Mae Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 yn gosod rhwymedigaethau tryloywder ar awdurdodau cyhoeddus sy'n dyfarnu cymorthdaliadau.
Cynnwys
Pa rwymedigaethau tryloywder sy'n berthnasol?
Diben y rhwymedigaethau tryloywder yw hyrwyddo atebolrwydd a bod yn agored. Maent yn llymach na'r rhwymedigaethau o dan gyfundrefnau rheoli cymorthdaliadau blaenorol neu gyfundrefn cymorth Gwladwriaethol yr UE.
Yn y mwyafrif o achosion, rhaid i awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi manylion cymorthdaliadau a ddyfarnir, neu gynlluniau cymhorthdal a wneir, yng nghronfa ddata cymorthdaliadau'r DU.
Gallwch chwilio yng nghronfa ddata cymorthdaliadau’r DU yn GOV.UK.
Pa gymorthdaliadau y mae angen imi eu cyhoeddi?
Rhaid i awdurdod cyhoeddus gyhoeddi:
- Pob cymhorthdal annibynnol, ni waeth beth yw ei werth
- Pob cynllun cymhorthdal
- Pob dyfarniad gwerth dros £100,000 a wneir o dan gynllun cymhorthdal
- Pob cymhorthdal Cymorth Ariannol Lleiaf neu Gymorth Gwasanaeth o Fudd Economaidd Cyhoeddus (SPEI) gwerth dros £100,000
Pryd y mae angen imi lanlwytho'r wybodaeth?
Rhaid i awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi cymorthdaliadau a chynlluniau yng nghronfa ddata cymorthdaliadau'r DU. Rhaid iddynt wneud hyn o fewn 3 mis i gadarnhad yr awdurdod cyhoeddus o'i benderfyniad i roi'r cymhorthdal neu i wneud y cynllun cymhorthdal. Ar gyfer dyfarniadau cymorthdaliadau ar ffurf mesurau treth, rhaid ychwanegu manylion at gronfa ddata cymorthdaliadau’r DU o fewn blwyddyn i ddyddiad y datganiad treth.
Sut mae lanlwytho'r wybodaeth dryloywder?
Uned Rheoli Cymorthdaliadau Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r broses o adrodd am dryloywder cymorthdaliadau a ddyfarnir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill Cymru. Gall awdurdodau cyhoeddus Cymru gyflwyno'r wybodaeth ofynnol ar gyfer y gronfa ddata tryloywder gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol:
- Ffurflen adrodd tryloywder cymorthdaliadau’r DU ar gyfer cymorth ariannol lleiaf (MFA) / Cymorth gwasanaethau o fudd economaidd cyhoeddus (SPEIA)
- Ffurflen gofrestru'r cynllun cymhorthdal
- Ffurflen gofrestru dyfarniad cymhorthdal
Cysylltwch â'r tîm os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhwymedigaethau tryloywder drwy e-bostio transparency@llyw.cymru.