Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn diwygio rheolau’r cyfyngiadau lleol gan gydnabod y baich emosiynol y mae’r coronafeirws yn ei roi ar bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan y rheolau newydd, a ddaw i rym yfory (3 Hydref), bydd hawl gan oedolion sy’n byw ar eu pen eu hunain, gan gynnwys rhieni sengl, mewn ardaloedd sydd â chyfyngiadau lleol i ffurfio aelwyd estynedig (swigen) dros dro gydag aelwyd arall yn yr un ardal leol.

Diben y newid yw helpu i ddiogelu pobl sy’n byw ar eu pen eu hunain rhag teimlo’n unig ac yn ynysig. Bydd yn eu galluogi i gwrdd â phobl eraill dan do – rhywbeth sydd ddim fel arfer yn cael ei ganiatáu, oni bai bod gan rywun esgus rhesymol, unrhyw le ledled Cymru.

Bydd y rheol ‘chwech o bobl’ yn berthnasol i’r aelwydydd estynedig newydd hyn ar gyfer pobl sengl.

Hefyd heddiw, bydd y Prif Weinidog yn egluro y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gryfhau pwerau gorfodi awdurdodau lleol i ddirwyo pobl sy'n trefnu partïon yn eu tai ac i symleiddio'r broses ar gyfer cyflwyno cyfyngiadau ar yfed alcohol yn gyhoeddus.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith enfawr ar bob un ohonom ni – rydym ni i gyd wedi bod drwy gymaint eleni yn barod. Unwaith eto, rydym yn gweld cynnydd yn achosion y coronafeirws ledled Cymru ac mae cyfyngiadau wedi’u hailgyflwyno mewn sawl rhan o’r wlad i ddiogelu iechyd pobl a rheoli’r lledaeniad.

“Bydd gan lawer o bobl gymorth eu teulu yn y cyfnod hwn ond mae llawer o bobl – hen ac ifanc – yn byw ar eu pen eu hunain. Ni ddylai neb ohonom ni orfod wynebu’r coronafeirws ar ein pen ein hunain.

“Bydd creu swigod dros dro i bobl sengl a rhieni sengl mewn ardaloedd sydd â chyfyngiadau lleol yn sicrhau bod ganddyn nhw’r cymorth emosiynol angenrheidiol yn ystod y cyfnod hwn.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal yr adolygiad 21 diwrnod diweddaraf o’r rheoliadau coronafeirws ond ni fydd yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i’r rheolau cenedlaethol oherwydd y cynnydd mewn achosion ledled Cymru.

Bydd y cyfyngiadau lleol a gyflwynwyd mewn sawl ardal awdurdod lleol yn y De dros y 10 diwrnod diwethaf hefyd yn parhau mewn grym.
Ym mwrdeistref Caerffili, lle mae nifer yr achosion wedi gostwng, bydd y cyfyngiadau yn parhau mewn grym am o leiaf saith diwrnod arall a byddan nhw hefyd yn parhau yn Rhondda Cynon Taf, lle mae’r twf mewn achosion wedi arafu.

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw’n annog pobl ledled Cymru i ddilyn pum cam syml i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws:

  • Cadw ein pellter oddi wrth bobl eraill
  • Golchi ein dwylo’n aml
  • Gweithio gartref pan fo’n bosibl
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do
  • Ystyried yn ofalus ble rydym yn mynd ac â phwy rydym yn cwrdd oherwydd y mwyaf o lefydd rydym yn mynd iddyn nhw a’r mwyaf o bobl rydym yn cwrdd â nhw, y mwyaf o gyfleoedd fydd yna i ddal y coronafeirws.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Rydw i’n gwybod bod y cyfyngiadau hyn yn anodd i bob un ohonom ni sydd am weld ein teulu a'n ffrindiau, ond mae angen y cyfyngiadau i ddiogelu Cymru.

“Rydym yn gwerthfawrogi ymdrechion pawb i gadw at y rheolau a helpu i atal lledaeniad y feirws hwn.”