Rydym yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer rheoliadau pellach i gefnogi sefydlu cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol sy'n darparu addysg uwch yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym eisiau clywed eich barn ynghylch cynigion yn ymwneud â sefydlu cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, a’r dull arfaethedig o ddynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru.
Mae'r rheoliadau i'w gwneud yn ymwneud â’r canlynol:
- cyrsiau cymhwysol a phersonau cymhwysol at ddibenion ffioedd cyrsiau rheoleiddiedig sy’n ddarostyngedig i derfynau ffioedd
- yr uchafswm na all y terfyn ffioedd a bennir mewn datganiad terfyn ffioedd fod yn fwy nag ef
- dynodi cyrsiau addysg uwch ar gyfer cymorth myfyrwyr Llywodraeth Cymru
Dogfennau ymgynghori
Help a chymorth
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
I gael rhagor o wybodaeth:
Tîm Gweithredu’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YAD.Ymgynghoriadau@llyw.cymru
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 4 Gorffennaf 2025, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Tîm Gweithredu’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ