Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ddylai ddarllen y nodyn hwn?

Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus a chymunedol sydd eisoes yn berchen ar orsafoedd cynhyrchu adnewyddadwy annibynnol neu sy'n datblygu gorsafoedd cynhyrchu adnewyddadwy annibynnol. Mae'r gorsafoedd hyn naill ai'n allforio pŵer i'r grid, neu i ddefnyddiwr trwy wifren breifat.

Yn hytrach, dylai perchnogion ynni adnewyddadwy sydd wedi’i integreiddio mewn adeiladau, fel paneli solar ar ben to, gyfeirio at y canllawiau a grëwyd yn benodol ar gyfer rheoli solar ar ben to.

Diben y nodyn

Er mwyn cymdeithasoli pwysigrwydd rheoli perfformiad gorsafoedd cynhyrchu adnewyddadwy.

Darparu canllawiau lefel uchel ar sut i reoli a gwella perfformiad gorsafoedd cynhyrchu adnewyddadwy.

Cefndir

Mae llawer o sefydliadau sector cyhoeddus a chymunedol yn berchen, neu'n datblygu, gorsafoedd cynhyrchu adnewyddadwy annibynnol (e.e. gwynt, solar, dŵr).

Galluogir gweithrediad llwyddiannus gorsafoedd cynhyrchu trydan pan fydd perfformiad yn cael ei reoli gan y perchennog yn ddyddiol. Mae hyn yn wir ar gyfer pob maint a math o orsafoedd cynhyrchu, o solar to i wynt ar y môr.

Mae rheoli perfformiad, a elwir weithiau'n 'rheoli asedau' neu’n 'rheoli gweithredol', yn hanfodol er mwyn gwneud y mwyaf o gynhyrchu a lleihau amser segur. Mae rôl rheolwr perfformiad yn wahanol i'r gwasanaethau a wneir gan gontractwr Gweithredu, Monitro a Chynnal a Chadw.

Bydd rheolwr perfformiad yn;

  • monitro, cofnodi a dilysu data allweddol,
  • sicrhau bod contractwyr yn bodloni neu'n rhagori ar eu telerau gwasanaeth;
  • goruchwylio cydymffurfiaeth â chontractau a thrwyddedau,
  • rheoli contractau cyflenwi a phrynu
  • amlygu hawliadau yswiriant,
  • cadw dyddiadur gweithredol

Profwyd bod y tasgau hyn yn cynyddu faint o drydan a gynhyrchir yn sylweddol.

Dechrau arni

Os gallwch chi ei fesur, gallwch chi ei reoli.

Mae gweithrediad rhwydwaith a marchnad trydan y DU yn seiliedig ar ddata bob hanner awr. Mae trydan yn cael ei fesur, ei brynu a'i werthu mewn oriau cilowat (kWhs) wedi'u meintioli bob hanner awr gan ddefnyddio mesuryddion sy'n cydymffurfio â safonau’r diwydiant. Nid yw'n bosibl rheoli gorsaf gynhyrchu trydan yn effeithiol yn weithredol heb fynediad uniongyrchol i ddata’r mesurydd bob hanner awr, trwy wasanaeth casglu data. Gall systemau monitro o bell, a ddefnyddir gan gontractwyr i weithredu'r safle, roi mewnwelediad defnyddiol i reolwr perfformiad o weithrediad gorsaf gynhyrchu. Fodd bynnag, nid yw'r llwyfannau fel arfer yn darparu mynediad uniongyrchol i'r data mesurydd bob hanner awr, sy'n hanfodol i wirio refeniw a chostau, rheoli perfformiad generadur, perfformiad contractwr, a chydymffurfiaeth â thrwyddedau gweithredu, megis amodau cynllunio.

Mae angen i'r rheolwr perfformiad brosesu data bob hanner awr i'w wneud yn ddefnyddiol ar gyfer ei ddadansoddi. Y ffordd symlaf o wneud hyn yw trwy greu offeryn Excel.

Mae llyfryn Excel yn cael ei baratoi mewn fformat grid. Mae pob rhes yn ddyddiad calendr, ac mae pob colofn yn un o'r 48 o gyfnodau hanner awr o amser mewn diwrnod. Gellir cymhwyso Fformatio Amodol i'r ystod gwerth i roi arwydd gweledol o lynu wrth feincnodau perfformiad allweddol.

Mae data mesurydd cynhyrchu bob hanner awr yn dod (ar Ddiwrnod + 1 *) yn uniongyrchol o borth gwe’r casglwr data, mewn fformat csv neu Excel. Mae'r gwerthoedd data cynhyrchu bob hanner awr yn cael eu copïo a'u gludo i'r daflen waith a baratowyd ymlaen llaw. Mae'r fformatio amodol yn ymddangos.

(*Dydd+1 = y diwrnod yn syth ar ôl diwrnod o gynhyrchu trydan.)

Mae meincnodau perfformiad allweddol, sy'n benodol i'r orsaf gynhyrchu, fel capasiti megawat gosodedig, yn cael eu codio i mewn i'r Fformatio Amodol gan y rheolwr perfformiad. Er enghraifft;

  • Gellir codio gwerth data bob hanner awr sydd ar goll, (sy'n golygu nad oes data ar gael) i ymddangos mewn ffurfdeip coch.
  • Gall gwerth sero data bob hanner awr, (sy'n golygu dim cynhyrchiant) ymddangos mewn llenwad glas.
  • Gall gwerth data bob hanner awr uwch neu is na nifer benodol o gilowatiau (gan ganiatáu i berfformiad gwirioneddol gael ei feincnodi yn erbyn perfformiad disgwyliedig) ymddangos mewn ffurfdeip oren.

Os ychwanegir gwybodaeth am dariffau hefyd, gall offeryn Excel hefyd gyfrifo gwerth cynhyrchiant neu gost amser segur am bob cyfnod hanner awr. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer dilysu anfonebau a deall colli refeniw yn ystod amser segur.

Mae dadansoddi data’r mesurydd yn ddyddiol fel hyn yn galluogi'r rheolwr perfformiad i ddeall ar unwaith pa mor dda y mae'r orsaf gynhyrchu yn perfformio yn erbyn y disgwyl. Yna mae'n bosibl cymryd camau cyflym i ddatrys unrhyw broblemau, a thrwy hynny leihau colli cynhyrchiant neu gyfnodau o ddiffyg cydymffurfio â thrwyddedau gweithredu. Bydd y camau a gymerir yn amrywio ond byddant fel arfer yn golygu cysylltu â chontractwr i ddatrys problem o ran data neu berfformiad. Unwaith y bydd prosesau rheoli perfformiad ac offer dadansoddi wedi'u sefydlu, bydd rheoli perfformiad yn cymryd ychydig funudau bob dydd yn unig.

Defnyddio data bob hanner awr: dyrannu amser segur

Bydd contract Gweithredu a Chynnal a Chadw (O&M) yn gwarantu canran y flwyddyn y bydd gorsaf gynhyrchu ar gael i gynhyrchu pŵer. Er enghraifft, 95% 'Argaeledd' i'w gynhyrchu bob blwyddyn.

Gelwir cyfnod amser (hanner awr) pan nad yw gorsaf gynhyrchu ar gael i gynhyrchu pŵer yn amser segur a bydd yn debygol o arwain at y perchennog yn colli refeniw. Mae amser segur yn cael ei gategoreiddio fel naill ai wedi’i gynllunio neu heb ei gynllunio. Bydd y cyfrifoldeb am amser segur a gynlluniwyd (e.e. cynnal a chadw wedi'i drefnu) ac amser segur heb ei gynllunio (e.e. cynnal a chadw heb ei drefnu, toriadau grid, ac ati) yn cael eibriodoli naill ai i'r perchennog neu i'r contractwr O&M. Bydd cyfnodau o amser segur y tu hwnt i reolaeth y contractwr O&M yn cael eu tynnu o'r cyfrifiad Argaeledd

Fodd bynnag, gan fod y contractwr O&M yn monitro Argaeledd ac yna'n adrodd amdano i'r rheolwr perfformiad, mae'n hanfodol bod y rheolwr perfformiad yn dilysu dyraniad amser segur a gofnodwyd, yn hytrach na chaniatáu i gontractwr O&M 'farcio ei waith cartref ei hun'. Gellir cyflawni hyn drwy ddadansoddi data bob
hanner awr.

Os yw'r rheolwr perfformiad am herio cyfrifiad Argaeledd y contractwr O&M, bydd angen iddo ddangos tystiolaeth o'i hawliad gyda data bob hanner awr a dyddiadur gweithredol. Mae dyddiadur gweithredol yn galendr bwrdd gwaith lle mae'r rheolwr perfformiad yn cofnodi cyfnodau o amser segur wedi'u trefnu a heb eu trefnu a'u hachosion, yn ogystal â digwyddiadau sy'n sensitif i amser fel profi diogelwch, adnewyddu contractau, amodau cynllunio perthnasol a gwaith sifil.

Defnyddio data bob hanner awr: gweithredu a chynnal a chadw

Gall meithrin perthynas dda â pheirianwyr y contractwr O&M fod yn fanteisiol i gleientiaid llai, nad ydynt yn gyfleustodau, fel grwpiau cymunedol ac awdurdodau lleol. Y rheswm dros hyn yw bod contractwyr yn ffafrio cleientiaid sydd â gorsafoedd cynhyrchu lluosog, mawr yn hytrach na chleientiaid annibynnol â gorsaf/gorsafoedd cynhyrchu gweddol fychan.

Mae gan y mwyafrif o gontractwyr O&M orsafoedd cynhyrchu lluosog i’w monitro a’u cynnal ar ran cleientiaid: eu cymhelliant yw bodloni telerau cytundebol, fel Argaeledd, yn hytrach na sicrhau'r cynhyrchiant mwyaf. Ond bydd rheolwr perfformiad eisiau gwneud y mwyaf o'r amser y mae eu gorsaf eu hunain ar gael i gynhyrchu trydan, a faint o bŵer sy'n cael ei gynhyrchu.

Dwy weithred a fydd yn annog contractwr O&M i fodloni neu ragori ar delerau cytundebol yw;

  • Derbyn galwad brydlon gan reolwr perfformiad pan fydd perfformiad cynhyrchiant yn gostwng, yn gofyn am ddatrysiad.
  • Gwybod y bydd adroddiadau perfformiad misol yn cael eu gwirio'n fanwl gan reolwr perfformiad.

Efallai y bydd contractwr peirianneg Foltedd Uchel ar wahân hefyd, sy'n gyfrifol am y cysylltiad grid. Gellir contractio'r 'Uwch Berson Awdurdodedig' hwn ar wahân, ac mae'r un mor bwysig meithrin perthynas ag ef a monitro ei ymlyniad â thelerau cytundebol.

Nodyn ar fesur perfformiad technegol

Mae mesur perfformiad technegol gwaith cynhyrchu solar, gwynt neu ddŵr yn gymhleth. Mae angen ystyried nifer fawr o newidynnau ac fel arfer mae'r data i'w hystyried yn cael ei ddal ar systemau monitro, fel SCADA (Rheoli Goruchwylio a Chaffael Data). Mae data mesuryddion bob hanner awr yn ddangosydd defnyddiol, ond efallai y bydd angen ymchwiliad dyfnach gan gontractwr O&M.

Os yw rheolwr perfformiad yn pryderu nad yw'r safle yn bodloni ei fanyleb ddylunio, ac nad yw'r cyflenwr safle neu'r contractwr O&M yn gallu darparu esboniad rhesymol, mae'n bosibl trefnu adolygiad o berfformiad safle gan arbenigwr annibynnol. Mae'n bwysig bod telerau ac amodau cytundebol yn cynnwys mecanwaith er mwyn i hyn ddigwydd.

Defnyddio data bob hanner awr: cydymffurfio

Mae gorsafoedd cynhyrchu yn gweithredu'n gynyddol o dan gyfyngiadau grid. Er enghraifft, gall gweithredwr y rhwydwaith ofyn i'r allbwn gael ei leihau ar adeg benodol o'r dydd. Gall data bob hanner awr ddangos cydymffurfio neu ddiffyg cydymffurfio â chyfyngiadau gweithredu o'r fath.

Gall tyrbinau gwynt weithredu o dan gyfyngiadau sŵn, sy'n golygu bod yn rhaid lleihau allbwn pŵer o dan amodau amgylcheddol penodedig. Ceir tystiolaeth o gadw at amodau cynllunio drwy ddefnyddio data SCADA a gofnodwyd ym mhob tyrbin. Bydd diffyg cydymffurfio posibl yn weladwy i'r rheolwr perfformiad yn nata’r mesurydd cynhyrchiant bob hanner awr ar Ddiwrnod + 1, yn enwedig ar gyfer safleoedd tyrbinau gwynt sengl. Mae'r wybodaeth hon, ynghyd â thelerau O&M effeithiol, yn galluogi gweithredu camau adfer yn gyflym. Yn aml mae'n ofyniad trwyddedu i gynnal cofnodion electronig o ddata mesuryddion bob hanner awr, a data monitro arall. Mae'r data hwn yn profi cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau gweithredu. Mae colli data oherwydd nam ar y mesurydd, nam cyfathrebu neu anfoneb cyfathrebu heb ei dalu, yn dod i’r amlwg yn fuan ac yn cael ei ddatrys gan reolwr perfformiad sy'n dadansoddi data bob hanner awr yn ddyddiol.

Noder

Gall peidio â chydymffurfio â thrwyddedau gweithredu arwain at gau gorsaf gynhyrchu.

Defnyddio data bob hanner awr: refeniw a cholledion

Mae dilysu cymorthdaliadau trydan, prynu pŵer ac anfonebau cyflenwi yn cael ei wneud trwy groesgyfeirio tariffau a data mesuryddion bob hanner awr. Bydd y croesgyfeirio hwn hefyd yn dangos colledion mewn refeniw oherwydd amser segur heb ei gynllunio.

Defnyddio data bob hanner awr: hawliadau yswiriant

Fel arfer, mae perchnogion gorsafoedd cynhyrchu yn cael eu hyswirio yn erbyn cyfnodau hir o golled annisgwyl mewn cynhyrchiant. Mae'n bwysig bod colledion yn cael eu mesur a'u hamlygu.

Gwneir hyn gan ddefnyddio data bob hanner awr hanesyddol tymor hir i amcangyfrif allbwn generadur o dan amodau amgylcheddol tebyg. Felly, mae'n hanfodol bod y rheolwr perfformiad yn cadw cofnodion o ddata bob hanner awr hanesyddol i'w ddefnyddio ochr yn ochr â data amgylcheddol hanesyddol fel anemomedr, arbelydriad neu ddata llif.