Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Bwriad Llywodraeth Cymru yw ail-lunio'r rheolau sy'n llywodraethu etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Gwneir hyn drwy ddau ddarn o is-ddeddfwriaeth, Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021.

Cafodd y cyfrifoldeb am etholiadau llywodraeth leol a'r Senedd ei ddatganoli i Gymru drwy Ddeddf Cymru 2017. Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu nifer o ddiwygiadau etholiadol gan gynnwys ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys. Ar hyn o bryd, mae etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn cael eu llywodraethu gan Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 a Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006.

Mae egwyddorion diwygio etholiadol yng Nghymru yn canolbwyntio ar wella hygyrchedd etholiadau, annog cyfranogiad a symleiddio ac atgyfnerthu cyfraith etholiadol lle bo hynny'n bosibl. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn nad yw'r Rheolau presennol sy'n llywodraethu etholiadau llywodraeth leol bellach yn addas i'r diben. O ystyried y newidiadau i'r etholfraint , nid yw bellach yn briodol i'r un rheolau fod yn berthnasol i Gymru a Lloegr, mae ehangder y Rheolau'n enfawr ac yn cwmpasu nifer o etholiadau nad ydynt yn berthnasol yng Nghymru. Gwnaed y Rheolau presennol yn 2006, cyn datganoli'r polisi ac maent yn Saesneg yn unig (gan eithrio rhai ffurflenni).

Yn ymarferol, ar wahân i'r newidiadau a nodir isod, o ran gweithdrefnau a gofynion, ni fydd y Rheolau newydd arfaethedig yn newid i raddau helaeth. Mae'r newidiadau'n cynnwys y canlynol ac ymgynghorwyd arnynt ym mhapur ymgynghori Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yn 2017.

  • Darparu ar gyfer cyflwyno papurau enwebu ar-lein
  • Nid oes angen 10 tanysgrifwr mwyach i bapur enwebu
  • Gofyniad bod ymgeiswyr yn datgan unrhyw ymlyniad gwleidyddol yn y 12 mis cyn yr etholiad a
  • newidiadau sy'n caniatáu i ymgeiswyr ddewis peidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref.

Mae mân newidiadau hefyd yn cael eu gwneud i ddiweddaru'r rheolau i adlewyrchu ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau lleol i bobl ifanc 16 i 17 oed a dinasyddion tramor cymwys drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac y cwblhawyd asesiadau effaith llawn ar eu cyfer.

Bydd y Rheolau wedi’i  ail-wneud yn addas i'r diben oherwydd byddant yn ddwyieithog, wedi’i cydgrynhoi, ac yn defnyddio terminoleg ddeddfwriaethol mwy clir a diweddar. Bydd hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer newidiadau polisi yr ymgynghorwyd arnynt drwy gydol oes Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Rheolau drafft rhwng 2 Awst 2021 a 24 Medi 2021, a gofynnwyd am farn ymarferwyr a rhanddeiliaid sydd â diddordeb a gwybodaeth mewn cyfraith etholiadol.Cafwyd 31 o ymatebion y nghyd ag ymatebion o dri digwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd yn ogystal â chyfarfodydd rhanddeiliaid pwrpasol eraill.

Conclusion

Sut mae pobl sydd fwyaf tebygol o gael eu effeithio gan y cynnig wedi bod yn rhan o'i ddatblygiad?

Yn y lle cyntaf, bydd y Rheolau'n ail-wneud, yn cydgrynhoi ac yn symleiddio'r gyfraith bresennol. Trafodwyd y mater hwn yn helaeth gyda'r gymuned etholiadol a cafodd y mewnbwn i'r egwyddor gyffredinol o fabwysiadu'r dull hwn o ymdrin â Rheolau etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ei groesawu yn gyffredinol. Trafodwyd materion penodol gyda Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, a lle bo'n berthnasol, y Comisiwn Etholiadol, ac mewn tri digwyddiad ymgynghori gyda Swyddogion Canlyniadau, gweinyddwyr etholiadol a chynrychiolwyr Un Llais Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned. Cafodd cynnig i'w gwneud yn ofynnol i swyddogion canlyniadau gyhoeddi datganiadau ymgeiswyr ei gynnwys yn y set ddrafft o reolau a gyflwynwyd i weinyddwyr etholiadol ar gyfer ymgynghori.Yn dilyn adborth gan randdeiliaid am yr anawsterau gweinyddol a gyflwynwyd gan y cynnig, dilëwyd y darpariaethau o fersiwn derfynol y rheolau tra rhoddir ystyriaeth i'r ffordd orau ymlaen.

Ymgynghorwyd ar unrhyw gynigion polisi newydd fel rhan o bapur ymgynghori Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 2017, ac fe'u craffwyd wedi hynny drwy broses ddeddfwriaethol Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn gadarnhaol ac yn negyddol?

Effaith fwyaf arwyddocaol y polisi fydd ar is-ddeddfwriaeth etholiadol yng Nghymru. Bydd y Rheolau llywodraeth leol newydd yn benodol i amgylchiadau Cymru, yn cael eu gwneud yn ddwyieithog a byddant yn cael eu drafftio i roi eglurder yn y gyfraith. Am y tro cyntaf bydd y Rheolau ar gael yn Gymraeg gan ganiatáu i ymgeiswyr a gweinyddwyr gael mynediad i'r ddeddfwriaeth yn eu dewis iaith. Bydd yr effeithiau hefyd yn golygu bod ymgeisyddiaeth yn fwy hygyrch i'r rhai sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol (er enghraifft cyfrifoldebau gofalu neu bobl â phroblemau symudedd) a fydd yn awr yn gallu cyflwyno eu ffurflenni enwebu yn electronig. Bydd preifatrwydd ymgeiswyr hefyd yn cael ei warchod drwy gael dewis ynghylch rhannu cyfeiriad cartref neu beidio. Bydd gofyn i ymgeiswyr rannu manylion aelodaeth pleidiau gwleidyddol yn ystod y 12 mis diwethaf (lle mae hyn yn wahanol i'r blaid y maent yn sefyll drosto). Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr eisoes ddatgan pa blaid y maent yn sefyll drosto ac nid ystyrir bod hyn yn effaith sylweddol.

O ystyried yr effeithiau a nodwyd, sut fydd y cynnig yn:

  • cynyddu cyfraniad at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant ;a neu
  • osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Diben y cynnig hwn i wneud cyfraith etholiadol yn fwy hygyrch i ymarferwyr, ymgeiswyr ac i bleidleiswyr. Bydd y gwaith yn sicrhau bod rheolau etholiadau Cymru ar gael yn ddwyieithog a phan fydd newid polisi yn cael ei wneud, ei fod yn cael ei wneud gyda'r bwriad o roi mwy o wybodaeth i bleidleiswyr, creu proses fwy uniongyrchol i'w dilyn neu i ddileu rhwystrau sy'n ymwneud â sefyll, neu cymryd rhan mewn etholiadau. Y bwriad yw lleihau dryswch a achosir drwy gael Rheolau Cymru a Lloegr nad ydynt yn berthnasol yng Nghymru, a dileu rhwystrau i gyfranogiad yn seiliedig ar brosesau wedi dyddio, sydd ddim yn  adlewyrchu arferion gwaith neu gymdeithasol cyfredol.

Sut caiff effaith y cynnig ei fonitro a'i werthuso wrth fynd yn ei flaen a phan y daw i ben?

Bydd y cynigion yn cael eu hadolygu'n ffurfiol yn 2025 i 2026 fel y gellir gwneud newidiadau mewn pryd ar gyfer etholiadau 2027. Bydd hyn yn adeiladu ar adroddiad ar ôl yr etholiad gan y Comisiwn Etholiadol. Bydd monitro parhaus yn digwydd yn anffurfiol drwy drafod gyda gweinyddwyr etholiadol, a chaiff y polisïau a gynhwysir yn y Rheolau eu monitro fel rhan o waith parhaus ar ddiwygio etholiadol. Bydd unrhyw fater sy'n ymwneud â hygyrchedd etholiadau yn cael ei drafod gyda gweithgorau presennol, ac ad hoc, i sicrhau bod anghenion pleidleiswyr yn cael eu diwallu. Daeth sawl mater i'r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad, yn enwedig mewn perthynas â chardiau pleidleisio mewn  etholiadau cynghorau tref a chymuned. Bydd angen ystyried a ymgynghori ar y y materion hyn, ac y byddant yn cael eu hystyried ar gyfer gwaith polisi a deddfwriaethol yn y dyfodol.