Gall awdurdodau lleol a’r rhai sy’n derbyn cyllid gyrchu porth ar-lein newydd i gynnig, rheoli ac adolygu cynlluniau tai sydd angen cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd awdurdodau lleol yn defnyddio’r porthol i reoli eu Cynllun Cyflawni Rhaglen, sy’n amlinellu’r cynlluniau sydd i’w hariannu gyda’r Grant Tai Cymdeithasol dros y 3 i 5 mlynedd nesaf.
O fewn y porth:
- Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a thimau datblygu awdurdodau lleol yn 'Dderbynwyr Cyllid'.
- timau strategaeth awdurdodau lleol sy'n rheoli Cynllun Cyflawni'r Rhaglen yw 'Perchnogion y Cynllun'.
Bydd Derbynwyr Cyllid yn defnyddio'r porth i:
- cynnig cynlluniau newydd sydd angen cyllid
- gweld y cynlluniau yn yr ardal y maent yn gweithio ynddi
- rhoi sylwadau ar gynlluniau i hysbysu perchnogion cynlluniau am unrhyw ddiweddariadau
Bydd perchnogion cynlluniau yn defnyddio'r porth i:
- hyrwyddo cynlluniau i’r rhaglen
- rheoli’r rhaglen dai
- monitro’r rhaglen dai
Cofrestrwch i gael mynediad i'r porth rheoli cartrefi a lleoedd.