Neidio i'r prif gynnwy

Beth mae’n rhaid i asiantau gosod eiddo neu landlordiaid sydd wedi’u cofrestru ei wneud yn ôl y gyfraith.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Rhentu Doeth Cymru: cod ymarfer , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 428 KB

PDF
428 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Mae’r Cod Ymarfer hwn (“y Cod”) wedi’i baratoi er mwyn helpu landlordiaid ac asiantau sydd wedi’u trwyddedu drwy gynllun Rhentu Doeth Cymru.

Nodwch fod camgymeriad yn y Cod Ymarfer. Dylai'r adrannau canlynol nodi: 

4.17 Rhaid cymryd gofal rhesymol i gynnal ac atgyweirio llwybrau, dreifiau ac ardaloedd parcio ceir sy'n eiddo i'r landlord fel eu bod yn ddiogel i'w defnyddio. Rhaid cynnal a chadw a thrwsio'r cwteri, pibellau, draeniau a chylïau. 

4.18 Rhaid trosglwyddo unrhyw wybodaeth berthnasol am iechyd a diogelwch a gedwir am yr eiddo i unrhyw gontractwr, gan gynnwys gwybodaeth am asbestos.