Mae dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol Cymru bellach i ddarparu llety i bobl agored i niwed sy’n fwriadol ddigartref, dan reolau newydd sy'n dod i rym heddiw (dydd Llun 2 Rhagfyr 2019).
Dan ddarpariaethau Deddf Tai (Cymru) 2014, mae mesurau diogelu ychwanegol bellach yn eu lle i rai aelwydydd agored i niwed, gan gynnwys y rhai â menywod beichiog, plant a rhai pobl ifanc. Bydd y darpariaethau newydd hyn yn rhoi mwy o sicrwydd iddynt.
Mae’r darpariaethau yn ategu dull strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer atal, ac yn helpu i sicrhau bod rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed yn cael y cymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnynt i'w helpu i ddod o hyd i lety priodol a chadw'r llety hwnnw.
Mae cychwyn y darpariaethau hyn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Gweinidogion Llywodraeth Cymru i roi sylw dyledus i'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Yn 2014/15, gwnaed 515 penderfyniad am fwriad, sy'n is na'r 605 yn 2013/14. Yn ôl y data diweddaraf ar gyfer 2018/19, canfuwyd bod 201 aelwyd bwriadol ddigartref yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:
Mae atal digartrefedd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.
Dros y 5 mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl bwriadol ddigartref. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai ychydig dros 200 o bobl oedd yn fwriadol ddigartref y flwyddyn ddiwethaf. Bydd gan rai o'r aelwydydd hyn aelodau ifanc ac agored i niwed, a bydd cychwyn y darpariaethau newydd heddiw yn cynnig mesurau diogelu ychwanegol iddynt.
Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod rhai o'n dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed yn cael y cymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnynt i'w helpu i ddod o hyd i lety priodol a chadw'r llety hwnnw.