Rheoleiddio Darparwyr Addysg Uwch yng Nghymru
Hoffem glywed eich barn ar gynigion polisi a rheoliadau drafft yn ymwneud â sefydlu'r gofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair y Gweinidog
Wrth symud ymlaen â'n gwaith i ddiwygio'r sector addysg drydyddol ac ymchwil, mae arbenigedd proffesiynol ac ymgysylltiad parod ein rhanddeiliaid wrth iddynt gydweithio â ni ar ein taith wedi creu argraff fawr arnaf. Rwy'n argyhoeddedig mai'r cydweithrediad parhaus hwn fydd yn sicrhau llwyddiant a chynaliadwyedd y diwygiadau. Mae'r ddogfen hon, a'r Offerynnau Statudol drafft cysylltiedig, yw'r diweddaraf mewn cyfres o wahoddiadau i ymgysylltu unwaith eto.
Mae'r fframwaith cyffredinol ar gyfer system newydd o oruchwyliaeth reoleiddiol eisoes wedi'i sefydlu gan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
Nod yr ymgynghoriad hwn yw rhoi mwy o fanylder, gan alluogi'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, unwaith y bydd yn weithredol, i sefydlu'r system gofrestru ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru a rhoi eglurder i'r sector am yr hyn i'w ddisgwyl a phryd.
Rwyf wedi gwrando ar y negeseuon gan y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y newidiadau hyn, ac rwy'n benderfynol o hwyluso trosglwyddiad llyfn ac effeithiol o'r trefniadau presennol i'r system gofrestru newydd, yn enwedig o ran yr oruchwyliaeth reoleiddio a'r effeithiau ehangach ar gymorth myfyrwyr. Credaf ei bod yn hanfodol caniatáu digon o amser i hyn ddigwydd.
Felly, er fy mod yn disgwyl i lawer o waith y Comisiwn i ddatblygu'r system newydd, a'i ymgynghoriad â'r rhai yr effeithir arnynt, ddechrau yn ystod 2024 a 2025, fy mwriad erbyn hyn yw sefydlu'r gofrestr erbyn Gorffennaf 2026 a gweithredu'r trefniadau rheoleiddio cysylltiedig yn llawn ym mlwyddyn academaidd 2027 i 2028.
I helpu'r Comisiwn i gymryd y camau nesaf hyn, rhaid i ni wneud rhai Rheoliadau er mwyn i'r system gofrestru weithredu fel y bwriadwyd. Yr ymgynghoriad hwn yw'r cyntaf o sawl cam tuag at sefydlu cofrestr o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru. Bydd y Rheoliadau, ar ôl eu gwneud, yn sylfaen ar gyfer gwaith y Comisiwn.
Mae'r cyd-destun polisi yng Nghymru yn wahanol iawn i rannau eraill o'r DU. Rydym bob amser wedi bod yn falch o werthoedd a nodweddion unigryw ein sector addysg drydyddol. Nid yw'r diwygiadau hyn yn cael eu harwain gan y farchnad i reoli cannoedd o ddarparwyr, ond yn fodd o reoleiddio sector llai ac amrywiol yn effeithiol ac yn gymesur.
Mae ein dull o reoleiddio a rheoli perthnasoedd wedi bod, a bydd yn parhau i fod yn wahanol i'r hyn a weithredir mewn mannau eraill. Er bod y strwythurau a'r mecanweithiau yn newid, credaf yn gryf y bydd y perthnasoedd gwerthfawr hyn yn tyfu ac yn cryfhau.
Felly, mae'r gofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol wedi'i chynllunio i fod yn fecanwaith hyblyg ar gyfer rheoleiddio'r sector addysg drydyddol yn gymesur ac atebol yng Nghymru.
Bydd y gofrestr yn ffurfio'r "porth rheoleiddiol" ar gyfer dynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru. Mae'r ddeddfwriaeth sy'n sail i'r system newydd yn darparu ystod o ymyriadau rheoleiddiol i'r Comisiwn. Er mai mater i'r Comisiwn fydd nodi ei ddull o weithredu'r rhain, rwy'n disgwyl iddo gefnogi darparwyr i ddiogelu buddiannau myfyrwyr, trethdalwyr Cymru ac enw da addysg uwch yng Nghymru.
Gyda hyn mewn cof, credaf y bydd y Rheoliadau hyn yn rhoi rhyddid gweithredol i'r Comisiwn ddatblygu ei ddisgwyliadau ei hun o ddarparwyr er mwyn bodloni'r gofynion rheoleiddio a'i ddull penodol o fonitro ac ymyrryd. Edrychaf ymlaen at gael barn rhanddeiliaid ar y materion hyn.
Crynodeb
Cyflwyniad
Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, Deddf gan Senedd Cymru, ar 8 Medi 2022.
Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ("CCAUC") ac yn sefydlu corff newydd a noddir gan Lywodraeth Cymru, sef y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ("y Comisiwn").
Bydd y Comisiwn yn gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae addysg drydyddol yn cwmpasu addysg ôl-16 gan gynnwys addysg bellach ac addysg uwch, dysgu oedolion yn y gymuned, prentisiaethau a'r chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol.
Un o amcanion polisi cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu'r Ddeddf yw sefydlu sail ddeddfwriaethol effeithiol, gadarn a chynaliadwy ar gyfer rheoleiddio darparwyr addysg drydyddol.
Ni all darparwyr y cyllidir eu darpariaeth addysg uwch gan ffioedd dysgu yn bennaf gael eu rheoleiddio trwy delerau ac amodau'r Comisiwn yn unig gan fod taliadau ffioedd dysgu yn ymrwymiad cytundebol rhwng darparwyr a'u myfyrwyr. Felly, blaenoriaeth gynnar i'r Comisiwn fydd datblygu system goruchwylio rheoleiddiol ar gyfer y darparwyr hyn.
Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer system gofrestru ar gyfer darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru, ac i'r gofrestr gael ei sefydlu a'i chynnal gan y Comisiwn.
I ddechrau dim ond darparwyr addysg uwch fydd yn gymwys i wneud cais i gael eu cofrestru gyda'r Comisiwn, ac felly hwn fydd yr unig grŵp o ddarparwyr a fydd yn ddarostyngedig i'r amodau cofrestru ar y cychwyn cyntaf.
Bydd y gofrestr a'r amodau cofrestru cysylltiedig yn darparu porth rheoleiddio ar gyfer dynodi cyrsiau addysg uwch darparwyr cofrestredig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru a mynediad at gyllid gan y Comisiwn. Yn ogystal, mae Pennod 2 o Ran 2 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i asesu neu wneud trefniadau ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr cofrestredig neu ar eu rhan.
Mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer cysylltiad rhwng y gofrestr a phwerau'r Comisiwn i gyllido ystod o addysg drydyddol yn ogystal ag ymchwil ac arloesi. Mae'r Ddeddf yn galluogi'r Comisiwn i gyllido categorïau o ddarparwyr cofrestredig a bennir mewn rheoliadau at ddiben cefnogi addysg uwch a ddarperir gan neu ar ran darparwyr o'r fath, ynghyd â chynnal ymchwil neu arloesi.
Mae'r Ddeddf hefyd yn galluogi goruchwylio'n rheoleiddiol darparwyr nad ydynt wedi cofrestru sy'n dibynnu ar gyllid gan y Comisiwn i ddarparu eu darpariaeth addysg drydyddol, trwy delerau ac amodau cyllido. Bydd darparwyr addysg bellach neu hyfforddiant yn cael eu rheoleiddio drwy'r mecanwaith hwn i ddechrau. Fodd bynnag, bydd angen i ddarparwyr addysg bellach sy'n dymuno i'w cyrsiau addysg uwch gael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr gofrestru gyda'r Comisiwn.
Nid yw'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr addysg uwch mewn perthynas â ffioedd dysgu neu gostau cynhaliaeth. Mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud rheoliadau o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ar gyfer dynodi cyrsiau addysg uwch perthnasol darparwyr addysg uwch yn awtomatig at ddibenion cymorth statudol i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru.
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth i bennu materion yn ymwneud â sefydlu a gweithredu cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru. Bydd y gofrestr a'r amodau cofrestru cysylltiedig yn darparu'r fframwaith statudol i'r Comisiwn ar gyfer goruchwylio gweithgareddau darparwyr addysg drydyddol cofrestredig.
Diben yr ymgynghoriad hwn
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin ag ystod eang o faterion sy'n codi o'r Ddeddf yn ymwneud â'r gofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru. Mae'n ceisio adborth ar gynigion polisi ac ar reoliadau drafft y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gwneud ar gyfer y materion canlynol:
- Y gofrestr gan gynnwys y categorïau cofrestru, gwybodaeth i'w chynnwys yn y gofrestr, amodau cofrestru pellach, a chymhwystra darparwyr cofrestredig i dderbyn cyllid addysg uwch, ymchwil ac arloesi gan y Comisiwn
- Dynodi darparwyr fel sefydliadau at ddiben gwneud ceisiadau cofrestru
- Adolygiadau o benderfyniad gan unigolyn neu banel annibynnol
- Darpariaethau trosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dadgofrestru
- Yr egwyddor a ddylid cyflwyno is-ddeddfwriaeth er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn asesu ansawdd darparwyr addysg uwch ar gyfnodau rheolaidd penodedig
Mewn perthynas â materion 1 i 3 uchod, mae'r rheoliadau drafft canlynol yn cyd-fynd â'r ymgynghoriad hwn, y bwriedir eu gwneud yn ystod 2024:
- Rheoliadau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru).
- Rheoliadau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Dynodi Darparwyr) (Cymru).
- Rheoliadau Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru).
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am adborth ar y rheoliadau drafft.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn nodi cynigion polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer materion 4 a 5 uchod ac yn ceisio barn rhanddeiliaid ar y cynigion i alluogi paratoi rheoliadau pellach y bwriedir eu gwneud yn ystod 2025.
Bydd y rheoliadau hyn yn destun ymgynghoriad cyn cael eu gwneud.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â'r Brifysgol Agored ynghylch cynigion ar gyfer rheoliadau y mae angen eu gwneud i alluogi'r Brifysgol Agored i wneud cais cofrestru i'r Comisiwn ar gyfer eu gweithgareddau yng Nghymru.
Mae'r rheoliadau a'r polisi arfaethedig yn cyd-fynd â'r cynigion ar gyfer y system gofrestru sydd wedi'u cynnwys yn y Datganiad o Fwriad Polisi a gyhoeddwyd wrth gyflwyno'r Ddeddf.
Y trefniadau cyfredol ar gyfer rheoleiddio a dynodi cyrsiau addysg uwch
Gall myfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ddewis astudio cyrsiau addysg uwch mewn prifysgolion, colegau neu ddarparwyr eraill ledled y DU. Pan ddynodir y cwrs gan Weinidogion Cymru at ddibenion cymorth i fyfyrwyr, yna mae gan fyfyrwyr cymwys hawl i wneud cais am gymorth ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth mewn cysylltiad â'u hastudiaethau israddedig neu gymorth tuag at gostau astudiaethau ôl-raddedig (gradd meistr a doethuriaeth).
Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i ddynodi cyrsiau addysg uwch at ddibenion darparu cymorth i fyfyrwyr.
Mae dau lwybr ar gyfer dynodi cyrsiau addysg uwch ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, sydd â gofynion rheoleiddio gwahanol:
- Dynodiad awtomatig: nid oes angen i ddarparwyr wneud cais i ddynodi cwrs gan fod darpariaeth wedi'i wneud yn y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig er mwyn i'r dynodiad fod yn awtomatig os yw'r cwrs yn bodloni nifer o amodau, ac nad yw'n dod o fewn y rhestr o eithriadau. Dibynnir ar y goruchwyliaeth reoleiddiol a wneir gan y corff rheoleiddio neu gyllido perthnasol ym mhob un o weinyddiaethau'r DU.
- Dyma'r rheoliadau perthnasol mewn perthynas â dynodiad awtomatig:
- Dynodiad penodol neu fesul achos: mae angen i ddarparwyr wneud cais i gwrs gael ei bennu gan Weinidogion Cymru fel un a ddynodir (lle na fyddai'n cael ei ddynodi fel arall), CCAUC sy'n ymgymryd â'r oruchwyliaeth reoleiddiol ar ran Gweinidogion Cymru ar hyn o bryd.
Y trefniant presennol yw bod yn rhaid i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru sy'n dymuno i'w cyrsiau israddedig llawnamser gael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr wneud cais i CCAUC i gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad. Ar ôl cymeradwyo cynllun, mae darparwyr yn dod yn sefydliadau rheoleiddiedig a rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion CCAUC mewn perthynas ag asesu ansawdd, sicrwydd ariannol a llywodraethu yn ogystal ag ymrwymiadau mynediad teg a therfynau ffioedd sy'n ymwneud â'u cyrsiau cymwys llawnamser.
Ar hyn o bryd, mae'n ofynnol, yn ôl y rheoliadau cymorth myfyrwyr perthnasol, i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru sy'n dymuno i'w cyrsiau israddedig rhan-amser, eu graddau meistr ôl-raddedig neu eu graddau doethuriaeth gael eu dynodi'n awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr fod yn "sefydliad a gyllidir gan Gymru".
Caiff sefydliadau a gyllidir gan Gymru eu diffinio yn y rheoliadau perthnasol fel rhai sy'n cael eu cynnal neu eu cynorthwyo gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru. Mae sefydliadau o'r fath yn cynnwys sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru.
Pan fo darparwr o'r fath hefyd yn sefydliad rheoleiddiedig o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 ("Deddf 2015"), mae ei holl gyrsiau yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth reoleiddiol CCAUC at ddibenion asesu ansawdd. Os nad yw darparwr o'r fath yn sefydliad rheoleiddiedig o dan Ddeddf 2015, gellir sicrhau goruchwyliaeth reoleiddiol drwy'r telerau ac amodau cyllido.
Lle nad yw cwrs addysg uwch wedi'i ddynodi'n awtomatig, rhaid ei ddynodi'n benodol fesul cwrs os yw myfyrwyr am allu gwneud cais am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. CCAUC yn rheoli'r broses ar hyn o bryd ac mae'n cynghori Gweinidogion Cymru a ddylid dynodi cwrs penodol.
Mae polisi ar gyfer dynodi cyrsiau penodol yn cael ei weinyddu gan CCAUC ar ran Gweinidogion Cymru i ddelio â darparwyr addysg uwch y mae eu cyrsiau'n cael eu dynodi fesul achos. Nid yw'r rhain yn sefydliadau a reoleiddir o dan Ddeddf 2015, nid ydynt gan amlaf yn cael cyllid gan CCAUC (oni bai eu bod yn darparu cyrsiau addysg uwch rhan-amser) ac nid yw'n ofynnol iddynt fod yn elusennau.
Mae llawer o'r darparwyr y mae eu cyrsiau wedi'u dynodi'n benodol yn gweithredu'n gyfan gwbl neu'n bennaf y tu allan i Gymru ac ni fyddent yn gymwys i gofrestru gyda'r Comisiwn. Ar hyn o bryd mae gan 21 darparwr gyrsiau dynodedig, mae 6 ohonynt yn ddarparwyr yng Nghymru, 14 yn ddarparwyr yn Lloegr ac 1 yn ddarparwr yn yr Alban.
Rhaid i ddarparwyr wneud cais am ddynodiad penodol ar gyfer pob cwrs unigol a lleoliad y cwrs. Gall nifer y cyrsiau dynodedig newid dros amser wrth i gyrsiau newydd gael eu datblygu a chyrsiau presennol ddod i ben.
Yr angen am newid
Mae'r dirwedd addysg uwch wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n parhau i esblygu gyda mwy o amrywiaeth o ddarparwyr addysg uwch a mwy o ddewis i fyfyrwyr o ran lle, a sut, y gallant ymgymryd â'u hastudiaethau.
O ganlyniad, mae'r trefniadau presennol ar gyfer dynodi cyrsiau yng Nghymru wedi datblygu'n raddol mewn ymateb i newidiadau yn y sefyllfa o ran cyllido addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr.
Yn ogystal, nid yw'r drefn y darperir ar ei chyfer gan Ddeddf 2015 yn galluogi CCAUC i fod â chyfrifoldeb statudol dros reoleiddio pob darparwr addysg uwch yng Nghymru y mae eu cyrsiau wedi'u dynodi at ddiben cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru.
Cyflwynodd yr ymgynghoriad technegol ar ddiwygiadau i AHO gynigion ar gyfer adolygu goruchwyliaeth reoleiddiol darparwyr addysg uwch yng Nghymru ac ar gyfer diwygio'r trefniadau ar gyfer dynodi cyrsiau at ddibenion cymorth i fyfyrwyr. Yr egwyddorion sy'n sail i'r cynigion oedd symleiddio'r trefniadau gweinyddol, datblygu cydlyniant ar gyfer pob math o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru, ac ystyried y cysylltiadau trawsffiniol er mwyn gwneud y trefniadau i ddynodi cyrsiau mor syml ac effeithlon â phosibl.
Roedd yr ymgynghoriad technegol yn cynnig y byddai dynodi cyrsiau yn parhau i fod yn un o swyddogaethau Gweinidogion Cymru ac y byddai goruchwyliaeth reoleiddiol o'r holl ddarparwyr yng Nghymru y mae eu cyrsiau addysg uwch yn cael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr yn un o swyddogaethau'r Comisiwn.
Mae sefydlu'r gofrestr a'r system reoleiddio gysylltiedig yn gyfle i symleiddio'r broses ar gyfer dynodi cyrsiau.
System gofrestru'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Bydd y system gofrestru newydd y darperir ar ei chyfer gan y Ddeddf yn disodli'r drefn oruchwylio rheoleiddio addysg uwch gyfredol a weithredir gan CCAUC o dan Ddeddf 2015.
Bwriad y polisi yw y bydd y gofrestr yn darparu un porth rheoleiddio gyda gofynion sylfaenol cyffredin sy'n berthnasol i'r ystod lawn o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys prifysgolion, colegau addysg bellach a darparwyr eraill cyrsiau addysg uwch.
Lle darperir cyrsiau mewn trefniadau partneriaeth, bydd angen i'r sefydliad sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y cwrs gofrestru gyda'r Comisiwn. Er enghraifft, os yw sefydliad addysg bellach yn darparu cyrsiau addysg uwch ar ran prifysgol o dan drefniadau breinio, ni fyddai angen i'r sefydliad addysg bellach gofrestru gyda'r Comisiwn (oni bai ei fod hefyd yn darparu ei gyrsiau addysg uwch ei hun y mae'n dymuno iddynt gael eu dynodi'n awtomatig).
Felly, mae goruchwyliaeth reoleiddiol gadarn o ddarparwyr y mae eu cyrsiau'n cael eu dynodi at ddibenion cymorth i fyfyrwyr yn hanfodol i ddiogelu buddiannau myfyrwyr, Llywodraeth Cymru a threthdalwyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cynnal sefydlogrwydd wrth weithredu'r system cymorth statudol i fyfyrwyr ar adeg o newid sylweddol. Yn unol â'r cynigion a nodir yn y Datganiad o Fwriad Polisi a oedd yn cyd-fynd â'r Ddeddf pan gafodd ei chyflwyno i'r Senedd, bwriad y polisi presennol yw dynodi cyrsiau israddedig a chyrsiau TAR llawnamser darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn awtomatig ar yr amod eu bod yn cofrestru gyda'r Comisiwn.
Y nod hirdymor yw symleiddio'r trefniadau presennol ar gyfer darparwyr o Gymru sy'n dymuno i'w cyrsiau addysg uwch gael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr trwy ddibynnu ar un porth rheoleiddio y darperir ar ei gyfer gan y gofrestr a goruchwyliaeth reoleiddiol y Comisiwn o ddarparwyr cofrestredig.
Ni fydd y trefniadau dynodi cyrsiau ar gyfer darparwyr yng ngweddill y DU yn cynnwys cofrestr y Comisiwn, gan mai dim ond i ddarparwyr addysg uwch cofrestredig yng Nghymru y bydd hyn yn berthnasol. Hynny yw, y darparwyr addysg drydyddol hynny yng Nghymru sy'n darparu addysg uwch, gan gynnwys addysg uwch a ddarperir ar eu rhan, y mae eu gweithgareddau'n cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r trefniadau presennol ar gyfer dynodi cyrsiau'n awtomatig a dynodi cyrsiau penodol a bydd yn ymgynghori ar wahân ar hyn.
System gofrestru'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Y gofrestr a'r system goruchwylio rheoleiddiol
Y gofrestr fydd y mecanwaith ar gyfer cyflawni goruchwyliaeth reoleiddiol briodol a chymesur mewn perthynas â darparwyr addysg uwch cofrestredig sy'n derbyn cyllid cyhoeddus, gan gynnwys cyllid grant gan y Comisiwn, neu sy'n elwa ar ddynodi eu cyrsiau'n awtomatig at ddibenion cymorth ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru.
Bydd y system gofrestru yn rhoi modd cyfreithiol digonol i'r Comisiwn i sicrhau goruchwyliaeth reoleiddiol gadarn o ddarparwyr tra'n parchu ac yn diogelu eu hawtonomi a'u hannibyniaeth. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr sy'n dewis cofrestru gyda'r Comisiwn ddangos eu bod yn bodloni gofynion rheoleiddiol sylfaenol cychwynnol ac wedyn eu bod yn cydymffurfio â gofynion rheoleiddiol parhaus.
Amcanion polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer sefydlu'r system gofrestru yw:
- sicrhau rheoleiddio cadarn a chymesur ar gyfer sefydliadau yng Nghymru y mae eu cyrsiau'n cael eu cefnogi gan grantiau a benthyciadau addysg uwch Llywodraeth Cymru
- diogelu'r cyfraniad a wneir at fudd y cyhoedd sy'n deillio o gymhorthdal ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch
- cadw a diogelu awtonomi sefydliadol a rhyddid academaidd darparwyr addysg uwch
- sefydlu dull gweithredu y gellir eu addasu, os bydd angen, pe bai newidiadau i gyllid addysg drydyddol a'r amgylchedd rheoleiddio
- galluogi ehangu'r categorïau cofrestru yn y dyfodol i gwmpasu ystod ehangach o addysg drydyddol pe bai angen polisi'n codi
Nodir rhai gofynion yn ymwneud â'r system gofrestru yn Rhan 2 o'r Ddeddf. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol. Mae'r Ddeddf hefyd yn nodi amodau cofrestru cychwynnol a pharhaus sy'n berthnasol i ddarparwyr cofrestredig.
Yn ogystal, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau:
- bennu categorïau y mae'n rhaid gwneud darpariaeth ar eu cyfer yn y gofrestr
- gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chynnal adolygiadau o rai o benderfyniadau'r Comisiwn gan adolygydd penderfyniadau annibynnol
I sicrhau bod y gofrestr a'r system goruchwylio rheoleiddiol gysylltiedig yn gweithredu fel y bwriedir, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud rheoliadau ar gyfer materion penodol eraill. Y bwriad yw cyflwyno'r rheoliadau hyn mewn dwy gam:
Y rheoliadau sydd i'w gwneud yn y cam gyntaf yw'r rhai sydd wedi'u cynnwys gyda'r ymgynghoriad hwn, ac sy'n ymwneud â'r canlynol:
- y categorïau y mae'n rhaid i'r Comisiwn wneud darpariaeth ar eu cyfer yn y gofrestr
- gwahardd darparwyr rhag cofrestru mewn mwy nag un categori ar yr un pryd
- yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yng nghofnod darparwr yn y gofrestr
- amodau cofrestru cychwynnol a/neu barhaus pellach
- y categorïau o'r gofrestr y mae amod terfyn ffioedd yn berthnasol iddynt
- y categorïau o ddarparwyr cofrestredig sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan y Comisiwn
- dynodi darparwyr fel sefydliadau at ddiben gwneud cais cofrestru
- darpariaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o benderfyniadau'r Comisiwn gan berson neu banel annibynnol
Bwriedir i'r rheoliadau sydd i'w gwneud yn yr ail gam ymwneud â'r canlynol:
- cyrsiau cymwys a phersonau cymwys at ddibenion ffioedd cwrs rheoleiddiedig sy'n ddarostyngedig i derfynau ffioedd
- yr uchafswm na all y terfyn ffioedd a bennir mewn datganiad terfyn ffioedd fod yn fwy nag ef
- pryd y bydd ffioedd sy'n daladwy i ddarparwr mewn perthynas â chwrs y mae'n ei ddarparu ar ran darparwr cofrestredig i'w trin fel rhai sy'n daladwy i'r darparwr cofrestredig at ddibenion terfynau ffioedd
- darpariaethau trosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dileu sefydliad neu ei ddileu'n wirfoddol o gategori o'r gofrestr
- y Brifysgol Agored at ddiben gwneud cais cofrestru
Ar ôl derbyn ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r rheoliadau drafft ac yn ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau iddynt cyn eu cyflwyno i'r Senedd graffu arnynt.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu defnyddio'r ymatebion a dderbynnir i'r ymgynghoriad hwn i lywio'r gwaith o baratoi rhai o'r rheoliadau sydd i'w gwneud yn ystod cam 2. Wedyn cynhelir ymgynghoriad pellach maes o law ar y rheoliadau hynny a'r rheoliadau sydd i'w gwneud yn ymwneud â therfynau ffioedd dysgu yn ogystal â chyrsiau cymwys a phersonau cymwys at ddibenion ffioedd cwrs a reoleiddir.
Bydd y rheoliadau sydd i'w gwneud yn darparu'r sail ar gyfer gweithredu'r gofrestr a'r oruchwyliaeth reoleiddiol arfaethedig gan y Comisiwn. Bydd y manylion gweithredol, yn enwedig y disgwyliadau y mae'n rhaid i ddarparwyr sy'n gwneud cais i gofrestru eu bodloni a'r gofynion cydymffurfio parhaus sy'n berthnasol i ddarparwyr cofrestredig, yn faterion i'r Comisiwn benderfynu arnynt.
Categorïau cofrestru
Mae Rheoliadau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) drafft yn darparu ar gyfer y ddau gategori cofrestru, sef Addysg Uwch Craidd ac Addysg Uwch Amgen.
Bydd y dull hwn yn sicrhau goruchwyliaeth reoleiddiol gyson o ddarparwyr addysg uwch Cymru, y bydd eu cyrsiau israddedig yn cael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru, lle na ellir eu goruchwylio drwy delerau ac amodau cyllid yn unig.
Mae'r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i sefydlu categorïau cofrestru pellach sy'n berthnasol i wahanol fathau o ddarparwyr addysg drydyddol fel y bo'n briodol. Er nad oes angen polisi wedi'i nodi ar hyn o bryd, efallai y bydd angen pennu gwahanol gategorïau cofrestru yn y dyfodol. Er enghraifft, pe bai mathau newydd o gyllid cymorth myfyrwyr yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ehangu cyfleoedd addysg ôl-orfodol, megis mewn addysg a hyfforddiant technegol a galwedigaethol uwch nad ydynt yn radd. Yn ogystal, ar ôl sefydlu'r gofrestr, gallai'r Comisiwn ddewis darparu tystiolaeth i Weinidogion Cymru am yr angen, neu fel arall, i ehangu'r categorïau cofrestru i gwmpasu ystod ehangach o ddarparwyr a gyllidir.
Y bwriad polisi presennol yw rheoleiddio darparwyr nad ydynt wedi'u cofrestru trwy'r telerau ac amodau sy'n gysylltiedig â chyllid grant neu gyllid contract a dderbynnir gan y Comisiwn yn bennaf. Bydd y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu gan Lywodraeth Cymru ar ôl sefydlu'r gofrestr ar gyfer darparwyr addysg uwch.
Mater i'r Comisiwn fydd penderfynu ar fanylion y telerau ac amodau y mae'n eu gosod ar ddarparwyr a gyllidir. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn ystyried gosod telerau ac amodau yn ymwneud â llawer o'r amodau cofrestru cychwynnol, wrth ddarparu adnoddau ariannol i ddarparwr nad yw'n ddarparwr cofrestredigar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant, prentisiaethau, neu gyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau.
Bwriad hyn yw sicrhau goruchwyliaeth reoleiddiol gyfartal ar gyfer darparwyr cofrestredig a darparwyr heb eu cofrestru sy'n cael eu cyllido.
Cwestiwn 1: Rydym wedi rhoi enwau dros dro i'r categorïau cofrestru sef "Addysg Uwch Craidd" a "Addysg Uwch Amgen". Ydych chi'n cytuno â'r teitlau hyn, neu a oes gennych awgrymiadau eraill?
Cofrestru mewn mwy nag un categori
Bydd Rheoliadau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) drafft yn gwahardd cofrestru darparwyr yn y categori Addysg Uwch Craidd a'r categori Addysg Uwch Amgen ar yr un pryd.
Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn galluogi'r system reoleiddio a'r manteision i ddarparwyr i weithredu fel y bwriadwyd. Mater i ddarparwyr unigol yw ystyried pa gategori cofrestru sy'n briodol i'w hamgylchiadau. Rhagwelir y bydd y Comisiwn yn gallu nodi'r manteision a'r rhwymedigaethau sy'n codi o gofrestru ym mhob un o'r categorïau cofrestru.
Gwybodaeth i'w chynnwys yn y gofrestr
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod o fudd i fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill i'r Comisiwn sicrhau bod gwybodaeth benodol am ddarparwyr cofrestredig ar gael i'r cyhoedd, ac yn cael ei diweddaru, ar ôl sefydlu'r gofrestr.
Mae Rheoliadau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) drafft yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yng nghofnod darparwr yn y gofrestr.
Mae'n cynnwys:
- enw'r darparwr, manylion cyswllt, prif leoliad busnes a gwefan
- y categori cofrestru a dyddiad cofrestru
- y math o addysg drydyddol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr
- a yw'r darparwr yn elusen a rhif cofrestru'r elusen (lle bo hynny'n berthnasol)
- p'un a yw'r darparwr yn gwmni, ac os felly rhif cofrestru'r cwmni (lle bo hynny'n berthnasol)
- a oes terfyn ffioedd yn berthnasol i gofrestriad y darparwr, ac os felly manylion am sut i gael gafael ar ddatganiad terfyn ffioedd y darparwr
- p'un a oes gan y darparwr deitl prifysgol a/neu bwerau dyfarnu graddau
- a yw'r darparwr wedi ymrwymo i drefniadau dilysu
- a yw'r darparwr wedi ymrwymo i drefniadau breinio
Nid yw Llywodraeth Cymru yn dymuno bod yn rhy rhagnodol wrth nodi'r gofynion gwybodaeth gorfodol, ac mae'n ystyried mai'r gofynion a nodir yn y Rheoliadau drafft yw'r wybodaeth leiaf y dylid ei chynnwys yng nghofnod darparwr yn y gofrestr.
Bydd cyhoeddi'r materion penodedig, a'r gofyniad i gadw'r gofrestr yn gyfredol, yn sicrhau bod rhanddeiliaid yn gallu cael gafael ar wybodaeth gywir am ddarparwr cofrestredig.
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod yr wybodaeth y bydd yn ofynnol i ddarparwyr ei roi i'r Comisiwn yn ymwneud â materion sydd o fudd i'r cyhoedd ac y dylai'r baich gweinyddol ar ddarparwyr cofrestredig fod yn fach.
Nid yw'r materion a bennir yn y rheoliadau drafft yn cyfyngu ar allu'r Comisiwn i gynnwys gwybodaeth bellach yn y gofrestr pe bai'r Comisiwn yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
Cwestiwn 2: A ydych yn cytuno â'r wybodaeth awgrymedig sy'n rhaid ei chynnwys yng nghofnod darparwr yn y gofrestr? A oes unrhyw gynnwys arfaethedig y dylid ei ychwanegu neu ei dynnu o'r rheoliadau?
Cymhwystra ar gyfer cofrestru, manteision, a rhwymedigaethau ar gyfer darparwyr
Bydd cofrestru gyda'r Comisiwn yn ffurfio'r porth rheoleiddio i alluogi dynodi cyrsiau addysg uwch perthnasol darparwyr cofrestredig yn awtomatig at ddibenion cymorth myfyrwyr Llywodraeth Cymru.
Bydd cymhwystra i dderbyn cyllid at ddibenion cefnogi addysg uwch, ymchwil neu arloesi hefyd yn dibynnu ar gofrestru gyda'r Comisiwn.
Bydd cofrestru'n wirfoddol ar gyfer darparwyr addysg uwch. Fodd bynnag, bydd angen i bob darparwr addysg uwch yng Nghymru sy'n dymuno elwa ar fanteision cofrestru fynd ati i gofrestru gyda'r Comisiwn. Bydd darparwr yn gymwys i gofrestru yn un o'r categorïau addysg uwch arfaethedig os yw'n ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy'n darparu addysg uwch neu y mae addysg uwch yn cael ei ddarparu ar ei ran, ac ym marn y Comisiwn mae'n bodloni'r amodau cychwynnol sy'n berthnasol i'r categori cofrestru a geisir.
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol bod rhai amodau cychwynnol yn berthnasol i bob categori o'r gofrestr.
Mae'r Ddeddf yn gofyn bod y Comisiwn yn cyhoeddi ei ddisgwyliadau o ran y gofynion sydd i'w bodloni mewn perthynas â'r amodau cofrestru cychwynnol ac yn cynnal ymgynghoriad fel y mae'n ystyried sy'n briodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r Comisiwn ymgynghori â'r holl randdeiliaid perthnasol wrth ddatblygu ei ddisgwyliadau ar gyfer bodloni'r amodau cofrestru cychwynnol a'u diwygio yn y dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau bod darpar ymgeiswyr yn ymwybodol o'r gofynion y mae'n rhaid iddynt eu bodloni, a bydd rhanddeiliaid yn cael cyfle i wneud sylwadau ar gynigion y Comisiwn.
Pa ddarparwyr fydd angen cofrestru
Bydd angen i ddarparwyr addysg uwch sy'n dymuno i'w cyrsiau israddedig a TAR llawnamser penodol gael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru gofrestru gyda'r Comisiwn. Yn ogystal, bydd angen i ddarparwyr addysg uwch sy'n dymuno bod yn gymwys i dderbyn cyllid gan y Comisiwn at ddiben cefnogi addysg uwch, ymchwil neu arloesi hefyd gofrestru gyda'r Comisiwn.
Fel arfer, ni fydd angen i ddarparwyr sy'n darparu cyrsiau addysg uwch ar ran darparwr arall yng Nghymru neu mewn mannau eraill o dan drefniadau breinio gofrestru gyda'r Comisiwn, oni bai eu bod yn darparu eu cyrsiau eu hunain y maent yn ceisio dynodiad awtomatig ar eu cyfer at ddibenion cymorth i fyfyrwyr neu gyllid uniongyrchol gan y Comisiwn.
Yn y tymor hwy mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ystyried cymhwyso gofynion cofrestru i alluogi dynodi cyrsiau is-raddedig rhan-amser, yn ogystal â chyrsiau meistr a doethurol ôl-raddedig yn awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr. Bydd ymgynghoriad pellach ar hyn maes o law.
Amodau cofrestru
Amodau cofrestru cychwynnol pellach
Yn ogystal â'r amodau cofrestru cychwynnol a nodir ar wyneb y Ddeddf, caiff Gweinidogion Cymru bennu amodau cychwynnol pellach mewn rheoliadau.
Mae'r amodau cofrestru cychwynnol sy'n berthnasol i bob categori cofrestru wedi'u nodi ar wyneb y Ddeddf ac yn ymwneud â'r materion canlynol:
- ansawdd y math o addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran yr ymgeisydd y mae'r categori o'r gofrestr yn ymwneud ag ef
- effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli'r ymgeisydd (gan gynnwys ei drefniadau rheoli ariannol)
- cynaliadwyedd ariannol yr ymgeisydd
- effeithiolrwydd trefniadau'r ymgeisydd ar gyfer cefnogi a hybu lles ei fyfyrwyr a'i staff
- effeithiolrwydd unrhyw drefniadau dilysu i alluogi'r ymgeisydd i fodloni ei hunan o ansawdd yr addysg sy'n arwain at ddyfarnu cymhwyster o dan y trefniadau hynny
Mae Rheoliadau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) drafft yn darparu bod y materion isod hefyd yn amodau cofrestru cychwynnol:
- Statws elusennol: amod sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd fod yn elusen, sy'n berthnasol i'r categori Addysg Uwch Craidd yn unig. Mae hyn yn barhad o bolisi cyfredol Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf 2015
-
Cydymffurfio â gofynion cyfraith defnyddwyr: amod sy'n ymwneud â'r wybodaeth a ddarperir i ddarpar fyfyrwyr am y darparwr, ei gyrsiau a thelerau ac amodau ei gontractau gyda myfyrwyr, sy'n berthnasol i'r categorïau Addysg Uwch Craidd ac Addysg Uwch Amgen. Byddai disgwyl i ddarparwyr ddangos eu bod wedi rhoi sylw dyledus i gydymffurfio â chyfraith diogelu defnyddwyr, ac i gyngor (Saesneg yn unig) yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.
Cwestiwn 3: A ydych yn cytuno y dylid cynnwys y ddau amod cychwynnol pellach arfaethedig yn y rheoliadau?
Cwestiwn 4: A oes unrhyw amodau cychwynnol pellach eraill y credwch y dylid eu cynnwys yn y rheoliadau?
Amodau cofrestru parhaus gorfodol pellach
Yn ogystal â'r amodau cofrestru parhaus gorfodol a nodir ar wyneb y Ddeddf, caiff Gweinidogion Cymru bennu amodau gorfodol pellach mewn Rheoliadau.
Mae'r amodau cofrestru parhaus gorfodol a bennir ar wyneb y Ddeddf yn ymwneud â'r holl faterion a bennir yn yr amodau cofrestru cychwynnol a'r gofynion canlynol y mae'n rhaid eu cymhwyso i ddarparwyr cofrestredig:
- hysbysu'r Comisiwn am unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar gywirdeb yr wybodaeth a gynhwysir yng nghofnod y darparwr yn y gofrestr
- os rhoddir hysbysiad gan y Comisiwn, cael cynllun diogelu dysgwyr yn ei le sydd wedi'i gymeradwyo gan y Comisiwn ar neu cyn y dyddiad a bennir yn yr amod ac i roi effaith i'r cynllun
- cydymffurfio â'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir gan y Comisiwn
- cael canlyniadau mesuradwy mewn perthynas â chyfle cyfartal sy'n ymwneud â chynyddu cyfranogiad, cynyddu cyfraddau cadw, lleihau bylchau cyrhaeddiad a darparu cymorth mewn perthynas â dysgwyr sydd o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
- rhoi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn wrth arfer ei swyddogaethau
- darparu i'r Comisiwn, neu i berson sydd wedi'i awdurdodi gan y Comisiwn, unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau, systemau ac offer y darparwr sy'n rhesymol ofynnol gan y Comisiwn at ddiben arfer ei swyddogaethau goruchwylio rheoleiddiol
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y materion y darperir ar eu cyfer yn y Ddeddf yn cynnig sylfaen gynhwysfawr a chadarn ar gyfer goruchwyliaeth barhaus y Comisiwn o ddarparwyr cofrestredig.
Felly, cynigir y bydd ystod gyfyngedig iawn o faterion yn cael eu pennu yn y rheoliadau fel amodau cofrestru gorfodol pellach.
Mae Rheoliadau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) drafft yn darparu ar gyfer amodau cofrestru parhaus pellach.
Bydd yr amodau cofrestru parhaus canlynol yn berthnasol i'r categorïau Addysg Uwch Craidd ac Addysg Uwch Amgen:
- amod yn ymwneud â'r wybodaeth a ddarperir i ddarpar fyfyrwyr am ddarparwr, ei gyrsiau a thelerau ac amodau ei gontractau â myfyrwyr
- amod sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr hysbysu'r Comisiwn am unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar statws y darparwr fel darparwr addysg drydyddol yng Nghymru
Bydd yr amod cofrestru parhaus canlynol yn berthnasol i'r categori Addysg Uwch Craidd:
- amod sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr fod yn elusen.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried mai'r materion uchod yw'r amodau cofrestru pellach craidd i alluogi'r system goruchwylio rheoleiddio i weithredu fel y bwriadwyd. Y bwriad yw lleihau'r baich rheoleiddio ychwanegol a roddir ar ddarparwyr y tu hwnt i'r amodau parhaus gorfodol a bennir ar wyneb y Ddeddf.
Bydd y Comisiwn yn gallu cyflwyno amodau cofrestru parhaus pellach os yw'n ystyried bod unrhyw rai yn angenrheidiol yn amodol ar y gofynion ymgynghori perthnasol y darperir ar eu cyfer yn y Ddeddf.
Cwestiwn 5: A ydych yn cytuno â'r amodau parhaus gorfodol pellach a gynigir i'w cynnwys yn y rheoliadau?
Cwestiwn 6: A oes unrhyw amodau parhaus gorfodol eraill y credwch y dylid eu cynnwys yn y rheoliadau?
Cyfyngiadau ffioedd
Categori cofrestru y mae amod terfyn ffioedd yn berthnasol iddo
Mae Rheoliadau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) drafft yn darparu mai'r categori Addysg Uwch Craidd fydd y categori yn y gofrestr y bydd amod terfyn ffioedd yn berthnasol iddo.
Mae hyn yn gyson â'r polisi cyfredol fel y darperir ar ei gyfer yn Neddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, lle mae'n ofynnol i sefydliadau a reoleiddir gydymffurfio â therfyn ffioedd mewn perthynas â'u cyrsiau cymwys a gynigir i bersonau cymwys.
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn sicrhau bod amod cofrestru parhaus sy'n ymwneud â datganiadau terfyn ffioedd yn berthnasol i bob darparwr sydd wedi'i gofrestru mewn categori y mae'r terfyn ffioedd yn berthnasol iddo. Mae'n dilyn felly y bydd yn ofynnol i ddarparwyr sy'n dewis cofrestru yn y categori Addysg Uwch Craidd baratoi datganiad terfyn ffioedd i'w gymeradwyo gan y Comisiwn. Rhaid i ddarparwyr o'r fath sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn fwy na'r terfyn ffioedd cymwys.
Ni chynigir cymhwyso amod terfyn ffioedd i'r categori Addysg Uwch Amgen. Bydd cyrsiau addysg uwch israddedig llawnamser perthnasol darparwyr sy'n cofrestru yn y categori hwn yn cael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth ffioedd dysgu ar y gyfradd is (£6,185 y flwyddyn ar hyn o bryd).
Er y byddai darparwyr sy'n dewis cofrestru yn y categori Addysg Uwch Amgen yn gallu codi ffioedd dysgu sy'n fwy na'r terfyn ffioedd a roddir i ddarparwyr yn y categori Addysg Uwch Craidd, ystyrir ei bod yn annhebygol y bydd rhai, os o gwbl, yn dewis gwneud hynny.
Mae'r dull hwn yn sicrhau parhad gyda'r trefniadau presennol sy'n berthnasol i gyrsiau israddedig llawnamser sydd wedi'u dynodi'n benodol at ddiben cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru.
Cymhwystra i dderbyn cyllid gan y Comisiwn at ddibenion addysg uwch, ymchwil neu arloesi
Mae'r Ddeddf yn galluogi'r Comisiwn i gyllido categorïau penodol o ddarparwyr cofrestredig, fel y nodir yn y rheoliadau, at ddibenion cefnogi addysg uwch a ddarperir gan, neu ar ran, darparwyr o'r fath a chefnogi ymchwil neu arloesi.
Bydd cyllido gweithgareddau addysg uwch ac ymchwil neu arloesi yn fater i'r Comisiwn benderfynu arno. Gall y Comisiwn, er enghraifft, ddewis darparu cyllid mewn perthynas â chyrsiau sy'n ddrud i'w darparu, clustnodi cyllid ar gyfer mentrau penodedig neu gymell darparu cyrsiau penodol.
Mae Rheoliadau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) drafft yn gwneud darpariaeth i ddarparwyr sy'n cofrestru yn y categori Addysg Uwch Craidd fod yn gymwys ar gyfer, ond heb fod â hawl i, gyllid mewn perthynas ag addysg uwch, ymchwil neu arloesi.
Dynodiad fel sefydliad i wneud cais cofrestru
Os nad yw darparwr yn cael ei ystyried yn 'sefydliad' ni fydd yn gymwys i gofrestru gyda'r Comisiwn.
Mae'r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddynodi darparwr addysg drydyddol yng Nghymru fel sefydliad, at ddibenion y Ddeddf, mewn achosion lle na fyddai darparwr fel arall yn cael ei ddiffinio felly o dan y Ddeddf.
Mae hyn yn efelychu pŵer sy'n bodoli eisoes o dan adran 3 o Ddeddf 2015 nad yw wedi'i ddefnyddio hyd yma. Nid oes unrhyw ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru wedi gofyn am gael eu dynodi'n sefydliad at ddiben gwneud cais i CCAUC ar gyfer cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad.
Gall darparwr sy'n darparu addysg drydyddol yng Nghymru, ac na fyddai'n cael ei ystyried yn sefydliad oni bai am y dynodiad, wneud cais i gael ei ddynodi'n sefydliad.
Mae'r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn rheoliadau ynghylch gwneud cais am ddynodiad fel sefydliad, gwneud dynodiad a thynnu dynodiad yn ôl, gan gynnwys y materion sydd i'w hystyried wrth benderfynu a ddylid gwneud dynodiad neu dynnu dynodiad yn ôl, ac effaith tynnu dynodiad yn ôl.
Mae'r Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Dynodi Darparwyr) (Cymru) drafft yn gwneud darpariaeth ar gyfer y canlynol:
- y dylid gwneud ceisiadau am ddynodiad fel sefydliad yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru
- y dystiolaeth ategol sydd ei hangen i adnabod yr ymgeisydd a dangos ei fod yn darparu addysg drydyddol yng Nghymru, ac na fyddai'n cael ei ystyried yn sefydliad oni bai am y dynodiad
- wrth ystyried tynnu dynodiad yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a yw darparwr wedi gofyn i'w ddynodiad cyfredol gael ei dynnu'n ôl
- na ellir tynnu dynodiad yn ôl tra bod darparwr yn dal wedi'i gofrestru gyda'r Comisiwn
Nid yw cael ei ddynodi'n sefydliad yn rhoi unrhyw hawliau na rhwymedigaethau i ddarparwr addysg drydyddol ansefydliadol. Fodd bynnag, byddai dynodiad yn galluogi darparwr o'r fath i wneud cais cofrestru i'r Comisiwn.
Ar ôl cael ei ddynodi'n sefydliad, byddai angen i'r darparwr fodloni'r amodau cofrestru cychwynnol (sy'n berthnasol i'r categori yr oedd yn ceisio cofrestru ynddo) yn yr un modd ag unrhyw ddarparwr cymwys arall.
Darpariaeth mewn cysylltiad ag adolygu penderfyniadau
Pan fo'r Comisiwn yn dewis rhoi hysbysiad neu gyfarwyddyd yn unol â rhai o'i bwerau rheoleiddio, caiff darparwr ofyn am adolygiad o benderfyniad y Comisiwn. Mae'r trefniadau hyn yn sicrhau y bydd gan ddarparwyr hawl i gael adolygiad gan berson neu banel annibynnol a benodir gan Weinidogion Cymru.
Mae'r achosion lle caiff darparwyr ofyn am adolygiad o benderfyniad wedi'u nodi yn adrannau 45 a 78 o'r Ddeddf ac yn ymwneud â'r amgylchiadau canlynol:
- Mewn perthynas â'r system gofrestru a'r trefniadau rheoleiddio cysylltiedig:
- gwrthod cofrestru darparwr
- gosod neu amrywio amod cofrestru parhaus penodol
- cyfarwyddo darparwr mewn perthynas â methu â chydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus
- dileu darparwr o gategori o'r gofrestr
- pennu'r dyddiad y bydd darparwr yn cael ei dynnu o gategori o'r gofrestr
- rhoi hysbysiad yn gwrthod datganiad terfyn ffioedd neu amrywiad i ddatganiad o'r fath
- Mewn perthynas ag agweddau ar sicrhau ansawdd y trefniadau rheoleiddio:
- cyfarwyddo darparwr mewn perthynas â methu â chydweithredu â'r Comisiwn neu gorff ansawdd dynodedig
Mae'r Ddeddf TER yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn cysylltiad â chynnal adolygiadau gan yr adolygydd penderfyniadau a benodir gan Weinidogion Cymru.
Ar hyn o bryd mae Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig i ddyletswydd debyg i wneud darpariaeth o'r fath mewn perthynas ag adolygiadau o benderfyniadau CCAUC o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.
Mae Rheoliadau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) drafft yn darparu ar gyfer y bwriad polisi canlynol:
- rhaid i geisiadau gael eu gwneud yn ysgrifenedig i'r adolygydd penderfyniadau a benodir gan Weinidogion Cymru, cynnwys gwybodaeth benodol, a chael eu gwneud o fewn 40 diwrnod calendr i'r dyddiad y mae'r darparwr yn cael ei hysbysu gan y Comisiwn am ei benderfyniad arfaethedig
- gall yr adolygydd penderfyniadau argymell nad yw'r Comisiwn yn cymryd unrhyw gamau neu ei fod yn ailystyried ei benderfyniad gwreiddiol
- bydd y Comisiwn a'r darparwr sydd wedi gofyn am adolygiad yn cael eu hysbysu a'u diweddaru ynghylch ceisiadau am wybodaeth a chanlyniadau. Rhaid i'r ddau barti ymateb i geisiadau am wybodaeth ychwanegol o fewn 28 diwrnod o dderbyn cais gan yr adolygydd penderfyniadau
- rhaid i'r Comisiwn ailystyried ei benderfyniad gwreiddiol, os argymhellir ei fod yn gwneud hynny, a hysbysu'r ymgeisydd o ganlyniad hyn o fewn 40 diwrnod o dderbyn argymhelliad yr adolygydd penderfyniadau
Mae'r dull uchod yn debyg yn fras i'r trefniadau y darperir ar eu cyfer ar hyn o bryd gan Reoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2015.
Cwestiwn 7: Ydych chi'n cytuno â'r trefniadau a gynigir ar gyfer adolygu penderfyniadau?
Darpariaethau trosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dadgofrestru
Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer dadgofrestru darparwyr.
Gall dadgofrestru fod yn wirfoddol os yw darparwr yn gwneud cais i'r Comisiwn i gael ei dynnu oddi ar y gofrestr. Yn ogystal, mae gan y Comisiwn bŵer a dyletswydd i ddileu darparwr o'r gofrestr neu o gategori o'r gofrestr pan fo amgylchiadau penodol yn berthnasol fel y nodir yn y Ddeddf.
Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i sefydlu trefniadau trosiannol lle mae darparwr i gael ei ddileu o'r gofrestr, neu o gategori o'r gofrestr. Gallai trefniadau trosiannol gynnwys, er enghraifft, trin darparwr dadgofrestredig am gyfnod dros dro fel un sydd wedi'i gofrestru, er mwyn galluogi myfyrwyr sy'n cwblhau eu cyrsiau gyda'r darparwr i barhau i dderbyn cymorth i fyfyrwyr, ac i'r Comisiwn barhau â'u oruchwyliaeth reoleiddiol a chamau gorfodi dros dro wrth i fyfyrwyr gwblhau eu cyrsiau.
Pan fydd darparwr yn cael ei ddileu o'r gofrestr, a'i gyrsiau'n parhau wedi'i dynodi at ddiben cymorth i fyfyrwyr, mae Llywodraeth Cymru o'r farn y gallai fod angen i rai gofynion goruchwylio rheoleiddiol, megis ymyriadau rheoleiddiol fel gallu'r Comisiwn i roi cyfarwyddiadau penodol er enghraifft, barhau ar waith i ddiogelu myfyrwyr sy'n cwblhau eu cyrsiau.
Yn ogystal ag ymyriadau rheoleiddiol, y cynnig yw y dylid galluogi'r Comisiwn, fan leiaf, i barhau i orfodi terfynau ffioedd, cynnal asesiadau ansawdd a mynnu bod y darparwr sydd wedi datgofrestru yn darparu gwybodaeth i'r Comisiwn.
Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i'r amodau cofrestru parhaus sy'n berthnasol i ddarparwr cofrestredig barhau i fod yn berthnasol ddarparwr sydd wedi datgofrestru hefyd yn ystod y cyfnod y mae myfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau a ddynodwyd ar gyfer cymorth myfyrwyr yn cwblhau eu hastudiaethau.
Cwestiwn 8: A oes unrhyw faterion heblaw'r rhai a restrir y dylid galluogi'r Comisiwn i'w gorfodi os bydd darparwr wedi'i ddadgofrestru?
Asesiad o ansawdd addysg uwch
Mae'r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n pennu pa mor aml y dylai fod yn ofynnol i ddarparwyr cofrestredig addysg uwch gael asesiad ansawdd, a rhagnodi erbyn pryd y mae'n rhaid cyhoeddi adroddiadau asesu.
Roedd y Datganiad o Fwriad Polisi, a gyhoeddwyd gyda'r Ddeddf wrth ei chyflwyno i'r Senedd, yn nodi y byddai unrhyw reoliadau o'r fath yn debygol o bennu y dylai asesiadau addysg uwch gael eu cynnal o leiaf unwaith bob chwe blynedd. Mae hyn yn gyson â Fframwaith Sicrhau Ansawdd presennol CCAUC, a hefyd cylch arferol Estyn o arolygiadau mewn rhannau eraill o'r sector addysg ôl-orfodol.
Bwriad y dull arfaethedig, pe bai'n cael ei weithredu, fyddai cefnogi'r Comisiwn gyda'i ddyletswydd i asesu, neu i wneud trefniadau i asesu, ansawdd addysg uwch a ddarperir yng Nghymru gan, neu ar ran, pob darparwr addysg uwch cofrestredig. Byddai'r dull hefyd yn cyd-fynd â'r gofynion statudol sydd ar waith mewn perthynas ag amlder yr arolygiadau yn rhannau eraill o'r sector addysg drydyddol.
Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar yr egwyddor o bennu amlder yr asesiadau ansawdd mewn addysg uwch fel y nodwyd uchod ac ar yr angen i gyflwyno rheoliadau yn y dyfodol ac effaith hynny.
Cwestiwn 9: A ydych yn cytuno â'r egwyddor o wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol asesu ansawdd addysg uwch bob chwe blynedd o leiaf i gyd-fynd â'r gofynion statudol ar gyfer rhannau eraill o'r sector ôl-16 ac arferion cyfredol CCAUC a nodir yn ei fframwaith asesu ansawdd?
Y trefniadau pontio
Ar hyn o bryd mae sefydliadau yng Nghymru y mae eu cyrsiau addysg uwch llawnamser yn cael eu dynodi'n awtomatig at ddiben cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth reoleiddiol gan CCAUC o dan Ddeddf 2015.
Yn dilyn diddymu CCAUC, cynigir y bydd y Comisiwn yn gweithredu fframwaith rheoleiddio Deddf 2015 am gyfnod trosiannol pan fydd y gofrestr a'r system goruchwylio rheoleiddiol gysylltiedig o dan y Ddeddf yn cael eu sefydlu.
Bydd y dull hwn yn galluogi goruchwylio sefydliadau rheoleiddiedig o dan Ddeddf 2015 ac yn caniatáu trosglwyddiad esmwyth i'r drefn reoleiddio newydd.
Asesiadau effaith
Mae gwerthuso effaith yn rhan hanfodol o ddatblygu polisi ac rydym wedi cynnwys rhai cwestiynau ynghylch cydraddoldeb a'r Gymraeg. Rydym yn croesawu adborth ynghylch unrhyw effeithiau tebygol, cadarnhaol a negyddol, sy'n deillio o'r rheoliadau, yn ogystal ag unrhyw gyfleoedd posibl ar gyfer camau lliniaru. Bydd hyn yn cael ei ymgorffori yn yr asesiadau effaith a gynhelir.
Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno sicrhau bod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y rheoliadau sydd i'w gwneud mewn perthynas â'r gofrestr yn adlewyrchu barn yr holl randdeiliaid perthnasol yn llawn ac felly wedi cynnwys rhai cwestiynau lefel uchel am hyn yn yr ymgynghoriad hwn. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn ceisio penodi ymgynghorwyr allanol i ymgysylltu â rhanddeiliaid i amcangyfrif costau lefel system posibl ar gyfer y system gofrestru. Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ac asesiadau effaith eraill gyda'r rheoliadau drafft pan fyddant wedi'u gosod.
Cwestiwn 10: A ydych yn rhagweld unrhyw oblygiadau o ran adnoddau i'ch sefydliad yn deillio o'r rheoliadau neu'r system gofrestru?
Cwestiwn 11: A oes gennych unrhyw dystiolaeth y gallem ei defnyddio i'n helpu i asesu costau a manteision gweithredu'r system gofrestru arfaethedig?
Cwestiwn 12: Ar wahân i ddarparwyr addysg uwch a'r Comisiwn, a oes unrhyw randdeiliaid eraill sy'n debygol o wynebu costau sy'n deillio o'r system gofrestru, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol? Os oes, rhowch fanylion y rhanddeiliaid yn y sylwadau ategol.
Cwestiwn 13: A ydych yn credu y gallai unrhyw un o'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn effeithio (yn gadarnhaol neu'n negyddol) ar unrhyw bersonau sydd â nodweddion gwarchodedig sy'n cael eu cynnwys yn y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?
Cwestiwn 14: A oes lle i unrhyw un o'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydynt yn ei rhannu?
Cwestiwn 15: A oes unrhyw effeithiau negyddol yn debygol o godi o'r rheoliadau ar grwpiau penodol o bobl neu leoedd penodol? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?
Cwestiwn 16: Hoffem wybod eich barn am yr effaith y byddai sefydlu'r gofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol cynnig yn ei chael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Beth fyddai’r effaith, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?
Cwestiwn 17: Esboniwch hefyd sut ydych chi’n credu y gallai’r rheoliadau drafft arfaethedig ar gyfer sefydlu'r gofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol gael eu llunio neu eu newid er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a dim effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cwestiwn 18: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â hwy yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny.