Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Lluniwyd y canllawiau hyn i gefnogi sefydliadau a thimau sy'n gweithio mewn llety dros dro. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr werthfawrogi'r gwaith anodd, a llawn straen ar brydiau, y mae timau Digartrefedd Awdurdodau Lleol a Darparwyr Cymorth wedi bod yn ei wneud i ddiwallu anghenion pobl sy'n cysgu ar y stryd ar fyrder.

Rydym yn cydnabod y profiad a'r arbenigedd helaeth sydd gan lawer o'r timau sy'n rhoi cymorth eisoes, y gall fod rhywfaint yn ymestyn y tu hwnt i gyrraedd neu gynnwys y ddogfen hon. Rydym yn annog y timau profiadol hyn i barhau i ddefnyddio eu barn broffesiynol a dulliau gweithredu presennol lle y bo'n bosibl i fynd i'r afael ag ymddygiad heriol. Efallai y bydd eraill yn gweithio yn y lleoliadau hyn am y tro cyntaf a gobeithiwn y bydd y ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol iddynt.

Er bod modd diwallu anghenion llawer o bobl sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd, mae yna garfan fach o bobl nad yw'n ddiogel iddynt aros mewn llety dros dro oherwydd eu hymddygiad. Nid oes unrhyw ateb tai diogel ar gyfer y lleiafrif bach hwn heb fewnbwn gweithredol gan bartneriaid gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Er mwyn diwallu anghenion y nifer bach hwn o bobl, mae angen ymyriadau cydgysylltiedig â nifer o asiantaethau gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, yr Heddlu, ac asiantaethau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl. Dylai pob un o'r asiantaethau hyn fod yn partneru ag awdurdodau lleol drwy'r Celloedd Cydgysylltu Canoledig ar gyfer Digartrefedd.

Cefndir

Yn sgil y cyfyngiadau symud a gyflwynwyd oherwydd pandemig COVID-19, bu'n rhaid dod o hyd i dai argyfwng i nifer sylweddol o bobl, y mae gan lawer ohonynt brofiadau o drawma cymhleth, problemau iechyd meddwl a/neu broblemau camddefnyddio sylweddau. 

Gall profiadau o drawma cymhleth a mynych, fel Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, arwain at sefyllfa lle mae pobl:

  • yn ymddangos fel pe baent yn ei chael hi'n anodd rheoli eu hemosiynau
  • yn amharod i ymddiried mewn eraill
  • yn hunan-niweidio neu'n wynebu problem cyffuriau a/neu alcohol na allant ei rheoli
  • yn ymddangos fel pe baent yn ymateb yn fyrbwyll ac nad ydynt yn ystyried canlyniadau eu gweithredoedd 
  • yn ymddangos fel pe baent yn ddywedwst ac yn amharod i gymryd unrhyw help a gynigir 
  • yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu'n ymosodol 

Bwriad dulliau a lywir gan seicoleg yw helpu staff a gwasanaethau i ddeall y rhesymau dros yr ymddygiad hwn, ac i allu gweithio'n fwy creadigol ac adeiladol gyda phobl.

Gall nifer o'r unigolion hynny ei chael hi'n anodd addasu i'w hamgylchiadau newydd. Bydd angen i lawer ohonynt gael trefniadau tenantiaeth dwys neu gymorth iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Mae'n hollbwysig bod gwasanaethau cymorth ar waith i ddiwallu'r anghenion hyn ochr yn ochr â'r broses o ddarparu llety. Gall bod yn anweithgar, ac ansicrwydd ynghylch hyd y cyfyngiadau symud a'r hyn a ddaw yn yr hirdymor, arwain at fwy o rwystredigaeth. Mewn rhai achosion, gall hyn gael ei ddangos drwy ymddygiad gwrthgymdeithasol a heriol sy'n peri risg i unigolion ac eraill. Mewn achosion prin, gall yr ymddygiad hwn fod yn ddifrifol a gall fod angen mabwysiadu dull mwy ymyraethol a/neu ymgysylltu ag asiantaethau gorfodi er mwyn diogelu staff a phreswylwyr eraill.

Gall fod yn anodd i staff sy'n cefnogi unigolion yn y lleoliadau hyn reoli achosion o ymddygiad heriol. Mae hyn yn arbennig o wir am y rhai sydd â llai o brofiad o gefnogi grŵp cleientiaid sydd ag anghenion lefel uchel a chymhleth. Mae sicrhau diogelwch a llesiant staff a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn hollbwysig.

Pwrpas

Darperir y canllawiau hyn a'r siartiau llif ar wahân ar gyfer awdurdodau lleol a darparwyr tai sy'n darparu llety â chymorth a llety dros dro. Yn benodol, ar gyfer pobl y darparwyd llety ar eu cyfer drwy'r rhaglen tai argyfwng. Maent yn nodi'r mesurau ymarferol y dylai staff eu cymryd i ddelio'n ddiogel â sefyllfaoedd lle mae unigolyn y darparwyd llety ar ei gyfer yn ymddwyn mewn ffordd heriol neu wrthgymdeithasol sy'n peri risg iddo ef ei hun, i breswylwyr eraill ac i aelodau o staff.

Bydd angen rheoli'r heriau hyn ac annog pobl i newid eu hymddygiad mewn ffordd gadarnhaol er mwyn sicrhau llwyddiant y rhaglen llety argyfwng. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod unigolion yn gallu symud o dai dros dro i dai mwy cynaliadwy. 

Egwyddorion

Mae'r canllawiau yn seiliedig ar nifer o egwyddorion:

  • dylai pob gwasanaeth fabwysiadu dull a lywir gan seicoleg, a dylai anghenion hyfforddiant ychwanegol gael eu nodi a'u diwallu lle y bo angen
  • mae diogelwch staff a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn hollbwysig
  • dylai fod gan bob llety lefel staffio briodol (o ran capasiti ac arbenigedd) er mwyn diwallu anghenion y bobl y darperir llety ar eu cyfer
  • dulliau ataliol yw'r rhai gorau bob amser
  • dylid ceisio dad-ddwysáu'r sefyllfa lle bynnag y bo'n bosibl
  • dylai awdurdodau lleol, asiantaethau cymorth a'r heddlu a phartneriaid diogelwch cymunedol lleol fynd ati i gynllunio a chydgysylltu ymatebion gwasanaethau ar y cyd yn seiliedig ar angen unigol

Gwaith a Chydgysylltu Rhyngasiantaethol

Mae gwaith cydgysylltu drwy'r gell cydgysylltu canoledig ar gyfer digartrefedd yn hanfodol wrth gynllunio gwaith rhyngasiantaethol â phobl sy'n aros mewn llety argyfwng – gan weithio gyda Byrddau Cynllunio Ardal a gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae llawer o wasanaethau a chomisiynwyr yn cynllunio ac yn addasu gwasanaethau er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng cyfredol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i helpu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a digartrefedd, a'r rhai sy'n gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed. Mae hyn yn berthnasol i'r rhai sydd ag anhwylderau camddefnyddio cyffuriau a/neu alcohol, problemau iechyd meddwl sy'n cyd-fynd â hynny ac anghenion cymhleth.

Yn aml, bydd gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau amrywiaeth o anghenion cymorth a bydd nifer o asiantaethau yn ymwybodol ohonynt.  Mae llinellau cyfathrebu systematig y cytunir arnynt rhwng asiantaethau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, rheoli troseddwyr, diogelwch cymunedol a chymorth tai yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod anghenion cleientiaid yn cael eu nodi a'u diwallu.

Bydd gan asiantaethau partner weithwyr cymorth sy'n gweithio, neu sydd wedi bod yn gweithio, gyda phobl y mae llety yn cael ei ddarparu ar eu cyfer. Bydd gan rai ohonynt gynlluniau cymorth i fynd i'r afael â phroblemau a heriau sy'n ymwneud â'r llety dros dro. Yn yr un modd, mae Timau Plismona Cymdogaeth yn debygol o adnabod rhai o'r bobl hyn a bydd ganddynt ddulliau rhyngasiantaethol o gefnogi'r ddarpariaeth.

Dylai awdurdodau lleol gydweithio'n agos â Thimau Plismona Cymdogaeth, drwy'r Gell Cydgysylltu ar gyfer Digartrefedd, er mwyn sicrhau bod gan heddluoedd ddealltwriaeth glir o'r problemau ar lawr gwlad a'u bod yn gallu ymateb iddynt mewn ffordd gyson ac amserol. Bydd cynlluniau da a threfniadau atgyfeirio a chyfathrebu a ddeallir yn dda yn rhoi sicrwydd ychwanegol i staff. Efallai y gall timau plismona gymryd camau ymarferol, drwy gynnal ymweliadau anffurfiol â llety, darparu mwy o batrolau mewn ardaloedd lle y ceir problemau a chynnwys dangosyddion rhybuddio ar gyfeiriadau risg uchel lle y ceir trafferthion mynych

Enghraifft 1

Celloedd cydgysylltu yn trefnu cyfarfodydd telegynadledda wythnosol ar y cyd â darparwyr gwasanaethau a phartneriaid statudol i fonitro'r gwasanaeth a ddarperir. Ymhlith y sefydliadau a allai gymryd rhan mae:

Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, cynrychiolwyr yr Heddlu a Diogelwch Cymunedol, y bwrdd iechyd lleol, darparwyr llety a gwasanaethau cymorth (gan gynnwys darparwyr gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl).

Mewn rhai ardaloedd awdurdod lleol, mae uwch-swyddogion yr Heddlu wedi rhoi cymorth uniongyrchol i gelloedd cydgysylltu, gan atgyfnerthu trefniadau cydweithio effeithiol rhwng sefydliadau ac integreiddio gwasanaethau, lle y bo angen.

Enghraifft 2 

Mae un awdurdod lleol wedi datblygu gwaith partneriaeth da rhwng ei adran dai, y Bwrdd Cynllunio Ardal, Uned Ddibyniaeth a Gwasanaeth Rhagnodi Cyflym. Mae clinigau rheolaidd a arweinir gan nyrsys yn cael eu cynnal mewn gwestai a ddefnyddir ar gyfer llety argyfwng ac mae nifer o bobl yn cael asesiadau a thriniaeth ar gyfer eu dibyniaeth.

Llesiant a chymorth i staff a phobl eraill ar y safle

Mae sicrhau llesiant a diogelwch staff yn bwysig iawn ac yn hanfodol i'r broses o ddarparu gwasanaeth llwyddiannus. Bydd gan lawer o staff sy'n cefnogi preswylwyr brofiad helaeth o weithio gyda grŵp cleientiaid sydd ag anghenion lefel uchel, ond mae'n bosibl y bydd staff eraill wedi cael eu hadleoli o feysydd gwasanaeth eraill er mwyn darparu adnoddau ychwanegol i ddiwallu anghenion brys. Mae'n bwysig cydnabod y gall pobl eraill sydd wedi dioddef neu sydd wedi bod yn dyst i ddigwyddiadau brofi trawma ac y gall fod angen cymorth arnynt.

Gall hyd yn oed staff profiadol ei chael hi'n anodd ymateb i ymddygiad heriol yn y cyd-destun newydd hwn. Er enghraifft, gall staff sydd â phrofiad o roi cymorth mewn lleoliadau llety â chymorth fod yn gwneud hynny ar raddfa llawer mwy, lle mae nifer mawr o bobl wedi cael eu rhoi mewn gwestai a archebir fesul 'bloc'. Gall hyn arwain at heriau gwahanol a gall fod angen i staff addasu'r gweithdrefnau a'r dulliau gweithredu presennol er mwyn gweddu i'r amgylchedd.

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol a darparwyr cymorth gynllunio a chydgysylltu dulliau gweithredu a sicrhau bod mesurau ar waith i gefnogi staff a sicrhau bod pob person yn barod i gyflawni ei rôl yn hyderus ac yn ddiogel. Ymhlith y mesurau a all eu helpu i wneud hyn mae:

  • Sicrhau, lle y bo'n bosibl, bod staff yn cael hyfforddiant sefydlu a chymorth wrth ddelio â chleientiaid sydd ag anghenion cymhleth. Dylid rhoi ystyriaeth benodol i ddarparu cyfnodau sefydlu sy'n benodol i'r gwasanaeth yn ogystal â hyfforddiant i staff sydd wedi cael eu hadleoli o feysydd busnes a gwasanaethau eraill. Ystyried defnyddio hyfforddiant ar-lein ACE Aware Wales (gweler yr Atodiad) ar gyfer staff sy'n delio â chleientiaid sydd wedi profi trawma, er mwyn iddynt ddeall sut y gall trawma ddod i'r amlwg drwy ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Sicrhau bod nifer priodol o staff ar y safle a bod rotâu staff yn cynnwys staff profiadol ar y safle lle y bo'n bosibl.
  • Pwysleisio pwysigrwydd gwaith goruchwylio, ymarfer myfyriol a chymorth gan gymheiriaid
  • Sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gael i'r staff a'u bod yn cael manylion cyswllt ar eu cyfer. Er enghraifft, os digwyddodd rhywbeth trawmatig, mae'n rhaid rhoi cyfle i dimau drafod a siarad am eu profiad ar ôl y digwyddiad.
  • Rhannu deunydd cyfathrebu penodol sy'n pwysleisio pwysigrwydd lles staff a'r cymorth sydd ar gael (er enghraifft – drwy linellau cymorth cenedlaethol fel C.A.L.L. sy'n cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru).
  • Darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) a chyflenwadau glanhau digonol fel y bo angen. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi nodyn cyngor mewn perthynas â'r defnydd o gyfarpar diogelu personol mewn lleoliadau tai, iechyd, gofal cymdeithasol a chymorth.

Weithiau, bydd pobl eraill sy'n byw yn y llety yn wynebu trawma o ganlyniad i fygythiadau neu ddigwyddiadau treisgar. Os digwyddodd rhywbeth, mae'n rhaid i dimau sicrhau bod defnyddwyr eraill y gwasanaeth yn cael eu cefnogi, yn gorfforol ac yn seicolegol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Bydd angen sicrwydd arnynt a chyfle i siarad am y digwyddiad, yn ogystal â chyfle i nodi unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt. Dylai gwasanaethau sicrhau bod ganddynt fanylion cyswllt gwasanaethau cenedlaethol fel llinell gymorth C.A.L.L. a gwasanaethau iechyd meddwl lleol.

Addasrwydd safleoedd a'r broses o'u rheoli

Mae gwahanol fathau o lety wedi'u trefnu er mwyn darparu llety argyfwng ar yr adeg hon. Dylai awdurdodau lleol ystyried addasrwydd ac asesiadau risg wrth ddarparu llety argyfwng i unigolion.

Mae hefyd yn bwysig sefydlu a chynnal llinellau cyfathrebu clir â pherchenogion llety er mwyn iddynt wybod y gallant eich hysbysu am unrhyw broblemau gyda phreswylwyr.

Bydd natur y llety sydd ar gael yn amrywio hefyd rhwng ardaloedd awdurdod lleol. O ganlyniad, ni fydd 'un ffordd addas' o reoli safleoedd. Fodd bynnag, bydd yn bwysig ystyried sut y gellir mabwysiadu strategaethau rheoli eiddo sy'n gweddu i'r mathau o lety er mwyn ceisio atal achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a heriol rhag datblygu. Dylid ystyried y canlynol:

  • Nifer y cleientiaid sydd ar y safle
  • Lleoliad (e.e. mynediad at wasanaethau allgymorth a chymorth gan gynnwys a oes angen cymorth fel y bo'r angen neu gymorth ar y safle)
  • Anghenion cleientiaid: bydd y rhain yn amrywio - bydd angen i rai grwpiau gael cymorth arbenigol o ran gofal iechyd a bregusrwydd.  Dylid ystyried agosrwydd at wasanaethau cymorth arbenigol fel gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau dibyniaeth (gan gynnwys fferyllfeydd ar gyfer presgripsiynau) a gwasanaethau VAWDASV.
  • Y lefel o gysur a mynediad at gyfleusterau hanfodol
  • Sicrhau bod disgwyliadau a chyfrifoldebau o ran ymddygiad a rhyngweithio â phreswylwyr eraill a staff yn cael eu cyfathrebu'n glir i breswylwyr
  • Gofynion diogelwch: Mae pobl ddigartref sydd ag anghenion cymhleth yn 'grŵp cleientiaid' sy'n agored iawn i gael eu targedu gan gangiau troseddau cyfundrefnol a gwerthwyr cyffuriau, felly bydd yn bwysig sicrhau eu bod yn cael eu 'gwarchod' cymaint â phosibl rhag y bobl hyn. Mae adroddiadau yn awgrymu bod gangiau troseddau cyfundrefnol wedi addasu i'r cyfyngiadau symud a'u bod yn defnyddio gwisgoedd a manylion adnabod 'gweithwyr allweddol' (gan esgus bod yn weithwyr gofal, gwirfoddolwyr cymunedol, staff archfarchnad, gyrwyr dosbarthu ac ati) er mwyn osgoi cael eu stopio gan yr heddlu. Ymhlith y grwpiau sy'n wynebu risg benodol y bydd pobl yn camfanteisio arnynt mae'r rhai sydd ag anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl neu faterion dibyniaeth a merched sy'n ymwneud â gwerthu rhyw.
  • Mynediad at Wi-Fi, deunyddiau darllen a gweithgareddau priodol i osgoi diflastod

Enghraifft 1

Er bod cael nifer mawr o gleientiaid mewn gwestai a archebir fesul bloc yn gallu helpu i ganolbwyntio cymorth (yn enwedig staff sydd â phrofiad o gefnogi pobl sy'n ymddwyn mewn ffordd heriol neu anodd) a darparu hanfodion fel bwyd a meddyginiaeth, efallai y bydd angen diogelwch ychwanegol a mwy o staff hefyd.

Gall hefyd fod yn ddefnyddiol ystyried sut i ddefnyddio lloriau gwahanol i wahanu grwpiau penodol e.e. y rhai sy'n ymddwyn yn heriol pan fyddant yn cael eu rhoi gyda'i gilydd. Dylid dilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â rhannu pobl yn garfanau a gwahanu'r rhai sy'n dangos symptomau ac sy'n hunanynysu.

Enghraifft 2

Lle y bo'n bosibl, gall dull gwasgarog helpu i wahanu grwpiau sy'n ymddwyn yn heriol a chadw nifer cyffredinol y cleientiaid ym mhob llety argyfwng yn isel. Fodd bynnag, gall olygu y bydd y broses o ddarparu gwasanaethau cymorth yn fwy heriol ac efallai y bydd angen mwy o gymorth fel y bo'r angen a/neu gymorth o bell.

Bydd yn arbennig o bwysig ystyried anghenion cleientiaid a risgiau er mwyn asesu addasrwydd pan fydd unigolion yn cael eu rhoi mewn llety gwasgarog fel eiddo Airbnb.

Ymgysylltu cymunedol

Gall y rhaglen tai argyfwng arwain at bryderon ymhlith aelodau o'r gymuned mewn ardaloedd lle y caiff llety ei ddarparu. Dylai awdurdodau lleol a darparwyr gymryd camau priodol i roi gwybod bod mesurau diogelu wedi cael eu cymryd i gefnogi'r staff a'r preswylwyr yn eu llety â chymorth yn ogystal â'r gymuned ehangach. Gallai hyn gynnwys darparu rhifau cyswllt perthnasol i'w defnyddio mewn argyfwng a chyhoeddi'r polisïau sy'n cael eu dilyn, gan sicrhau eu bod ar gael ar-lein neu drwy ddeunyddiau ysgrifenedig cyhoeddedig. 

Gwasanaethau cymorth a dad-ddwysáu sefyllfaoedd

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'n gryf ddull a lywir gan seicoleg o gefnogi pobl sy'n ddigartref neu sy'n wynebu risg o fod yn ddigartref. Ceir rhagor o wybodaeth am y ffordd hon o ddeall anghenion unigolyn yn yr adran adnoddau ar ddiwedd y canllawiau hyn

Mae llawer o'r unigolion hyn wedi profi trawma, problemau iechyd meddwl neu broblemau camddefnyddio sylweddau sy'n debygol o fynd yn waeth yn sgîl y gorbryder, yr ynysu a'r pwysau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r cyfyngiadau symud. Er y bydd y ddarpariaeth yn edrych yn wahanol mewn ardaloedd gwahanol, mae'n hollbwysig bod cymorth ar gael er mwyn sicrhau bod unigolion yn gallu cael gafael ar gyflenwadau hanfodol, meddyginiaeth ac unrhyw ddarpariaeth glinigol ychwanegol fel gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Dylai anghenion unigol gael eu hasesu a'u dogfennu. Dylai fod gan staff broses asesu ar waith er mwyn nodi faint o gymorth sydd ei angen ar ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Pan fydd angen i breswylydd gael cymorth oherwydd problem iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau, mae'n bwysig deall ei anghenion ac unrhyw gymorth neu bresgripsiynau sydd eu hangen arno. Pan fydd preswylydd yn ddibynnol ar alcohol, mae'n hollbwysig deall difrifoldeb y ddibyniaeth, oherwydd gall trefniadau diddyfnu acíwt beri risgiau i iechyd unigolyn. Lle y bo angen, bydd angen i dimau drafod ag asiantaethau cymorth camddefnyddio sylweddau y ffordd fwyaf priodol o fynd i'r afael â dibyniaeth unigolyn, gan gynnwys atgyfeirio. Gallai cynnwys gwasanaethau arbenigol cyn gynted â phosibl helpu i atal y sefyllfa rhag gwaethygu a sicrhau y gall pobl aros yn y llety yn ddiogel. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gamddefnyddio sylweddau a gwasanaethau digartrefedd, sy'n cynnwys cyngor arbenigol ar leihau niwed.

Mae'n bwysig hefyd fod gwasanaethau yn deall ac yn ymwybodol o'r ffordd y gallai achosion o gamfanteisio arwain at ymddygiadau a gaiff eu dehongli fel ymddygiad gwrthgymdeithasol. Oherwydd incwm isel a chyffredinrwydd problemau iechyd meddwl, awtistiaeth ac anableddau dysgu ymhlith y digartref (nad ydynt yn aml wedi cael eu diagnosio), mae risg uwch y camfanteisir ar bobl sy'n cael eu rhoi mewn llety argyfwng. Dylai gwasanaethau sicrhau bod staff yn ymwybodol o arwyddion llinellau sirol a chogio a gweithio gyda'r heddlu i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon. Dylid helpu pobl yn y sefyllfa hon i osgoi achosion o gamfanteisio neu i ddianc rhag achosion o'r fath. Yn yr un modd, mae llawer o ferched sy'n ymwneud â gwerthu rhyw wedi cael eu cam-drin neu'n parhau i gael eu cam-drin. Bydd rhai ohonynt yn cael eu gorfodi a bydd pobl yn camfanteisio arnynt drwy waith rhyw, a fydd yn effeithio ar eu gallu i gadw at reolau a rheoliadau. Dylai gwasanaethau fabwysiadu dull a lywir gan drawma i'w helpu, yn hytrach na'u cosbi am yr hyn a ystyrir yn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae sicrhau bod y cymorth hwn ar gael yn hollbwysig wrth leihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a heriol. Dulliau ataliol sydd orau bob amser. Dylai timau staff, drwy drafod â'r unigolyn, sicrhau eu bod yn deall anghenion defnyddwyr gwasanaeth a'r ffyrdd gorau o leddfu ymddygiad unigolyn. Gall hyn gynnwys meithrin dealltwriaeth o 'ffactorau ysgogi' a all wneud ymddygiad unigolyn yn waeth.

Yn ogystal, mae camau ataliol y gellir eu cymryd i leihau'r angen i bobl adael eu hystafelloedd/llety ac i ddiddanu cleientiaid a'u cadw'n brysur. Gall cymryd camau o'r fath leihau pwysau ar gyllidebau personol, y gall gorbryder yn eu cylch arwain weithiau at ymddygiad aflonyddgar. Gall amrywiaeth eang o eitemau bach wneud gwahaniaeth ac, yn aml, gall darparwyr gael gafael ar eitemau o'r fath drwy ofyn am roddion. Ymhlith yr enghreifftiau mae:

  • Darparu ffonau symudol a ffyrdd o gyfathrebu er mwyn i gleientiaid gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu a chael gafael ar gymorth o bell (gan gynnwys darparu mynediad i'r rhyngrwyd)
  • Deunyddiau darllen, setiau radio, setiau teledu/peiriannau DVD, jig-sos a chonsolau gemau
  • Esgidiau, dillad a dillad isaf
  • Watshis neu glociau larwm
  • Pethau ymolchi ac eitemau gofal personol – eillwyr neu frwshys dannedd trydan, sychwyr gwallt
  • Cyflenwi offer cegin sylfaenol mewn ystafelloedd hunangynhwysol – llestri, micro-donnau, tegyll, oergelloedd bach

Sut i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a heriol

Mae'n bwysig cydnabod y cyd-destun heriol sy'n wynebu'r rhai y darparwyd llety ar eu cyfer a staff ar hyn o bryd. Er y gall preswylwyr ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac yn heriol am amrywiaeth o resymau, gall y cyd-destun penodol a grëwyd gan yr ymateb brys i COVID-19 arwain at ymatebion ymddygiadol a achosir yn benodol gan yr amgylchiadau hyn fel:

  • Pobl yn byw mewn ystafelloedd sengl pan fyddant yn fwy cyfarwydd â'r rhyddid o gerdded o amgylch eu hardal leol pan fyddant yn byw ar y stryd
  • y straen a'r heriau a achosir gan y cyfyngiadau symud a'r gofynion ynysu
  • mwy o niwsans sŵn am fod mwy o bobl yn cael eu cyfyngu mewn lleoliadau mwy o faint
  • mwyfwy o wasanaethau cymorth yn cael eu cynnig o bell, nad yw mor effeithiol o bosibl i rai unigolion
  • ymddygiad sy'n deillio o gymryd mwy o gyffuriau/yfed mwy o alcohol yn ystod y cyfyngiadau symud neu fethu â chael mynediad at sylweddau oherwydd y cyfyngiadau symud
  • ymddygiad sy'n deillio o'r ffaith bod unigolion wedi dechrau triniaeth ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau/alcohol a'u bod yn ei chael hi'n anodd rhoi strategaethau ymdopi ar waith i reoli gofid

Gall yr angen i gadw pobl y tu mewn er mwyn cydymffurfio â'r cyfyngiadau symud a chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ei gwneud hi'n anodd i staff fynd i'r afael ag ymddygiad heriol, gan nad yw'n glir beth fydd y canlyniadau os na chaiff disgwyliadau eu bodloni ac nad ydynt yn cymell unigolion i newid eu hymddygiad. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, bydd dulliau a pholisïau presennol yn y maes hwn yn berthnasol o hyd a dylid eu dilyn lle y bo'n briodol.

Gwrthod hunanynysu

Os yw unigolyn yn dangos symptomau ond yn gwrthod hunanynysu, dylai staff ddilyn y gweithdrefnau a nodir yma.

Os nad yw'r ymddygiad yn gwella neu os yw'n gwaethygu, gellid cymryd camau mwy ffurfiol. Yn ddelfrydol, dylid ceisio cymorth drwy'r Gell Cydgysylltu leol ar gyfer Digartrefedd cyn cysylltu â'r heddlu.

Rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol a heriol lefel isel

Ymddygiadau y gellir eu rheoli o fewn y llety yw'r rhain a gallent gynnwys:

  • smygu, yfed alcohol neu gymryd sylweddau eraill mewn ystafelloedd
  • cael ymwelwyr anawdurdodedig
  • mân ddifrod i eiddo
  • cweryla ar lafar â phreswylwyr eraill a staff (lefel isel)

Dylid dilyn dull a lywir gan seicoleg fel man cychwyn ar gyfer delio â'r ymddygiad hwn bob amser. Mae'r dull hwn yn canolbwyntio ar ddad-ddwysáu'r sefyllfa a cheisio ymgysylltu â'r unigolyn er mwyn ei helpu i ymddwyn yn fwy cadarnhaol. Gallai hyn gynnwys:

  • meithrin dealltwriaeth dda o'r achos neu'r rhesymau dros ymddygiad unigolyn
  • gweithio gyda'r unigolyn hwnnw i fynd i'r afael â'r achos/achosion
  • tynnu ei sylw drwy sgwrsio, ymlacio, ymarfer corff neu weithgareddau eraill sy'n hyrwyddo mwy o ymdeimlad o lesiant
  • cyfarfodydd anffurfiol ag unigolion i drafod ffyrdd o newid ymddygiadau neu fynd i'r afael â nhw
  • gweithio gydag unigolion i lunio cytundebau ymddygiad derbyniol er mwyn eu hannog i gymryd perchenogaeth dros eu hymddygiad a nodi atebion cadarnhaol
  • cyfryngu
  • technegau cyfweld ysgogiadol – yn enwedig' ymdrin â gwrthwynebiad mewn ffordd ddigynnwrf'
  • defnyddio dull cymorth gan gymheiriaid er mwyn cynnig cyfle i drafod â rhywun sydd â phrofiad go iawn
  • ystyried cyllidebau personol neu ddarparu eitemau a allai helpu i leihau diflastod a rhwystredigaeth, gan gynyddu'r tebygolrwydd y gwelir ymddygiad cadarnhaol

Os bydd asesiad yn nodi mai angen penodol am gymorth sy'n gyfrifol am ymddygiad heriol, dylai staff ystyried manteision ymgysylltu'n agosach â gwasanaethau allgymorth yn y meysydd canlynol:

Gwasanaethau iechyd meddwl

Gweithio gydag asiantaethau cymorth lleol i sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u bod yn cael hyfforddiant priodol ar dechnegau i ddad-ddwysáu sefyllfaoedd. Dylai fod gan wasanaethau fanylion cyswllt ar gyfer eu timau argyfwng iechyd meddwl lleol, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol a Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol. 

Gwasanaethau camddefnyddio sylweddau

Mae risgiau sylweddol yn wynebu pobl a all fod yn dechrau diddyfnu oddi wrth sylweddau y maent yn ddibynnol arnynt, neu'n cymryd mwy o sylweddau na'r arfer ar yr adeg hon. Gall diffyg argaeledd neu ansawdd sylweddau arwain at sefyllfa waeth hefyd. Mae'n bwysig sicrhau bod staff yn gallu cael gafael ar wasanaethau camddefnyddio sylweddau yn hawdd.

Dylid rhoi blaenoriaeth i gadw unigolion yn ddiogel a sicrhau eu bod yn cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth a chwnsela ym maes camddefnyddio sylweddau, yn ogystal â darparu cymorth emosiynol a strategaethau ymdopi i reoli gofid. Efallai y bydd angen i rai pobl gael help i gael gafael ar bresgripsiynau.

Mae rhagor o wybodaeth am gamddefnyddio sylweddau yma.

Ymddygiad heriol iawn a risg uchel

Mewn rhai achosion prin, gall ymddygiad unigolyn fod mor ddifrifol neu eithafol fel y bydd angen strategaethau ymgysylltu dwysach a/neu ymyriad uniongyrchol gan yr heddlu er mwyn diogelu'r unigolyn ei hun, preswylwyr eraill a staff. Mae ymddygiad o'r fath yn cynnwys:

  • Ymosodiadau difrifol
  • Ymddygiad hunan-niweidiol difrifol a/neu syniadau am hunanladdiad neu ymgais i gyflawni hunanladdiad
  • Bygythiadau i fywyd
  • Llosgi bwriadol
  • Digwyddiadau sy'n ymwneud ag arfau
  • Gweithgaredd troseddol arall (e.e. gwerthu cyffuriau)

Os caiff galwad ei gwneud i'r gwasanaethau brys, bydd yr heddlu yn ymateb yn seiliedig ar asesiad risg o'r digwyddiad y rhoddwyd gwybod amdano. Ar ôl derbyn galwad, naill ai drwy 999 neu 101, bydd yr heddlu yn cadarnhau cynnwys yr alwad ac yn penderfynu pa mor gyflym y mae angen iddo ymateb (os o gwbl).

Caiff yr ymateb a roddir ei benderfynu gan staff yr heddlu sy'n cymryd yr alwad, gan ddefnyddio adnodd asesu o'r enw 'THRIVE' (gweler yr Atodiad). Byddant yn cadarnhau'r ffactorau cyfredol o ran 'Bygythiad, Niwed, Risg, Cyfleoedd Ymchwilio, Bregusrwydd y Dioddefwr a'r Lefel Ymgysylltu', ynghyd â'r wybodaeth, yr opsiynau tactegol a'r galluoedd sydd ar gael i leihau'r risg a'r tebygolrwydd y caiff rhywun ei niweidio. 

Ar ran heddluoedd ledled Cymru, mae Heddlu De Cymru wedi gwneud yr ymrwymiad canlynol:

  • Bydd yr heddlu yn ymateb i fygythiadau a wneir i staff neu achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y llety, lle y bydd angen i staff gael help i reoli neu ddatrys y sefyllfa, yn unol ag egwyddorion THRIVE.
  • Bydd patrolau'r heddlu yn gweithredu yn yr un ffordd ag a wneir ar hyn o bryd o ran nodi gweithgaredd amheus yng nghyffiniau safleoedd a ddarparwyd i letya'r rhai sydd fel arfer yn cysgu ar y stryd ac ymateb i adroddiadau gan ddarparwyr a dinasyddion lleol lle y bydd amheuaeth bod cyffuriau yn cael eu gwerthu ac, unwaith eto, yn defnyddio egwyddorion THRIVE.
  • Bydd swyddogion sy'n ymgysylltu â'r rhai sy'n cysgu ar y stryd sy'n ceisio prynu cyffuriau gan ddelwyr yn eu hannog i ddefnyddio'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau sydd ar gael fel rhan o ddull o leihau dibyniaeth ar ddelwyr.
  • Bydd yr heddlu yn ymateb i unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn unol ag egwyddorion THRIVE, gan ganolbwyntio ar leddfu a datrys tensiynau.
  • Bydd swyddogion yr heddlu sy'n dod ar draws unigolion sy'n cysgu ar y stryd yn ymgysylltu â nhw i'w hannog i symud i mewn i lety neu i ddychwelyd yno.
  • Os bydd gweithgarwch ymgysylltu'r heddlu yn nodi bod gan rywun sy'n 'dychwelyd' i gysgu ar y stryd bryder ynghylch y llety, bydd yr heddlu yn cydgysylltu â'r darparwyr er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r pryderon hynny ac yn annog yr unigolyn dan sylw i ddychwelyd yno.
  • Pan fydd patrolau'r heddlu yn nodi bod pobl 'newydd' yn cysgu ar y stryd, bydd swyddogion yn rhoi gwybodaeth iddynt am y llety a'r cymorth sydd ar gael mewn perthynas â COVID-19 er mwyn eu hannog i fanteisio arnynt.

Caiff awdurdodau lleol a darparwyr eu hannog yn gryf i gofnodi unrhyw achosion o ymddygiad difrifol a risg uchel a rhoi gwybod i'w cell cydgysylltu leol ar gyfer digartrefedd am unrhyw gamau a gymerwyd. Bydd hyn yn helpu i reoli'r broses o ddarparu llety i unigolion eraill, naill ai mewn tai neu mewn lleoliadau eraill.

Enghraifft

Mewn un ardal awdurdod lleol, gwnaed trefniadau penodol gan yr heddlu fel nad oes rhaid i ddarparwyr tai ddeialu 101 pan fo materion yn codi. Mewn ardaloedd eraill mae presenoldeb yr Heddlu mewn cyfarfodydd wythnosol rheolaidd, a’r ffaith bod heddweision yn derbyn cyfrifoldebau penodol dros y rhai sy’n cysgu allan a bod modd cysylltu â nhw yn uniongyrchol, wedi helpu i roi sylw i ymddygiad heriol.

Symud unigolion o lety a/neu'r ddyletswydd i ddarparu llety

Dylai awdurdodau lleol ystyried pob opsiwn cymorth cyn penderfynu symud rhywun o lety argyfwng ar yr adeg hon. Gall yr ymddygiad a welir gan unigolion fod yn unigryw i'r unigolyn, y lleoliad a'r amgylchiadau anarferol sy'n deillio o gyfyngiadau symud COVID-19, felly nid yw'n debygol y bydd un ateb cyffredin ar gael. O'r herwydd, dylid ystyried amrywiaeth o opsiynau. Gall y rhain gynnwys y canlynol:

  • Darparu cymorth ychwanegol, penodedig i'r unigolyn.
  • Sicrhau bod anghenion meddygol yr unigolyn wedi'u diwallu. A yw'n derbyn y math cywir a'r lefel gywir o gyffuriau presgripsiwn sydd eu hangen? A ofynnwyd i'r Bwrdd Cynllunio Ardal perthnasol ar gyfer camddefnyddio sylweddau a phartneriaid cysylltiedig (gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl) weithio gyda'r unigolyn? A yw'n derbyn cymorth seicolegol i fynd i'r afael â lefelau gofid uniongyrchol ac achosion sylfaenol ei ymddygiad?
  • Gwahanu unigolion oddi wrth breswylwyr neu aelodau o staff y maent yn teimlo sy'n wrthwynebus a darparu lle diogel iddynt fod ar eu pennau eu hunain.  Gall hyn gynnwys defnyddio llety hunangynhwysol, modiwlaidd dros dro, ochr yn ochr â chymorth meddygol neu emosiynol priodol 
  • Lle y bo'n bosibl, adleoli i lety amgen yn yr ardal, a ddarperir gan yr awdurdod lleol neu gymdeithas dai.
  • Adleoli i awdurdod lleol cyfagos arall (ar ôl dod i gytundeb â'r awdurdod cynnal). Efallai y bydd rhai awdurdodau lleol yn gallu cynnig mathau amgen o lety a/neu lefel uwch o gymorth. 
  • Ystyried a yw unigolyn yn addas ar gyfer Tai yn Gyntaf (yn amodol ar ddarpariaeth leol)

Os bydd ymddygiad unigolyn yn parhau i beri dychryn neu ofid i staff a phreswylwyr eraill ac nad yw'n gwella, er gwaethaf pob ymgais i ymgysylltu â'r unigolyn hwnnw, neu os bydd ei ymddygiad yn ddifrifol a risg uchel a bod angen ymyrryd yn syth, gall fod angen ei symud o'r llety. Mae'n rhaid pwysleisio mai dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol o ymddygiad risg uchel y dylid cymryd y cam hwn, a dim ond pan fetho popeth arall. 

Os caiff unigolyn ei symud, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol weithio gydag asiantaethau partner sy'n gysylltiedig â diwallu anghenion defnyddiwr gwasanaeth. Dylai partneriaid sy'n rhan o gell cydgysylltu drefnu cynhadledd achos i ddod o hyd i'r ffordd orau o gefnogi'r cleient a rheoli'r risgiau a berir ganddo iddo ef ei hun neu eraill. Mae'n bwysig bod penderfyniadau a dulliau cefnogi yn cael eu dogfennu yng nghynllun tai neu gynllun cymorth personol unigolyn. Dylai'r cofnodion nodi'r trafodaethau a'r camau gweithredu a gymerwyd mewn perthynas â'r penderfyniad hwn er mwyn dangos yr holl gamau blaenorol a gymerwyd i fynd i'r afael â'r ymddygiad ac mai dyma'r dewis olaf.

Hyd yn oed pan gymerir y cam hwn, dylai'r awdurdod lleol ddefnyddio'r amser hwn i fonitro ac adolygu anghenion yr unigolyn yn barhaus a nodi'r mesurau y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau bod yr unigolyn yn dychwelyd i llety argyfwng.

Atodiad 1 Canllawiau ychwanegol

Rhannu’r dudalen hon