Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i reoli daliadau data er mwyn cynhyrchu ystadegau swyddogol ac ymchwil gymdeithasol y llywodraeth gan Lywodraeth Cymru.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Mae'n ymwneud â'r daliadau data hynny sy'n cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru ar ôl i'r data hynny gael eu rhoi inni, ac nid yw'n gysylltiedig â rheoli unrhyw ddata yn y sefydliadau hynny sy'n darparu'r data.

Bydd yr holl ddaliadau data hynny'n cael eu rheoli yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, a'r canllawiau cysylltiedig, neu mewn rhai achosion â Cod ymchwil cymdeithasol y Llywodraeth, ac mae hynny'n berthnasol i ddaliadau sy'n deillio o ffynonellau gweinyddol neu ystadegol, ac ar ba ffurf bynnag y cânt eu cyhoeddi. Mae'r datganiad hefyd yn berthnasol i unrhyw ddogfennaeth neu fetadata perthnasol.

Gweithredu'r datganiad

Y Prif Ystadegydd, neu mewn rhai achosion, Y Prif Ymchwilydd Cymdeithasol, fydd yn gyfrifol am gadw llygad ar y datganiad hwn ar reoli data, ynghyd â bod yn gyfrifol am stiwardiaeth pob un o'n daliadau data.

Yn ymarferol, bydd y Prif Ystadegydd (neu'r Prif Ymchwilydd Cymdeithasol) yn dirprwyo'r cyfrifoldebau hynny i gyfres o reolwyr data, a'u rôl nhw yw sicrhau bod y daliadau data'n cael eu rheoli yn unol â'r arferion gorau o ran yr egwyddorion a'r safonau sydd wedi'u pennu yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, neu mewn rhai achosion, sydd wedi'u pennu yng Cod ymchwil cymdeithasol y Llywodraeth.

Yn benodol, bydd gan bob un o'r daliadau data reolwr data a enwir, a bydd cyfrifoldebau'r rheolwr hwnnw yn cynnwys y canlynol:

  • casglu, sicrhau ansawdd, a chynnal y daliad data, gan gynnwys arferion casglu, cadw a dinistrio data yn unol â'r cod ymarfer perthnasol, a gofynion archifo eraill
  • casglu a chadw  metadata ar gyfer daliad cyfan y data, gan gynnwys asesu dulliau sicrhau ansawdd yn unol â'r canllawiau  cysylltiedig â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, a dogfennaeth ar gyfer adnoddau ystadegol perthnasol
  • sicrhau mynediad i'r daliad data mewn modd sydd mor fanwl ag sy'n ymarferol a dibynadwy bosibl, yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol a rhai cyfrinachedd, mewn fformat defnyddiol a hyblyg i'r defnyddiwr
  • rheoli'r baich ar ddarparwyr y daliadau data drwy sicrhau bod y manylder sydd ei angen yn gymesur ac yn angenrheidiol, ac yn osgoi gorfod ail-wneud ceisiadau
  • gwarchod cywirdeb a diogelwch y daliad data yn unol â'r polisïau mewnol a hefyd y Ddeddf Diogelu Data, gan gynnwys: storio a throsglwyddo'r wybodaeth yn ddiogel; prosesu teg sy'n gysylltiedig â gwybodaeth bersonol; a asesiad rheolaidd o'r risgiau er mwyn adnabod unigolion o fewn y daliad data, dangos yr allbynnau ystadegol cysylltiedig, a nodi'r camau angenrheidiol i leihau'r risgiau hynny