Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar reoliadau newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid sicrhau bod eu heiddo yn ffit i bobl fyw ynddynt.
Mae'r rheoliadau yn amlinellu'r ffactorau y mae'n rhaid i landlord eu hystyried wrth benderfynu a yw eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo. Mae'r rhain yn cynnwys lleithder a thwf llwydni, sŵn, glanweithdra a systemau draenio.
Yn ogystal, gosodir tri gofyniad penodol ar landlordiaid:
- larwm mwg sy'n gweithio
- larwm carbon monocsid sy'n gweithio
- prawf diogelwch trydanol, o leiaf bob pum mlynedd
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant:
"Mae tai o ansawdd yn hollbwysig ar gyfer lles pobl. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod amodau byw gwael yn effeithio ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae amodau gwael fel gormod o bobl mewn lle rhy fach, lleithder ac oerfel wedi'u cysylltu â chlefydau anadlol yn ogystal ag afiechydon fel ecsema a hypothermia.
"Dylai darparu cartrefi fynd gam ymhellach na rhoi to uwch pennau pobl. Dylai fod gan bawb yr hawl i fyw mewn amgylchedd sydd mor ddiogel ac iach â phosibl. Mae angen inni fynd i'r afael ag amodau tai gwael, wrth inni geisio codi safonau yn gyffredinol.
"Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn disodli'r darnau cymhleth amrywiol o ddeddfwriaeth sydd gyda ni ar hyn o bryd ag un fframwaith cyfreithiol clir. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd y landlord, o fewn y Ddeddf, i sicrhau bod annedd yn ffit i bobl fyw ynddi."