Rheoleiddio darparwyr addysg uwch a dynodi cymorth i fyfyrwyr
Rydym yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer rheoliadau pellach i gefnogi sefydlu cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol sy'n darparu addysg uwch yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair y Gweinidog
Mae ein gwaith o ddiwygio’r system addysg a hyfforddiant ôl-16 yn parhau ar garlam, a bellach mae’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a elwir yn Medr, ar waith.
Medr yw’r stiward cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer yr holl sector addysg drydyddol ac ymchwil ac mae’n dwyn ynghyd y cyfrifoldeb dros oruchwylio addysg uwch ac addysg bellach, dosbarthiadau chwech mewn ysgolion, prentisiaethau, ac ymchwil ac arloesi yng Nghymru, mewn un lle.
Trwy gyfrwng y diwygiadau y darparwyd ar eu cyfer yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio llunio strwythur a system newydd er mwyn esgor ar sector addysg drydyddol mwy ymgysylltiol, rhagorach a thecach a fydd yn rhoi blaenoriaeth i fuddiannau dysgwyr ac a fydd yn cyfrannu at ffyniant cenedlaethol.
Mae gweithio gyda rhanddeiliaid wedi bod yn hollbwysig o ran datblygu’r diwygiadau hyn. Er mwyn cyflwyno’r diwygiadau’n llwyddiannus a sicrhau eu cynaliadwyedd, bydd angen parhau i gydweithredu. Yr ymgynghoriad hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o gyfleoedd i gyflwyno safbwyntiau ynglŷn â’n cynigion.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y broses ar gyfer dynodi cyrsiau addysg uwch yng Nghymru at ddibenion cymorth i fyfyrwyr.
Mae’r ddeddfwriaeth sy’n sail i’r system newydd yn cynnig fframwaith ymyrraeth reoleiddio y gall Medr ei ddefnyddio i ddatblygu ei ddisgwyliadau ei hun o ddarparwyr i fodloni gofynion rheoleiddio a’i ddull neilltuol o fonitro ac ymyrryd.
Edrychaf ymlaen at glywed barn rhanddeiliaid ynglŷn â’r materion hyn.
Cefndir
Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“y Ddeddf TER”), Deddf gan Senedd Cymru, ar 8 Medi 2022.
Mae’r Ddeddf TER yn darparu ar gyfer diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) a sefydlu corff newydd, sef y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (a elwir yn Medr). Sefydlwyd Medr fel endid cyfreithiol ar 15 Rhagfyr 2022 ac fe’i rhoddwyd ar waith ar 1 Awst 2024. Ar y dyddiad hwnnw hefyd, cafodd CCAUC ei ddiddymu.
Ar ôl gweithredu’r holl swyddogaethau y darperir ar eu cyfer yn y Ddeddf TER, bydd Medr yn gyfrifol am hyrwyddo, cyllido a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae addysg drydyddol yn cwmpasu addysg ôl-16, yn cynnwys addysg bellach ac addysg uwch, dysgu oedolion yn y gymuned, prentisiaethau, a darpariaeth dosbarthiadau chwech mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol.
Mae Rhan 2 o’r Ddeddf TER yn darparu ar gyfer system gofrestru ar gyfer darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru (“y gofrestr”). Bydd y gofrestr yn darparu dull cyfreithiol ar gyfer goruchwylio darparwyr addysg drydyddol cofrestredig yng Nghymru, sy’n derbyn cyllid, yn cynnwys cyllid grant gan Medr a chymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru.
Un o amcanion polisi cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu’r Ddeddf TER yw sefydlu sail ddeddfwriaethol effeithiol, gadarn a chynaliadwy ar gyfer rheoleiddio darparwyr addysg drydyddol sy’n darparu addysg uwch. Yn achos darparwyr y caiff eu darpariaeth addysg uwch ei chyllido’n bennaf trwy gyfrwng ffioedd ddysgu, ni ellir eu rheoleiddio trwy delerau ac amodau cyllido Medr yn unig, gan fod taliadau ffioedd dysgu yn ymrwymiad contractiol rhwng darparwyr a’u myfyrwyr.
O’r herwydd, mae’n hanfodol darparu goruchwyliaeth reoleiddiol gadarn o ddarparwyr y caiff eu cyrsiau eu dynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, er mwyn amddiffyn buddiannau myfyrwyr, Llywodraeth Cymru a threthdalwyr.
Bwriad y polisi yw y bydd y gofrestr yn darparu un porth rheoleiddio gyda gofynion sylfaenol cyffredin sy’n berthnasol i’r ystod lawn o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys prifysgolion, colegau addysg bellach a darparwyr eraill cyrsiau addysg uwch. Bydd y gofrestr a’r trefniadau rheoleiddio cysylltiedig yn darparu fframwaith statudol a ddefnyddir gan Medr i oruchwylio gweithgareddau darparwyr cofrestredig.
Bydd y gofrestr yn disodli’r drefn oruchwylio rheoleiddio addysg uwch flaenorol a weithredwyd gan CCAUC o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) ac a weithredir yn awr gan Medr.
Mae Adran 25(2) o’r Ddeddf TER yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu un neu fwy o gategorïau cofrestru y mae’n rhaid i Medr ddarparu ar eu cyfer yn y gofrestr. Mae Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru a Dadgofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) 2024 yn darparu ar gyfer dau gategori cofrestru, yn y lle cyntaf, dim ond i ddarparwyr addysg uwch y bydd y categorïau hynny’n berthnasol.
Er bod y Ddeddf TER yn darparu ar gyfer y posibilrwydd o ymestyn y categorïau cofrestru i gwmpasu addysg drydyddol yn ehangach, mae hwn yn fater y gellir ei ystyried yn y dyfodol ar ôl sefydlu’r gofrestr ar gyfer darparwyr addysg uwch.
Mae’r Ddeddf TER yn galluogi goruchwylio’n rheoleiddiol darparwyr nad ydynt wedi cofrestru, sy’n dibynnu ar gyllid gan Medr i ddarparu eu darpariaeth addysg drydyddol, trwy delerau ac amodau cyllido. Bydd darparwyr addysg bellach neu hyfforddiant yn cael eu rheoleiddio drwy’r mecanwaith hwn i ddechrau. Fodd bynnag, bydd angen i ddarparwyr addysg bellach sy’n dymuno i’w cyrsiau addysg uwch gael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr gofrestru gyda Medr.
Bydd y gofrestr yn cael ei sefydlu gan Medr, mewn perthynas â darparwyr addysg uwch, ar 31 Gorffennaf 2026, a bydd y drefn reoleiddio gysylltiedig yn cael ei rhoi ar waith yn llwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2027 i 2028.
Yn ystod 2026 i 2027, bydd darparwyr cofrestredig yn cael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf TER mewn perthynas ag ansawdd, rheolaeth ariannol, llywodraethu, a materion sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr megis y cod ymgysylltu â dysgwyr, cynlluniau diogelu dysgwyr, a lles staff a myfyrwyr.
Ar ôl i’r drefn reoleiddio gael ei rhoi ar waith yn llwyr, bydd terfynau ffioedd dysgu a materion yn ymwneud â chyfle cyfartal hefyd yn cael eu rheoleiddio trwy gyfrwng y gofrestr, o flwyddyn academaidd 2027 i 2028 ymlaen.
Mae cofrestru yn esgor ar ddwy fantais fawr i ddarparwyr, sef dynodi eu cyrsiau addysg uwch yn awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru, yn unol â’r cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad hwn, a’r ffaith y byddant yn gymwys i gael cymorth ariannol gan Medr mewn perthynas ag addysg uwch ac ymchwil neu arloesi.
Bydd y drefn ar gyfer dynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig yn cael ei rhoi ar waith o flwyddyn academaidd 2027 i 2028 ymlaen, a bydd cymhwystra am gyllid yn cael ei roi ar waith o 2028 ymlaen.
Canlyniad yr ymgynghoriad blaenorol
Mae’r system gyffredinol mewn perthynas â goruchwyliaeth reoleiddiol wedi’i sefydlu eisoes gan y Ddeddf TER, a’r Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf honno. Hefyd, yn ystod 2023 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynglŷn â chynigion polisi a Rheoliadau drafft yn ymwneud â sefydlu’r gofrestr.
Yn yr ymgynghoriad blaenorol hwnnw, ceisiwyd barn rhanddeiliaid ynglŷn â thri offeryn statudol, sef:
- Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) 2024 (“y Rheoliadau cofrestru”).
- Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Dynodi Darparwyr) (Cymru) 2024 (“y Rheoliadau dynodi”).
- Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2024 (“y Rheoliadau adolygu penderfyniadau”).
Gwnaed y Rheoliadau cofrestru a’r Rheoliadau dynodi gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar 6 Tachwedd 2024, a daethant i rym ar 11 Tachwedd 2024. Y bwriad yw y bydd y Rheoliadau adolygu penderfyniadau’n cael eu gwneud gan y Gweinidog cyn toriad yr haf 2025.
Hefyd, ceisiodd yr ymgynghoriad blaenorol farn rhanddeiliaid ynglŷn â chynigion polisi’n ymwneud â’r materion canlynol:
- Darpariaethau trosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dadgofrestru.
- Yr egwyddor a ddylid cyflwyno is-ddeddfwriaeth er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn asesu ansawdd darparwyr addysg uwch ar gyfnodau rheolaidd penodedig.
Ar ôl ystyried yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad, penderfynwyd na ddylid bwrw ymlaen â rheoliadau ar hyn o bryd, mewn perthynas â’r ddau fater uchod.
Darpariaethau trosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dadgofrestru
Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer dadgofrestru darparwyr. Gall dadgofrestru fod yn wirfoddol os yw darparwr yn gwneud cais i Medr i gael ei dynnu o gategori o’r gofrestr. Yn ogystal, mae gan Medr bŵer a dyletswydd i ddileu darparwr o’r gofrestr, neu o gategori o’r gofrestr, pan fo amgylchiadau penodol yn berthnasol fel y nodir yn y Ddeddf TER.
Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i sefydlu trefniadau trosiannol lle mae darparwr i gael ei ddileu o’r gofrestr, neu o gategori o’r gofrestr. Roedd yr ymgynghoriad blaenorol yn ceisio barn rhanddeiliaid ynglŷn â gwneud darpariaeth o’r fath gan Weinidogion Cymru.
Ar ôl ystyried yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad, penderfynwyd peidio â bwrw ymlaen â gwneud rheoliadau o’r fath ar hyn o bryd. Mae’r amgylchiadau a fyddai’n arwain at ddadgofrestru yn debygol o fod yn benodol i ddarparwr unigol, ac o’r herwydd, gwaith anodd fyddai pennu’r holl ddarpariaethau a fyddai’n berthnasol i bob amgylchiad.
Er bod modd gwneud Rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cyfres sylfaenol o drefniadau trosiannol, a allai fod yn berthnasol i bob amgylchiad pan fo darparwr wedi cael ei ddadgofrestru (ond pan fo’n parhau i ddarparu cyrsiau i fyfyrwyr sydd wedi dechrau eu hastudiaethau), go brin y byddai’r Rheoliadau’n ymdrin â’r holl faterion perthnasol. O’r herwydd, gellir dweud gyda chryn sicrwydd y byddai angen gwneud cyfres arall o Reoliadau ar gyfer ymdrin â’r senario benodol mewn perthynas â darparwyr yn cael eu dadgofrestru.
Amlder asesiadau ansawdd addysg uwch
Ceisiodd yr ymgynghoriad farn rhanddeiliaid ynglŷn â’r egwyddor y dylid nodi mewn rheoliadau pa mor aml y dylid asesu ansawdd darparwyr addysg uwch cofrestredig. Y cynnig oedd y byddai unrhyw reoliadau a wnaed yn debygol o nodi y dylid cynnal asesiadau addysg uwch bob chwe blynedd o leiaf. Roedd hyn yn cyd-fynd â’r Fframwaith Sicrhau Ansawdd a roddwyd ar waith yn flaenorol gan CCAUC ac a weithredir bellach gan Medr, a hefyd roedd yn cyd-fynd â chylch arolygu arferol Estyn mewn rhannau eraill o’r sector addysg ôl-16.
Er bod nifer o’r ymatebwyr yn cytuno mewn egwyddor â’r syniad y dylid gwneud rheoliadau cyffredinol a chael dull cyson o asesu ansawdd ledled y sector, roedd nifer o’r farn bod angen rhoi ystyriaeth ofalus i nifer yr amodau yn y rheoliadau, er mwyn i Medr allu rhoi dull hyblyg ar waith, yn enwedig mewn amgylchiadau fel uno neu yn ystod pandemig.
Nid ydym yn bwriadu bwrw ymlaen â rheoliadau o’r fath ar hyn o bryd, er mwyn rhoi cyfle i Medr orffen sefydlu’r gofrestr a datblygu ei fframwaith sicrhau ansawdd o dan adran 50 o’r Ddeddf TER (pe bai’n penderfynu datblygu fframwaith o’r fath). Bydd y polisi hwn yn parhau i gael ei ystyried ac efallai y bydd rheoliadau’n cael eu llunio’n ddiweddarach os penderfynir y byddai hynny o werth.
Diben yr ymgynghoriad hwn
Gan adeiladu ar y materion yr aethpwyd i’r afael â nhw yn yr ymgynghoriad blaenorol a gynhaliwyd ym mis Hydref, mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio adborth ar gynigion polisi ar gyfer ail gyfres o reoliadau a wneir gan Weinidog Cymru, a fydd yn cynorthwyo i sefydlu cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol sy’n darparu addysg uwch yng Nghymru.
Bwriedir y bydd y rheoliadau a wneir yn yr ail gyfres yn ymwneud â’r canlynol:
- cyrsiau cymhwysol a phersonau cymhwysol at ddibenion ffioedd cyrsiau rheoleiddiedig sy’n ddarostyngedig i derfynau ffioedd
- yr uchafswm na all y terfyn ffioedd a bennir mewn datganiad terfyn ffioedd fod yn fwy nag ef
Hefyd, mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi polisi arfaethedig Llywodraeth Cymru mewn perthynas â dynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru. Bwriad y polisi arfaethedig yw defnyddio’r cyfleoedd a gyflwynir yn sgil creu’r gofrestr i esgor ar ddull syml a chymesur o oruchwylio darparwyr, ynghyd â’u cyrsiau a gaiff eu dynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr ac sy’n ddarostyngedig i derfynau ffioedd.
Terfynau ffioedd dysgu
Trefniadau cyfredol mewn perthynas â therfynau ffioedd
Er bod codi ffioedd dysgu yn fater i bob darparwr addysg uwch, mae Llywodraeth Cymru yn gosod nifer fechan o derfynau ffioedd trwy gyfrwng deddfwriaeth. Ar hyn o bryd, yn achos darparwyr yng Nghymru sy’n sefydliadau rheoleiddiedig o dan Ddeddf 2015, caiff yr uchafswm y gallant ei godi ar gyfer eu cyrsiau gradd llawnamser ei nodi yn Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015.
Ni chaniateir iddynt godi mwy na’r terfyn ffioedd a ragnodir ar ‘bersonau cymhwysol’ pan fydd y personau hynny’n dilyn ‘cyrsiau cymhwysol’ a ddarperir gan sefydliadau rheoleiddiedig yng Nghymru.
Bydd benthyciad ffioedd dysgu cyfatebol ar gael i fyfyrwyr cymwys, felly ni fydd yn rhaid iddynt dalu unrhyw gostau dysgu ymlaen llaw.
Yn unol â’r cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ym mis Rhagfyr 2024, mae’r terfyn ffioedd wedi cynyddu i £9,535 ar gyfer cyrsiau a fydd yn dechrau ar, neu ar ôl, 1 Awst 2025. Hefyd, bydd uchafswm y benthyciad ffioedd dysgu yn cynyddu i £9,535.
Trefniadau arfaethedig ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â therfynau ffioedd dysgu
Bydd ail gyfres y Rheoliadau cofrestru’n cynnwys darpariaeth, a wneir o dan adran 46 o’r Ddeddf TER, a fydd yn rhagnodi’r terfyn ffioedd ar gyfer cyrsiau a fydd yn dechrau ar, neu ar ôl, 1 Awst 2027.
Cyrsiau cymhwysol a phersonau cymhwysol at ddibenion y terfyn ffioedd
Trefniadau cyfredol ar gyfer cyrsiau cymhwysol a phersonau cymhwysol
Mae Deddf 2015 yn darparu ar gyfer cynlluniau ffioedd a mynediad. Mae’n ofynnol i gynlluniau o’r fath nodi terfyn ffioedd mewn perthynas â phob ‘cwrs cymhwysol’. Ni ddylai’r terfyn ffioedd a nodir mewn cynlluniau ffioedd a mynediad fod yn uwch na’r terfyn ffioedd a ragnodir mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Mae ‘cwrs cymhwysol’ yn golygu cwrs a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, ac a ddisgrifir mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
O dan Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“Deddf QCP 2015”), mae cwrs cymhwysol yn gwrs y gellir ei ddynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, ac nid yw’n gwrs rhan-amser.
Ar hyn o bryd felly, mae cyrsiau cymhwysol yn cynnwys cyrsiau israddedig llawnamser (lefel 4 i 6) a chyrsiau Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) llawnamser, ac mae’r cyrsiau hyn yn ddarostyngedig i’r terfyn ffioedd a ragnodir pan gânt eu dilyn gan bersonau cymhwysol. Caiff cyrsiau rhan-amser a chyrsiau ôl-raddedig (lefel 7+) eu heithrio, ac o’r herwydd nid ydynt yn ddarostyngedig i derfyn ffioedd.
Mae Rheoliadau QCP 2015 hefyd yn rhagnodi personau cymhwysol. Mae’r personau hyn yn perthyn i un o’r categorïau a nodir yn y Rheoliadau hynny, gan gyd-fynd yn fras â’r categorïau o bersonau sy’n gymwys i gael cymorth statudol i fyfyrwyr.
Rhagor o drefniadau arfaethedig ar gyfer cyrsiau cymhwysol a phersonau cymhwysol
Mae’r Ddeddf TER yn ei gwneud yn ofynnol i Medr sicrhau bod amod cofrestru parhaus sy’n ymwneud â therfynau ffioedd yn cael ei gymhwyso at bob darparwr sydd wedi cofrestru mewn categori lle mae amod terfyn ffioedd yn berthnasol. Mae’r Rheoliadau cofrestru’n nodi y bydd yr amod terfyn ffioedd yn berthnasol i ddarparwyr sydd wedi cofrestru yn y categori Craidd.
Bydd yn ofynnol i ddarparwyr sydd wedi cofrestru yn y categori Craidd baratoi datganiad terfyn ffioedd, a fydd yn cael ei gymeradwyo gan Medr. Rhaid i’r datganiad terfyn ffioedd nodi’r terfyn ffioedd, neu ddarparu ar gyfer pennu’r terfyn ffioedd, mewn perthynas â phob cwrs cymhwysol. Rhaid i ddarparwyr sicrhau na fydd y terfynau ffioedd a nodir yn y datganiad yn uwch na’r terfyn ffioedd a ragnodir.
Mae adran 32 o’r Ddeddf TER yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi pa gyrsiau sy’n gyrsiau cymhwysol, a phwy yw’r personau cymhwysol, at ddibenion yr amod terfyn ffioedd.
Y bwriad yw gwneud darpariaeth o dan adran 32 o’r Ddeddf TER tua diwedd 2025, fel rhan o ail gyfres y Rheoliadau cofrestru.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi sail resymegol ar gyfer newid y polisi presennol. Felly, ar hyn o bryd, y bwriad yw peidio â newid cyrsiau cymhwysol, a bydd cyrsiau TAR a chyrsiau gradd llawnamser yn parhau i fod yn gyrsiau cymhwysol at ddibenion yr amod terfyn ffioedd.
Golyga hyn na fydd cyrsiau rhan-amser, na chyrsiau gradd ac eithrio cyrsiau TAR, yn gyrsiau cymhwysol at ddibenion yr amod terfyn ffioedd, ac na fyddant o’r herwydd yn ddarostyngedig i derfynau ffioedd.
Mae nifer y myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau rhan-amser gyda darparwyr yng Nghymru wedi cynyddu 29% rhwng 2017 a 2022, o gymharu ag 14% yn unig gyda darparwyr yn Lloegr.
Hefyd, mae nifer y myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau ôl-raddedig a addysgir gyda darparwyr yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol: cynnydd o fwy na thraean rhwng 2017 a 2022, o gymharu â chynnydd o un rhan o bump yn unig ymhlith darparwyr yn Lloegr. Ymhellach, nid yw cymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig yn darparu cymorth ar gyfer ffioedd, yn hytrach, ceir ‘cyfraniad at gostau’ (boed y costau hynny’n ffioedd neu’n gostau o fath arall), felly ni cheir unrhyw sail resymegol glir dros gysylltu neu gyfyngu ffioedd i ddarparu’r cymorth hwn i fyfyrwyr.
Awgryma hyn fod y modelau cyfredol ar gyfer cyllido cyrsiau rhan-amser a chyrsiau ôl-raddedig yn parhau i fod yn briodol ar hyn o bryd, ac nad oes angen cyflwyno terfyn ffioedd.
Y bwriad hefyd yw cynnal y polisi presennol mewn perthynas â phersonau cymhwysol.
Dynodi cyrsiau at ddibenion cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru
Cyflwyniad
Caiff myfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ddewis astudio cyrsiau addysg uwch mewn prifysgolion, mewn colegau neu gyda darparwyr eraill ledled y DU. Pan fo’r cwrs wedi cael ei ddynodi, gan Weinidogion Cymru, at ddibenion cymorth i fyfyrwyr, yna bydd gan fyfyrwyr cymwys hawl i wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth mewn perthynas â’u hastudiaethau gradd neu gymorth tuag at gostau eu hastudiaethau ôl-raddedig (gradd meistr neu radd ddoethurol).
Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i ddynodi cyrsiau addysg uwch ar gyfer darparu cymorth i fyfyrwyr.
Ar hyn o bryd, ceir dau lwybr ar gyfer dynodi cyrsiau addysg uwch at ddibenion cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru. Mae gan y ddau lwybr ofynion gwahanol mewn perthynas â goruchwyliaeth reoleiddiol, sef:
- Dynodiad awtomatig: nid oes angen i ddarparwyr wneud cais i ddynodi cwrs gan fod darpariaeth wedi’i wneud yn y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig er mwyn i’r dynodiad fod yn awtomatig os yw’r cwrs yn bodloni nifer o amodau, ac nad yw’n dod o fewn y rhestr o eithriadau. Dibynnir ar yr oruchwyliaeth reoleiddiol a wneir gan y corff rheoleiddio neu gyllido perthnasol ym mhob un o weinyddiaethau’r DU.
- Isod, rhestrir y rheoliadau perthnasol mewn perthynas â dynodiad awtomatig. Yn yr ymgynghoriad hwn, gelwir y rhain yn ‘Rheoliadau cymorth i fyfyrwyr Cymru’
- Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
- Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
- Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
- Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
- Dynodiad penodol neu fesul achos: mae angen i ddarparwyr wneud cais i gwrs gael ei bennu gan Weinidogion Cymru fel un a ddynodir (lle na fyddai’n cael ei ddynodi fel arall). Ar hyn o bryd, mae Medr yn asesu ceisiadau ac yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch sut mae’r darparwr yn bodloni polisi Gweinidogion Cymru ar ddynodi cyrsiau unigol.
Y Trefniadau Presennol
Darparwyr yng Nghymru
Y trefniant presennol yw bod yn rhaid i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru sy’n dymuno i’w cyrsiau israddedig llawnamser gael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru wneud cais i Medr i gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad. (Cyn i CCAUC gael ei ddiddymu, byddai’n rhaid i ddarparwyr wneud cais i’r corff hwnnw.) Ar ôl cymeradwyo cynllun, mae darparwyr yn dod yn ‘sefydliadau rheoleiddiedig’.
Mae cyrsiau a ddynodir yn awtomatig yn denu benthyciadau ffioedd dysgu uwch. Bydd y benthyciadau hyn yn werth hyd at £9,535 ar gyfer blynyddoedd academaidd a fydd yn dechrau ar, neu ar ôl, 1 Awst 2025.
Caiff cyrsiau israddedig rhan-amser, cyrsiau TAR rhan-amser a chyrsiau meistr a doethurol ôl-raddedig rhan-amser a ddarperir gan ddarparwyr yng Nghymru, eu dynodi’n awtomatig os yw’r darparwr yn ‘sefydliad a gyllidir gan Gymru’. Mae ‘sefydliad a gyllidir gan Gymru’ yn golygu darparwr a gaiff ei ariannu trwy gyfrwng grantiau gan Weinidogion Cymru, yn cynnwys Medr.
Yn achos darparwyr yng Nghymru nad ydynt yn sefydliadau rheoleiddiedig o dan Ddeddf 2015, ar hyn o bryd gallant gael dynodi eu cyrsiau’n benodol gan Weinidogion Cymru. Mae cyrsiau a ddynodir yn benodol yn denu benthyciadau ffioedd dysgu is, ac nid ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw derfyn ffioedd. Yr uchafswm sydd ar gael trwy fenthyciad ffioedd dysgu is ar hyn o bryd yw £6,355 ar gyfer blynyddoedd academaidd a fydd yn dechrau ar, neu ar ôl, 1 Awst 2025.
Er mwyn iddynt gael eu dynodi’n benodol, rhaid i ddarparwyr nodi sut maent yn bodloni amcanion y polisi ar gyfer dynodi cyrsiau a weinyddir gan Medr ar ran Gweinidogion Cymru. Mae hyn yn cynnwys gofyniad yn ymwneud â ‘chyfrannu at nwydd cyhoeddus’. Nid yw’n ofynnol i ddarparwyr a ddynodir yn benodol fod yn elusennau.
Yn ystod blwyddyn academaidd 2023 i 2024, roedd gan chwe darparwr anrheoleiddiedig yng Nghymru gyrsiau israddedig, ôl-raddedig, llawnamser a rhan-amser a ddynodwyd yn benodol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr:
- Coleg Caerdydd a’r Fro
- Canolfan y Dechnoleg Amgen (Machynlleth)
- Coleg Cambria
- Coleg Gwent
- Athrofa Padarn Sant (Caerdydd)
- Ysgol Ddiwinyddiaeth Union, (Pen-y-bont ar Ogwr)
Mae’r holl ddarparwyr hyn yn elusennau.
Darparwyr yng ngweddill y DU
Y Swyddfa Fyfyrwyr yw’r corff sy’n rheoleiddio darparwyr addysg uwch yn Lloegr. Ers 2019, mae’n ofynnol i’r darparwyr hyn gofrestru gyda’r Swyddfa Fyfyrwyr er mwyn iddynt gael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth y DU.
Mae cofrestr y Swyddfa Fyfyrwyr yn cynnwys dau gategori, sef: Cymeradwy a Chymeradwy (cap ffioedd). Dyma’r manteision a’r goblygiadau mewn perthynas â chofrestru:
- Yn achos darparwyr yn y categori Cymeradwy (cap ffioedd) a chanddynt gynllun mynediad a chyfranogi:
- maent yn ddarostyngedig i amod terfyn ffioedd
- gallant gael gafael ar gyllid grant gan y Swyddfa Fyfyrwyr a chan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI)
- gallant gael gafael ar gymorth i fyfyrwyr ar y lefel uchaf ar gyfer cyrsiau llawnamser â dyfarniad Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, uchafswm y cymorth i fyfyrwyr yw £9,535 ar gyfer blynyddoedd academaidd a fydd yn dechrau ar, neu ar ôl, 1 Awst 2025
- Yn achos darparwyr yn y categori Cymeradwy (cap ffioedd) nad oes ganddynt gynllun mynediad a chyfranogi:
- maent yn ddarostyngedig i amod terfyn ffioedd
- gallant gael gafael ar gyllid grant gan y Swyddfa Fyfyrwyr a chan UKRI
- gallant gael gafael ar gymorth i fyfyrwyr ar y lefel sylfaenol ar gyfer cyrsiau llawnamser, uchafswm y cymorth i fyfyrwyr yw £6,355 ar gyfer blynyddoedd academaidd a fydd yn dechrau ar, neu ar ôl, 1 Awst 2025
- Yn achos darparwyr yn y categori Cymeradwy:
- nid ydynt yn ddarostyngedig i derfyn ffioedd
- gallant gael gafael ar gymorth i fyfyrwyr hyd at swm sylfaenol y ffi, uchafswm y cymorth i fyfyrwyr yw £6,355 ar gyfer cyrsiau llawnamser ar gyfer blynyddoedd academaidd a fydd yn dechrau ar, neu ar ôl, 1 Awst 2025
Mae rheoliadau cymorth i fyfyrwyr Cymru yn dynodi cyrsiau a ddarperir gan ddarparwyr yn Lloegr trwy gyfeirio at gategori cofrestru darparwyr o fewn y Swyddfa Fyfyrwyr. Caiff y canlynol eu dynodi’n awtomatig ar hyn o bryd:
- cyrsiau a ddarperir gan ddarparwyr cymeradwy sy’n ddarostyngedig i amod terfyn ffioedd o dan adran 10 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (darparwyr cymeradwy (cap ffioedd)).
- cyrsiau a ddarperir gan ddarparwyr cymeradwy ar ran darparwyr cymeradwy (cap ffioedd) a chanddynt gynllun mynediad a chyfranogi a gymeradwywyd o dan adran 29 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.
Yn achos darparwyr yn Lloegr nad ydynt wedi cofrestru gyda’r Swyddfa Fyfyrwyr, neu sydd wedi cofrestru yn y categori Cymeradwy (sef darparwyr nad oes ganddynt gynllun mynediad a chyfranogi ac nad ydynt yn ddarostyngedig i derfyn ffioedd), mae’n ofynnol iddynt wneud cais am ddynodiad penodol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru. Mae darparwyr yn tueddu i geisio dynodiad penodol ar ôl i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru wneud cais.
Ar hyn o bryd, caiff darparwyr addysg uwch a ariennir yn gyhoeddus ac a leolir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru. Caiff darparwyr eu ‘hariannu’n gyhoeddus’ os cânt eu hariannu trwy gyfrwng grantiau gan Weinidogion yr Alban, yn cynnwys Cyngor Cyllido’r Alban (ar gyfer darparwyr yn yr Alban) neu drwy gyfrwng grantiau gan Weinidogion Gogledd Iwerddon (ar gyfer darparwyr yng Ngogledd Iwerddon).
Yn achos darparwyr addysg uwch a leolir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ac na chânt eu hariannu’n gyhoeddus, mae’n ofynnol iddynt wneud cais am ddynodiad penodol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru.
Cyrsiau a ddarperir ar ran darparwyr rheoleiddiedig
Mae rheoliadau cymorth i fyfyrwyr Cymru yn dynodi cyrsiau israddedig llawnamser a gyflwynir ar ran sefydliadau rheoleiddiedig, fel y’u diffinnir yn Neddf 2015, os yw’r darparwr sy’n cyflwyno’r cwrs yn elusen.
Caiff cyrsiau a ddarperir ar ran darparwyr o Loegr sydd wedi cofrestru yn y categori Cymeradwy (cap ffioedd), a chanddynt gynllun mynediad a chyfranogi, eu dynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru os yw’r darparwr sy’n cyflwyno’r cwrs wedi cofrestru gyda’r Swyddfa Fyfyrwyr.
Mae rheoliadau cymorth i fyfyrwyr Lloegr yn mynd ati’n awtomatig i ddynodi cyrsiau a gyflwynir ar ran darparwyr o Loegr sydd wedi cofrestru yn unrhyw un o gategorïau’r Swyddfa Fyfyrwyr. Nid oes yn rhaid i’r darparwr sy’n cyflwyno’r cwrs fod wedi cofrestru ei hun (gall fod yn ‘sefydliad’ yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon).
Yr angen i newid
Cafodd y trefniadau gwahanol sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer dynodi (ac felly rheoleiddio) cyrsiau israddedig llawnamser a chyrsiau eraill eu beirniadu gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn y Gwaith Craffu ar ôl Deddfu a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn 2019 mewn perthynas â Deddf 2015.
Yn ôl yr adroddiad, “rhaid i’r bil addysg drydyddol beidio â bod yn gyfle arall a gollwyd i ddarparu system reoleiddio gydlynol ac integredig”. Dywedodd y Gweinidog ar y pryd mai dyma’r bwriad a ddatblygodd yn ddiweddarach yn Ddeddf TER 2022.
Ymhellach, mae gweithredu’r polisi dynodi cyrsiau penodol yn waith llafurus iawn i Lywodraeth Cymru, i Medr ac i ddarparwyr. Rhaid adnewyddu’r dynodiadau’n flynyddol a rhaid eu hailddyroddi pan fydd cyrsiau’n cael eu newid neu pan geir ceisiadau newydd ar gyfer cyrsiau gan bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.
Mae dibynnu ar ddynodi cyrsiau penodol yn gallu peri ansicrwydd i ddysgwyr, oherwydd pan fyddant yn cyflwyno eu cais efallai na fyddant yn deall yn syth a fydd rhyw gwrs arbennig yn denu cymorth i fyfyrwyr, ai peidio. Fel arfer, bydd darparwyr yn ceisio dynodiad penodol ar gyfer cyrsiau ar ôl iddynt dderbyn ceisiadau.
Yn achos darparwyr a leolir yn Lloegr, mae’r gofynion o ran monitro a goruchwylio’r polisi yn dyblygu swyddogaethau a wneir gan y Swyddfa Fyfyrwyr i bob pwrpas, gan arwain at faich gweinyddol ychwanegol i ddarparwyr a allai fod yn rhwystr i gofrestru myfyrwyr sydd yn preswylio fel rheol yng Nghymru, ac yn anarferol mae’n ofynnol i ddarparwyr oddi allan i Gymru ddelio ag awdurdod rheoleiddio a leolir oddi mewn i Gymru.
Trwy ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr nas lleolir yng Nghymru gael dynodiad penodol er mwyn cael gafael ar gymorth i fyfyrwyr Cymru, mae’n bosibl y cyfyngir ar yr opsiynau sydd ar gael i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n ceisio astudio gyda’r darparwyr hyn, pe bai’r darparwyr o dan sylw yn penderfynu nad yw’r baich rheoleiddio ychwanegol yn werth y drafferth.
Fel yr oedd y sefyllfa ym mis Gorffennaf 2023, roedd 16 o ddarparwyr oddi allan i Gymru wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer dynodiad penodol, sef cymysgedd o ddarparwyr elusennol a darparwyr nad oeddynt yn elusennau. Roedd 15 o’r darparwyr hyn wedi’u lleoli yn Lloegr ac roedd un wedi’i leoli yn yr Alban. Roedd 13 o’r darparwyr a oedd wedi’u lleoli yn Lloegr wedi cofrestru gyda’r Swyddfa Fyfyrwyr yn y categori ‘Cymeradwy’, nid oedd y ddau arall wedi cofrestru, ac roeddynt yn ddarparwyr wedi’u hachredu gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac a oedd yn darparu hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn ysgolion. Mae nifer y myfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n mynychu sefydliadau’r darparwyr hyn yn fach iawn, sef 152, fel yr oedd y sefyllfa ym mis Awst 2023.
Mae hyn yn cynrychioli risg gymharol fach i ddiogelu cronfeydd cyhoeddus, o gymharu â’r defnydd o gapasiti cyfyngedig y llywodraeth a Medr o ran trefnu dynodiad penodol y cyrsiau hyn.
Mae creu’r gofrestr yn cynnig cyfle i roi dull rheoleiddio cyson ar waith wrth ddynodi cyrsiau addysg uwch ar gyfer darparwyr yng Nghymru, pa un a ydynt yn gyrsiau israddedig, ôl-raddedig, llawnamser neu ran-amser.
Hefyd, mae creu’r gofrestr yn cynnig cyfle i adolygu polisïau’n ymwneud â dynodi cyrsiau addysg uwch ar gyfer cymorth i fyfyrwyr oddi allan i Gymru, yn ogystal â chyfle, pan fo modd, i symleiddio’r broses ddynodi a lleihau’r ddibyniaeth ar y broses ar gyfer dynodi cyrsiau penodol.
Y nod hirdymor yw symleiddio’r trefniadau presennol ar gyfer darparwyr o Gymru sy’n dymuno i’w cyrsiau addysg uwch gael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr trwy ddibynnu ar un porth rheoleiddio y darperir ar ei gyfer gan y gofrestr a goruchwyliaeth reoleiddiol Medr o ddarparwyr cofrestredig. O’r herwydd, bwriedir i’r gofrestr fod yn borth rheoleiddio ar gyfer dynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru.
Gallai’r opsiynau polisi a ffefrir symleiddio’r broses o reoleiddio cyrsiau addysg uwch yng Nghymru yn ogystal â symleiddio’r broses o ddynodi cyrsiau ar gyfer personau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n ceisio cymorth i fyfyrwyr, gan anelu’n arbennig at leihau’r gwaith gweinyddol y mae’n ofynnol i Medr a Llywodraeth Cymru ei wneud i weithredu’r polisi dynodi cyrsiau penodol.
Trefniadau arfaethedig ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â dynodi cyrsiau’n awtomatig
Darparwyr yng Nghymru
Yn achos darparwyr a leolir yng Nghymru ac sy’n ceisio dynodi eu cyrsiau addysg uwch yn awtomatig (pa un a fyddant yn ddarostyngedig i derfyn ffioedd ai peidio, a beth bynnag fydd y lefel neu’r dull), y bwriad yw ei gwneud yn ofynnol iddynt gofrestru gyda Medr, naill ai yn y categori Addysg Uwch Craidd (‘Craidd’) neu’r categori Addysg Uwch Amgen (‘Amgen’).
Byddai darparwyr cyrsiau addysg uwch sydd wedi cofrestru yn y categori Craidd yn denu benthyciadau ffioedd dysgu uwch ar gyfer cyrsiau israddedig a byddent yn ddarostyngedig i amod terfyn ffioedd ar gyfer cyrsiau cymhwysol.
Byddai darparwyr cyrsiau sydd wedi cofrestru yn y categori ‘Amgen’ yn denu benthyciadau ffioedd dysgu is, ac ni fyddent yn ddarostyngedig i unrhyw derfyn ffioedd.
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y byddai’r dull hwn yn cynnig gwell eglurder ac unigolrwydd i Medr mewn perthynas â goruchwyliaeth reoleiddiol. Byddai darparwyr o Gymru, trwy gofrestru gyda Medr yn hytrach na cheisio cymeradwyaeth (fel sy’n digwydd ar hyn o bryd), yn elwa ar lai o fiwrocratiaeth ynghyd â baich gweinyddol llai. Hefyd, gallai’r dull hwn leihau dryswch ynglŷn â’r broses sydd ynghlwm wrth ddynodiadau penodol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, yn ogystal â lleihau camgymeriadau’n ymwneud â darparu cymorth i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau nad ydynt wedi’u dynodi.
Darparwyr yng ngweddill y DU
Ni fydd y trefniadau dynodi cyrsiau ar gyfer darparwyr yng ngweddill y DU yn mynnu bod yn rhaid i’r darparwr gofrestru gyda Medr, oherwydd dim ond i ddarparwyr addysg uwch cofrestredig yng Nghymru y bydd y trefniadau a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn berthnasol. Hynny yw, darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch, yn cynnwys addysg uwch a ddarperir ar eu rhan, lle cynhelir y gweithgareddau’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.
Cynigir y byddai cyrsiau’r holl ddarparwyr sydd wedi cofrestru gyda’r Swyddfa Fyfyrwyr, boed hynny yn y categori Cymeradwy neu’r categori Cymeradwy (cap ffioedd), yn cael eu dynodi’n awtomatig.
Gallai’r uchafswm benthyciad ffioedd ar gyfer cyrsiau a ddarperir gan ddarparwyr Cymeradwy (cap ffioedd) ddenu’r benthyciad ffioedd dysgu uchaf (fel y gwnânt ar hyn o bryd), gyda chyrsiau a ddarperir gan ddarparwyr Cymeradwy yn denu’r benthyciad ffioedd dysgu isaf (y mae’n rhaid iddynt geisio dynodiad penodol ar ei gyfer ar hyn o bryd).
Hefyd, byddai cyrsiau addysg uwch sy’n arwain at ddyfarniad academaidd a gyflwynir gan ddarparwyr achrededig hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn ysgolion yn cael eu dynodi’n awtomatig. Byddai darparwyr achrededig yn cael eu diffinio fel y rhai a achredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan reoliad 11 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Lloegr) 2003.
Y fantais a ragwelir gyda’r dull hwn yw y byddai’r fiwrocratiaeth yn lleihau trwy gael gwared â’r angen i geisio dynodiad penodol gan Medr yn achos darparwyr sydd eisoes yn darparu yn Lloegr ac a gaiff eu rheoleiddio eisoes gan y Swyddfa Fyfyrwyr.
Hefyd, byddai’r newidiadau hyn yn sicrhau bod y broses ar gyfer dynodi cyrsiau yn cyd-fynd â rheoliadau Llywodraeth y DU ar gyfer cymorth i fyfyrwyr yn Lloegr, gan alluogi mynediad teg i fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio gyda’u dewis ddarparwyr rheoleiddiedig yn Lloegr.
Ymhellach, byddai’r dull hwn yn cael gwared â’r angen i Medr, yn ei rôl fel corff rheoleiddio Cymru, ‘reoleiddio’ darparwyr nas lleolir yng Nghymru. Dylai’r dull hwn arwain at drefniadau mwy cyson mewn perthynas â chymhwystra am gymorth i fyfyrwyr ar gyfer y rhai sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru neu yn Lloegr, gan gyd-fynd â’r egwyddor y dylai myfyrwyr o Gymru allu cael gafael ar gymorth i fyfyrwyr ar gyfer astudio yn unrhyw le yn y DU.
Ni fwriedir newid y trefniadau mewn perthynas â darparwyr addysg uwch o’r Alban a Gogledd Iwerddon a ariennir yn gyhoeddus. Byddai Rheoliadau cymorth i fyfyrwyr Cymru yn parhau i ddynodi cyrsiau a gyflwynir gan y darparwyr hyn ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru.
Cyrsiau a ddarperir ar ran darparwyr rheoleiddiedig
Pan fydd darparwr o Gymru yn cyflwyno cyrsiau trwy gyfrwng trefniadau partneriaeth, bydd yn rhaid i’r darparwr sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb cyffredinol dros y cwrs gofrestru gyda Medr os yw’n dymuno i’w gyrsiau gael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr. Er enghraifft, os yw sefydliad addysg bellach yng Nghymru yn cyflwyno cyrsiau addysg uwch ar ran prifysgol yng Nghymru, ni fyddai’n rhaid i’r sefydliad addysg bellach gofrestru gyda Medr (oni bai ei fod hefyd yn cyflwyno’i gyrsiau addysg uwch ei hun ac yn dymuno iddynt gael eu dynodi’n awtomatig).
Byddai rheoliadau cymorth i fyfyrwyr Cymru yn dynodi cyrsiau a ddarperir ar ran darparwyr o Gymru sydd wedi cofrestru yn y categori Craidd, neu ddarparwyr o Loegr sydd wedi cofrestru gyda’r Swyddfa Fyfyrwyr ac sydd â chynllun mynediad a chyfranogi cymeradwy, os caiff y cyrsiau hynny eu cyflwyno gan y canlynol:
- darparwr yn Lloegr sydd wedi cofrestru gyda’r Swyddfa Fyfyrwyr (mewn unrhyw gategori)
- neu ddarparwr yng Nghymru sydd naill ai wedi cofrestru gyda Medr (mewn unrhyw gategori) neu sy’n cael cyllid o unrhyw fath gan Medr
Mae mynnu y dylai partneriaid cyflawni darparwyr cofrestredig naill ai gofrestru, neu gael eu hariannu gan Medr, yn newid yn y polisi. O’r herwydd, yn achos partneriaid cyflawni y dynodir eu cyrsiau ar y sail eu bod yn elusen, ond nad ydynt yn dymuno cofrestru ac nad ydynt yn cael cyllid, o unrhyw fath, gan Medr, ni fydd eu cyrsiau’n cael eu dynodi’n awtomatig.
Byddai cyrsiau’n denu benthyciad ffioedd dysgu ar y lefel sy’n berthnasol i’r darparwr y cyflwynir y cwrs ar ei ran. Er enghraifft, os yw’r darparwr sy’n cyflwyno’r cwrs yn ei gyflwyno ar ran darparwr sydd wedi cofrestru yn y categori Craidd, byddai’r cwrs yn denu’r benthyciad ffioedd dysgu uchaf.
Byddai hyn yn sicrhau cysondeb â’n newidiadau arfaethedig i’r broses ar gyfer dynodi darparwyr cofrestredig o Loegr yn awtomatig. Ymhellach, byddai’n cyd-fynd â pholisi cyfredol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â dynodi cyrsiau a ddarperir ar ran sefydliadau cofrestredig yn Lloegr.
Byddai hyn oll yn golygu ei bod yn ofynnol i ddarparwyr sy’n cyflwyno cyrsiau ar ran darparwyr cofrestredig yng Nghymru barhau i weithredu er budd y cyhoedd, naill ai trwy oruchwyliaeth reoleiddiol neu oruchwyliaeth ariannol gan Medr. Trwy fynnu bod gan bartneriaid cyflawni gydberthynas uniongyrchol â Medr, naill ai trwy gofrestru gyda Medr neu drwy gael cyllid gan Medr, gellir sicrhau y bydd yr holl ddarparwyr y dynodir eu cyrsiau’n awtomatig yn ddarostyngedig i ddulliau rheoleiddio priodol.
Byddai modd i brifysgolion a cholegau Cymru barhau i gydweithredu a llunio trefniadau gyda’i gilydd, a byddai modd rhoi sicrwydd ychwanegol bod darparwyr sy’n cyflwyno cyrsiau ar ran darparwyr cofrestredig yn cael eu rheoleiddio fel darparwyr addysg drydyddol, yn hytrach nag fel elusennau’n unig.
Gall y mathau hyn o bartneriaethau esgor ar ffyrdd arloesol a hygyrch o gyflwyno addysg uwch, yn enwedig i bobl neu ardaloedd na fyddent fel arall yn gallu cael gafael ar addysg uwch mewn lleoliadau traddodiadol fel prifysgolion. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos partneriaethau rhwng prifysgolion a cholegau addysg bellach. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddod o hyd i ffordd a fydd yn ei gwneud yn bosibl i drefniadau partneriaeth barhau i esgor ar fanteision addysgol clir.
Polisi dynodi cyrsiau penodol
Fel y nodir uchod, mae Medr wedi olynu CCAUC o ran gweithredu’r polisi dynodi cyrsiau penodol, gan ystyried ceisiadau, a chynghori Gweinidogion Cymru ynghylch sut mae’r darparwr yn bodloni polisi Gweinidogion Cymru ar ddynodi cyrsiau unigol.
Bwriad y dull arfaethedig o ddynodi cyrsiau’n awtomatig yw lleihau’n fawr faint o ddarparwyr (oddi mewn ac oddi allan i Gymru) a fydd angen i Weinidogion Cymru ddynodi cyrsiau penodol. Byddai hyn yn lleihau’r baich ar ddarparwyr oddi allan i Gymru, sydd eisoes yn ddarostyngedig i reoleiddio mewn perthynas â’u cyrsiau addysg uwch. Ymhellach, trwy leihau baich gweinyddol y darparwyr hyn, sydd, yn aml, yn ddarparwyr bach ac arbenigol, efallai y bydd modd iddynt gofrestru myfyrwyr sydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru, na fyddent fel arall yn cael cymorth i fyfyrwyr.
Er y byddai disgwyl i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru gofrestru gyda Medr, a chael dynodi eu cyrsiau’n awtomatig o ganlyniad, mae cofrestru yn dal i fod yn rhywbeth dewisol i ddarparwyr yng Nghymru. O’r herwydd, bydd angen parhau â’r polisi dynodi cyrsiau penodol ar gyfer darparwyr yng Nghymru nad ydynt yn dymuno cofrestru, neu na allant fodloni’r gofynion cofrestru.
Efallai hefyd y bydd polisi dynodi cyrsiau penodol yn angenrheidiol ar gyfer darparwyr yn Lloegr nad ydynt yn dymuno cofrestru neu na allant fodloni’r gofynion cofrestru, a hefyd ar gyfer darparwyr yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon na chânt eu hariannu’n gyhoeddus, neu ar gyfer darparwyr nad ydynt wedi’u dynodi’n ddarparwyr achrededig hyfforddiant cychwynnol i athrawon.
O ran darparwyr mewn mannau eraill yn y DU, mae swyddogion wedi pennu un darparwr sydd wedi’i ddynodi’n benodol ar hyn o bryd ac a fyddai’n gorfod parhau i ddibynnu ar ddynodiad penodol ar ôl i’r newidiadau arfaethedig gael eu rhoi ar waith, sef Coleg Diwynyddol Caeredin.
Bydd Medr a Llywodraeth Cymru yn adolygu’r trefniadau dynodi cyrsiau penodol a’r polisi dynodi cyrsiau penodol er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau yn y trefniadau dynodi y darperir ar eu cyfer yn Rheoliadau cymorth i fyfyrwyr Cymru.
Yr amserlen a’r trefniadau trosiannol
Fel y nodir yn gynharach yn yr ymgynghoriad hwn, y bwriad yw y bydd y cynigion yn cael eu rhoi ar waith o flwyddyn academaidd 2027 i 2028.
Y bwriad yw darparu ar gyfer hyn trwy lunio rheoliadau newydd tua diwedd 2025 mewn perthynas â chyrsiau a phersonau cymhwysol, ac mewn perthynas â therfynau ffioedd. Bydd rheoliadau cymorth i fyfyrwyr yn cael eu diwygio fel bo’r angen cyn blwyddyn academaidd 2027 i 2028.
Bydd darpariaethau trosiannol yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau y bydd unrhyw gwrs a fydd yn dechrau cyn 1 Awst 2027, ac a fydd wedi’i ddynodi at ddibenion cymorth i fyfyrwyr (naill ai’n awtomatig neu drwy gyfrwng dynodiad cwrs penodol), yn parhau i gael ei ddynodi hyd nes iddo ddod i ben.
Effaith y newidiadau arfaethedig
Beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu i fyfyrwyr
Yn achos y newidiadau arfaethedig a nodir yn yr ymgynghoriad hwn mewn perthynas â dynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr, ni fyddant yn cael unrhyw effaith ar y mwyafrif o fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n cael cymorth i fyfyrwyr ar gyfer ariannu eu haddysg uwch.
Ni fydd y newidiadau hyn yn newid cyfraddau’r cymorth a roddir i fyfyrwyr mewn perthynas â chynhaliaeth a benthyciadau ffioedd dysgu, ac ni fyddant ychwaith yn effeithio ar gymhwystra myfyrwyr i gael cymorth o’r fath.
Bydd myfyrwyr sy’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr Cymru, ac sy’n gwneud cais i astudio gyda darparwr yng nghategori ‘Cymeradwy’ y Swyddfa Fyfyrwyr, yn elwa ar fynediad rhwyddach a symlach at gymorth i fyfyrwyr, oherwydd yn awr bydd y darparwyr hyn yn cael eu dynodi’n awtomatig ac ni fydd angen iddynt wneud cais am ddynodiad penodol.
Hefyd, bydd personau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, ac sy’n ymgeisio i astudio cymhwyster addysg uwch gyda darparwyr achrededig hyfforddiant cychwynnol i athrawon nad ydynt wedi cofrestru gyda’r Swyddfa Fyfyrwyr, yn elwa ar fynediad rhwyddach at gymorth i fyfyrwyr, oherwydd bydd y darparwyr hyn hefyd yn cael eu dynodi’n awtomatig.
Beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu i ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru
Bydd effaith y newidiadau arfaethedig hyn ar ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n darparu cyrsiau addysg uwch yn dibynnu ar statws cofrestru’r darparwyr gyda Medr.
Yn achos darparwyr a gaiff eu rheoleiddio ar hyn o bryd gan Medr o dan Ddeddf 2015, bydd angen iddynt gofrestru yn y categori Craidd os ydynt yn dymuno i’w cyrsiau addysg uwch barhau i gael eu dynodi’n awtomatig ar lefel uchaf y benthyciad ffioedd dysgu. Bydd gan y darparwyr hyn yr opsiwn i wneud cais i’r categori Amgen os dymunant.
Yn achos darparwyr a gaiff eu dynodi’n benodol gan Weinidogion Cymru ar hyn o bryd, bydd angen iddynt gofrestru yn y categori Amgen os ydynt yn dymuno i’w cyrsiau gael eu dynodi’n awtomatig ar y lefel benthyciad ffioedd dysgu sy’n berthnasol iddynt ar hyn o bryd, sef y terfyn benthyciad isaf. Bydd gan y darparwyr hyn yr opsiwn i wneud cais i’r categori Craidd os dymunant i’w cyrsiau gael eu dynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr ar lefel uchaf y benthyciad ffioedd dysgu, yn amodol ar fodloni holl ofynion y categori Craidd.
Yn achos darparwyr yng Nghymru sy’n darparu cyrsiau ar hyn o bryd ar ran darparwyr o Gymru a reoleiddir o dan Ddeddf 2015, bydd angen iddynt gofrestru gyda Medr, neu gael eu hariannu gan Medr, os ydynt yn dymuno i’w cyrsiau gael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr.
Beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu i ddarparwyr addysg drydyddol oddi allan i Gymru
Ni fydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar ddarparwyr yn yr Alban, Gogledd Iwerddon na Lloegr, hynny yw, y darparwyr hynny sydd wedi cofrestru yng nghategori ‘Cymeradwy (cap ffioedd)’ y Swyddfa Fyfyrwyr. Bydd y trefniant cyfredol yn parhau mewn perthynas â dynodi cyrsiau a gyflwynir gan y darparwyr hyn.
Yn achos darparwyr sydd wedi cofrestru yng nghategori ‘Cymeradwy’ y Swyddfa Fyfyrwyr, ynghyd â darparwyr sydd wedi’u hachredu gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n darparu hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn ysgolion, ni fydd yn ofynnol iddynt wneud cais am ddynodiad penodol gan Weinidogion Cymru mwyach. Byddai cyrsiau’r darparwyr hyn yn cael eu dynodi’n awtomatig, gan ddilyn trefn debyg i’r un a welir o dan reoliadau cymorth i fyfyrwyr Lloegr.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gynnal y polisi presennol a dim ond pennu tystysgrif israddedig ac ôl-raddedig llawn amser mewn cyrsiau addysg fel cyrsiau cymwys at ddibenion terfynau ffioedd dysgu?
Cwestiwn 2: Ydych chi'n cytuno y dylai cofrestru gyda Medr fod yn rhagofyniad ar gyfer dynodi cyrsiau addysg uwch yng Nghymru yn awtomatig, gan gynnwys cyrsiau rhan-amser ac ôl-raddedig, at ddibenion cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru?
Cwestiwn 3: Ydych chi'n cytuno â'r cynnig y dylai'r cyrsiau addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr sydd wedi cofrestru gydag Swyddfa Fyfyrwyr, p'un a ydynt wedi'u cofrestru yn y categorïau Cymeradwy neu Cymeradwy (gyda chap ffioedd), gael eu dynodi’n awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru?
Cwestiwn 4: Ydych chi'n cytuno â'r cynnig y dylai’r cyrsiau addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon achrededig mewn ysgolion gael eu dynodi’n awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru?
Cwestiwn 5: Beth yw eich barn ar y dull arfaethedig o ddynodi cyrsiau a ddarperir ar ran darparwyr addysg uwch a reoleiddir at ddibenion cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru?
Cwestiwn 6: Ydych chi'n rhagweld unrhyw oblygiadau o ran adnoddau neu gostau i'ch sefydliad yn deillio o'r dull arfaethedig o ddynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru?
Cwestiwn 7: Ydych chi'n rhagweld unrhyw arbedion cost i'ch sefydliad yn deillio o'r dull arfaethedig o ddynodi cyrsiau addysg uwch ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru? (Gall hyn gynnwys arbedion ar unwaith neu ostyngiadau cost hirdymor.)
Cwestiwn 8: Ydych chi’n credu y gallai unrhyw un o'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn effeithio (yn gadarnhaol neu'n negyddol) ar unrhyw bersonau sydd â nodweddion gwarchodedig sy'n cael eu cynnwys yn y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010? Os felly, sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?
Cwestiwn 9: Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y cynigion yn yr ymgynghoriad hwn ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Cwestiwn 10: Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn er mwyn:
- sicrhau eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i ymateb i’r cwestiynau uchod.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ico website
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o’r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.