Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi lansio system newydd heddiw ar gyfer diffinio daliadau amaethyddol a chofrestru tir dros dro yng Nghymru.
Mae Rhif y Daliad (CPH) yn allweddol i nodi a thracio lleoliad gwartheg, defaid, geifr a moch.
Bydd gwelliannau i system Rhif y Daliad yn rhoi ymateb cyflymach a mwy effeithiol i unrhyw achos o glefyd anifeiliaid ac yn cysoni’r rheolau cofnodi symudiadau anifeiliaid ar draws y rhywogaethau.
Bydd y parseli tir o fewn y daliad yn cael eu mapio, gan roi cofnod gwell i Lywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) o’r daliad.
Bydd rheolau cymhleth, fel Awdurdodau Meddiannaeth Unigol (SOA) a chysylltiadau’r System Olrhain Gwartheg (CTSlinks) yn cael eu dileu, a bydd rheol pellter o 10 milltir yn cael eu cyflwyno ar gyfer pob rhywogaeth.
Bydd hyn yn caniatâu i geidwaid da byw reoli pob parsel tir y maent yn ei reoli o fewn 10 milltir o dan un Rhif Daliad.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
“Yn dilyn ymgynghoriad yn gynharach eleni, rwy’n falch o gyhoeddi lansiad y system newydd hon. Cafodd y newidiadau eu datblygu ar y cyd â’r diwydiant a bydd yn helpu i atal clefydau a mesurau rheoli achosion, gan fod o fudd i geidwaid a’r diwydiant da byw yn gyffredinol. Maent wedi eu cynllunio i symleiddio’r system bresennol a sefydlu rheolau cyson ar draws y rhywogaethau yn unol ag amcanion y Fframwaith Strategol ar gyfer Amaethyddiaeth.”
Cyhoeddir y newidiadau yn raddol dros gyfnod o 2 flynedd. Hyd nes bod Taliadau Gwledig Cymru yn cysylltu â cheidwaid, ni fydd newid i’r rheolau cofnodi presennol, felly nid oes yn rhaid iddynt wneud dim ar wahân i ddod i wybod beth yw’r newidiadau sydd ar y gweill.
Mae dileu cysylltiadau y System Olrhain Gwartheg yn flaenoriaeth, felly o heddiw ymlaen ni fydd Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) yn gallu caniatâu ceisiadau newydd ar gyfer CTSlinks.