Neidio i'r prif gynnwy

Dewch i wybod beth yw IPM a sut y gallwch gael gwybodaeth i’ch helpu i roi dulliau IPM ar waith ar eich tir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae IPM yn ddull cynaliadwy o reoli plâu, chwyn a chlefydau ar eich tir. Gall gael ei ddefnyddio gan bob ffermwr, tyfwr a rheolwr tir.

Nodau dull IPM yw:

  • cefnogi cnydau iach gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau amddiffyn planhigion 
  • cefnogi cynhyrchu amaethyddol gwydn a chynaliadwy 
  • helpu i reoli ymwrthedd plaladdwyr 
  • annog mecanweithiau rheoli plâu naturiol 
  • gwella bioamrywiaeth a bywyd gwyllt
  • lleihau dibyniaeth ar ddefnyddio plaladdwyr cemegol 

Gall dulliau IMP gael eu defnyddio gan weithwyr proffesiynol ac amaturiaid. Mae'r sectorau proffesiynol yn cynnwys:

  • amaethyddiaeth
  • garddwriaeth
  • coedwigaeth
  • amwynder

Mae rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio dulliau IPM ar eich tir gan gynnwys dolenni i offer ac arweiniad ar gael yma Rheolaeth Integredig ar Blâu (IPM) - GOV.UK