol ehangach a ddaw trwy brosiectau NFM wedi'u hen amlygu, dylai ceisiadau gynnwys crynodeb byr o'r manteision penodol sy'n gysylltiedig â'r cynllun dan sylw. Gall manteision ehangach gynnwys:
- Ansawdd dŵr
- Cydweithio â grwpiau cymunedol lleol a’r trydydd sector;
- Codi ymwybyddiaeth/addysg trwy gydweithio â thrigolion ac ysgolion;
- Cefnogi busnesau lleol;
- Gwella bioamrywiaeth;
- Gwella’r amwynderau sy’n gysylltiedig â’r prosiect NFM;
- Defnyddio contractwyr lleol i wneud y gwaith a datblygu sgiliau.
Gofynnir i dimau prosiectau adrodd yn benodol ar Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy Llywodraeth Cymru, pan fyddant yn berthnasol. Rhaid cynnwys rhain yn y ceisiadau fel y maent wedi’u rhestru yn y Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 ac maent wedi’u rhestru isod:
- Cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn ffordd gynaliadwy;
- Lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo;
- Cynnal ecosystemau a’u gwneud yn fwy cydnerth, a chynnal a gwella’u buddion;
- Diogelu a gwella adnoddau gwledig a diwylliannol a hyrwyddo cyfleoedd y cyhoedd i’w defnyddio ac ymwneud â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso’r defnydd ohoni.
Mae'n rhaid i bob corff cyhoeddus gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n hanfodol felly bod awdurdodau lleol yn ystyried sut mae'r gwaith arfaethedig yn cyfrannu at y nodau llesiant a'r egwyddorion datblygu cynaliadwy a rhoi tystiolaeth o hynny yn eu ceisiadau. Disgrifiwch enghreifftiau penodol ar y ffurflen gais sut y bydd y gwaith arfaethedig yn cyfrannu at y nodau llesiant yn hytrach na’u rhestru yn unig.
Dewis a blaenoriaethu’r cynlluniau
Bydd y gwaith o flaenoriaethu prosiectau ar gyfer eu cyllido yn seiliedig ar y manteision y byddan nhw’n eu darparu, a chyllidir cymaint o gynlluniau ag y bydd y gyllideb yn ei ganiatáu. Mae cyllideb ddangosol o £2 filiwn ar gael dros y rhaglen 1 flwyddyn.
Os bydd gormod o arian wedi’i neilltuo, dewisir prosiectau ar sail cost fesul eiddo ac ystyrir hefyd y ffactorau canlynol:
- Tystiolaeth o lifogydd go iawn neu lifogydd a fu bron â digwydd
- Sawl eiddo fydd yn elwa
- Amcangyfrif o’r gost fesul eiddo
- Manteision ehangach
- Cyfleoedd dysgu a monitro
- Cydweithio â phartneriaid
- Y gallu i ddarparu yn y cyfnod o 12 mis
Rhaid i gynlluniau ddangos gwerth da am arian cyhoeddus, felly os bydd cost cynllun yn fwy na £500,00 fesul eiddo neu os bydd llai na dau eiddo yn elwa, ni fydd yn debygol o gael ei flaenoriaethu.
Tystiolaeth i gefnogi’r cais
Bydd darparu tystiolaeth gyda’r cais yn helpu’r broses asesu. Rhaid cyflwyno’r dystiolaeth gyda’r ffurflenni cais (os yn gymwys):
- Mapiau’n dangos lleoliad y gwaith sy’n cael ei gynnig
- Mapiau llifogydd, yn dangos risgiau
- Cyfeiriad at Strategaethau Perygl Llifogydd Lleol yn ôl y gofyn.
Hawlio
Bydd cyfle i hawlio bob 6 mis, yn ystod Chwarter 2 a Chwarter 4 o’r Rhaglen FCERM safonol. Rhaid cyflwyno hawliadau trwy RPA Ar-lein gan ddefnyddio’r Grant Rheoli Llifogydd yn Naturiol erbyn y dyddiadau cau a restrir yn eich llythyr dyfarnu grant.
Brandio
Lle bo’n gymwys, dylai unrhyw waith sy’n cael ei ariannu trwy grantiau Llywodraeth Cymru gael ei frandio a dangos logo Llywodraeth Cymru. Mae costau sy’n gysylltiedig â brandio yn gymwys am grant. Rydym yn eich annog i osod byrddau gwybodaeth a gwneud gwaith maes cymunedol yn ogystal â’r prosiectau, a bydd y broses flaenoriaethu’n eu hystyried.
Cewch ragor o wybodaeth gan Dîm Brandio Llywodraeth Cymru: BrandingQueries@gov.wales.
Arweiniad
Cewch gyngor ar Weithio gyda Phrosesau Naturiol a Mapiau Cyfle Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: Cyfoeth Naturiol Cymru / Mapiau ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol (naturalresourceswales.gov.uk)
Mae Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban hefyd wedi datblygu cyngor defnyddiol ar Reoli Llifogydd yn Naturiol: Llawlyfr Rheoli Llifogydd Naturiol
Cwestiynau
Am gwestiynau am unrhyw rai o grantiau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu’r Arfordir, cysylltwch â Changen Llifogydd Llywodraeth Cymru yn FloodCoastalRisk@gov.wales