Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd dros Gymunedau, Carl Sargeant wedi dweud heddiw y bydd Rhentu Doeth Cymru yn helpu i godi safonau yn y sector rhentu preifat.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn annerch Aelodau'r Cynulliad, noson cyn cyflwyno pwerau sy'n golygu y gellid cymryd camau gorfodi yn erbyn landlordiaid ac asiantau sydd heb eu cofrestru neu heb drwydded. Dywedodd:

"Mae yfory yn garreg filltir bwysig. Roedd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn cynnwys deddfwriaeth arloesol wedi'i chynllunio i wella'r sector rhentu preifat drwy ei gwneud yn orfodol i bob landlord ac asiant preifat gael ei gofrestru a chael trwydded.

"Bydd y broses gofrestru yn nodi, am y tro cyntaf, landlordiaid preifat sy'n gosod eiddo a ble y mae'r eiddo hwnnw wedi’i leoli. Mae'r broses drwyddedu yn cynnwys prawf i weld a ydynt yn bobl addas a phriodol ac, yn bwysicaf oll, yn rhoi hyfforddiant i'r rheini sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn uniongyrchol. Mae sicrhau bod landlordiaid ac asiantau yn hollol ymwybodol o'u cyfrifoldebau yn codi safonau, ac yn gwneud y sector yn un mwy deniadol.

"Mae 96% o'r rheini sy'n mynychu'r sesiynau hyfforddi wedi dweud y bydd yn eu gwneud yn landlordiaid gwell, a dyna yn union yw ein bwriad. Bydd hyn yn fanteisiol i'r landlordiaid ac i'r tenantiaid.

"Bydd y cynllun hefyd yn golygu bod llai o le i landlordiaid gwael esgeuluso eu cyfrifoldebau ac i landlordiaid sy'n twyllo gamddefnyddio eu pwerau heb orfod wynebu’r canlyniadau."

Bu Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn atgoffa landlordiaid ac asiantau bod angen iddynt gofrestru a gwneud cais am drwyddedau. Erbyn ganol nos, nos Lun 21 Tachwedd, roedd dros 55,000 o landlordiaid preifat wedi cofrestru, 12,000 yn rhagor wedi dechrau ar y broses gofrestru, ac roedd dros 81,000 o ddefnyddwyr wedi creu cyfrifon ac yn rhan o'r broses gydymffurfio.

Does neb yn gwybod yn iawn faint o landlordiaid preifat sydd i gael, ond amcangyfrifir bod rhwng 70,000 a 130,000.

Dywedodd:

“Mae hyn yn dipyn o gamp mewn cyfnod o ddeuddeg mis, ac rwy'n canmol ymdrech fawr staff Rhentu Doeth Cymru, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Dinas Caerdydd ar ran pob awdurdod lleol. Mae rhuthr fawr wedi bod i gofrestru yn y misoedd diwethaf. O ganlyniad, mae Rhentu Doeth Cymru wedi cymryd mwy o amser na'r arfer i ymateb i rai galwadau ac e-byst. Rwy'n gwerthfawrogi bod hyn wedi achosi pryder i rai landlordiaid sydd heb allu cwblhau'r broses gofrestru a thrwyddedu.

"Mae Rhentu Doeth Cymru wedi dweud na fydd y rheini sydd wedi dechrau ar y broses gydymffurfio yn wynebu camau gorfodi os ydynt wedi gwneud popeth posibl i geisio cydymffurfio. Ond, nid yw hyn yn esgus i anwybyddu'r gyfraith. Mae fy neges i landlordiaid preifat yn glir - mae'n rhaid i chi gymryd camau i gydymffurfio â gofynion y gyfraith.

“Gwyddom y bydd rhai landlordiaid preifat yn herio’r gyfraith yn fwriadol. Byddant yn cael eu targedu, ac os ydynt yn methu â chydymffurfio, byddant yn wynebu'r canlyniadau gan gynnwys dirwyon, cosbau penodedig, cyfyngiadau ar droi tenantiaid allan, a stopio rhent a gorchmynion ad-dalu."

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Bob Derbyshire:

 "Rwy'n falch bod Cymru yn arwain y ffordd gyda Chynllun Rhentu Doeth Cymru, ac mai Cyngor Dinas Caerdydd yw'r awdurdod trwyddedu ar ei gyfer.

"Mae'r sector rhentu preifat yn opsiwn gynyddol bwysig i nifer o bobl, ac felly mae’n hollbwysig ein bod yn codi safonau fel bod landlordiaid, asiantau a thenantiaid i gyd yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau.

"Mae'r cynllun eisoes yn cael effaith gadarnhaol. Mae nifer o'r rheini sydd wedi cwblhau'r hyfforddiant wedi dweud y bydd yn eu helpu i fod yn landlordiaid gwell.

"Ar ôl i'r dyddiad cofrestru basio, bydd ein tîm o swyddogion gorfodi yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau ledled Cymru i roi'r gyfraith newydd ar waith, gan flaenoriaethau’r landlordiaid sydd heb gymryd unrhyw gamau i gydymffurfio.

"Fy nghyngor i unrhyw un yn y sefyllfa honno fyddai i gysylltu â Rhentu Doeth Cymru cyn gynted â phosibl."