Neidio i'r prif gynnwy

Atebion i gwestiynau cyffredin am y newidiadau i’r ffyrdd y mae tenantiaid a deiliaid trwyddedau Cymru yn rhentu eu heiddo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd y daw'r ddeddf newydd i rym?

Daeth y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar 1 Rhagfyr 2022.

Pam mae’r gyfraith wedi newid? Pa wahaniaeth fydd Deddf Rhentu Cartrefi yn ei wneud i mi?

Mae’r gyfraith newydd yn rhoi mwy o amddiffyniad i denantiaid (a elwir bellach yn ‘ddeiliaid contract’) ac yn gwneud eu hawliau a'u cyfrifoldebau yn gliriach. Mae’r newidiadau’n cynnwys y canlynol:

  • Bydd rhaid i’ch landlord roi contract ysgrifenedig i chi sy'n nodi eich holl hawliau a'ch cyfrifoldebau, a hawliau'r landlord;
  • Bydd y cyfnod hysbysu sy’n ymwneud â chynnydd mewn rhent yn dyblu o un mis i ddau fis;
  • Bydd cyfnodau hysbysu hwy cyn y gall eich landlord adennill meddiant (cyhyd â’ch bod yn talu eich rhent ac nad ydych wedi gwneud unrhyw beth o’i le); a
  • Bydd trefniadau mwy hyblyg ar gyfer cyd-gontractau – bydd modd ychwanegu cyd-ddeiliaid yn haws at gytundeb sydd eisoes yn bodoli.  

Dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn y canllawiau i denantiaid a'r fersiwn hawdd ei deall o’r ddogfen honno.

Wyf i dal yn denant o dan y Ddeddf Rhentu Cartrefi?

Ydych. Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn cael ei adnabod fel contract meddiannaeth (gweler isod).     

Beth sy'n digwydd i'm cytundeb tenantiaeth presennol?

Newidiodd eich cytundeb tenantiaeth yn 'gontract meddiannaeth' ar 1 Rhagfyr 2022.  Bydd llawer o'ch telerau tenantiaeth presennol yn aros yr un fath, ond bydd eraill, fel bod angen i’r landlord roi mwy o rybudd am gynnydd mewn rhent, yn disodli'r telerau hynny yn eich cytundeb presennol.     

Ceir dau fath o gontract meddiannaeth, sef:

  • Contract meddiannaeth diogel: mae hwn yn disodli tenantiaethau diogel a thenantiaethau sicr, a hwnnw yw y prif gontract a gyhoeddir gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai;
  • Contract meddiannaeth safonol: dyma'r contract a ddefnyddir yn bennaf yn y sector rhentu preifat (pan fydd gennych landlord nad yw'n gyngor/awdurdod lleol neu'n gymdeithas dai).

A fydd fy landlord yn anfon unrhyw waith papur neu ffurflenni newydd ataf ar ôl 1 Rhagfyr?

Bydd eich cytundeb tenantiaeth presennol yn trosi i fod yn gontract meddiannaeth yn awtomatig. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth er mwyn i hynny ddigwydd. Bydd rhaid i’ch landlord roi ‘datganiad ysgrifenedig’ o’r contract newydd i chi cyn 1 Mehefin 2023. Gall eich landlord roi eich datganiad ysgrifenedig i chi ar ffurf copi caled, neu os ydych yn cytuno, ar ffurf electronig.

O ran unrhyw rai sy'n symud i'w cartref ar 1 Rhagfyr neu ar ôl y dyddiad hwnnw, mae gan landlordiaid hyd at 14 diwrnod i roi’r datganiad ysgrifenedig iddynt.   

Beth yw’r Datganiad Ysgrifenedig?

Mae'r datganiad ysgrifenedig yn nodi telerau eich contract. Mae hwnnw’n disodli eich cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o delerau yn y datganiad ysgrifenedig, gweler y canllawiau i denantiaid.

Sut y byddwch yn sicrhau bod landlordiaid yn rhoi datganiadau ysgrifenedig i’w tenantiaid?

Mae gan denantiaid hawl i gael iawndal os na chânt ddatganiad ysgrifenedig gan eu landlord. Ac ni fydd landlord yn gallu ceisio meddiant o annedd ar sail hysbysiad 'dim bai' os nad yw wedi rhoi datganiad ysgrifenedig i’r tenant erbyn y dyddiad dyledus.

A fydd y gyfraith newydd yn golygu y bydd fy rhent yn cynyddu?

Na fydd. Nid oes dim yn y gyfraith newydd sy'n golygu y bydd eich rhent yn codi.  Os ydych yn byw mewn tŷ cymdeithasol, bydd eich rhent yn dal i gynyddu yn unol â'r Polisi Rhenti Cymdeithasol a gaiff ei bennu gan Lywodraeth Cymru.

Faint o rybudd y mae'n rhaid i mi ei roi os byddaf am ddod â’r contract i ben?

O leiaf pedair wythnos yw’r cyfnod hysbysu byrraf. Fodd bynnag, ni fyddwch fel arfer yn gallu dod â chontract safonol cyfnod penodol i ben yn gynnar.

A all fy landlord preifat gael meddiant os nad wyf wedi torri fy nhenantiaeth neu gontract meddiannaeth?

Mae’n bosibl y bydd rhesymau pam y mae angen i landlord preifat adennill meddiant, fel yr angen i fyw yno ei hun neu fod angen iddo werthu. Os oes gennych gontract safonol cyfnodol, (contract nad oes ganddo ddyddiad gorffen wedi'i ddiffinio ac mae'n debyg iddo ddechrau ar ôl i'ch tymor penodol cychwynnol ddod i ben) gall eich landlord adennill meddiant o'r eiddo drwy roi hysbysiad landlord adran 173 i chi, sy'n hysbysiad ‘dim bai’ (golyga hyn nad oes yn rhaid i’ch landlord roi rheswm ichi dros wneud hynny).  Bydd y cyfnod hysbysu y mae'n rhaid i'ch landlord ei roi i chi yn dibynnu ar ba bryd y dechreuodd eich contract. 

Os oes gennych gontract newydd safonol cyfnodol y cytunwyd arno ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022, rhaid i'ch landlord roi o leiaf chwe mis o rybudd i chi. Ni all eich landlord roi'r hysbysiad hwn i chi o fewn y chwe mis cyntaf i chi symud i mewn, sy'n golygu y bydd gennych o leiaf ddeuddeg mis cyn y gellir gofyn i chi adael. Yn ogystal, ni all eich landlord roi hysbysiad adran 173 os oes gennych gontract cyfnod penodol - rhaid iddo aros i'r cyfnod penodol hwnnw ddod i ben yn gyntaf, a dim ond wedyn os ydych wedi bod yn byw yn yr eiddo am chwe mis. 

Os ydych yn byw yn yr eiddo cyn 1 Rhagfyr 2022, bydd eich cytundeb tenantiaeth flaenorol wedi eu trosi'n gontract meddiannaeth ar 1 Rhagfyr ac mae'r rheolau ynghylch hysbysiad adran 173 ychydig yn wahanol. Mae'r rheolau hyn ychydig yn fwy cymhleth ac yn amrywio gan ddibynnu ar y math o gontract sydd ar waith ar 1 Rhagfyr 2022.

Os ydych ar gontract cyfnodol, mae hysbysiad landlord yn ddau fis ar hyn o bryd, a bydd hyn yn aros yr un fath ar y cychwyn ar ôl 1 Rhagfyr 2022.  Fodd bynnag,  bydd y cyfnod hysbysu yn cynyddu i chwe mis o’r 1 Mehefin 2023. 

Os oeddech ar gontract cyfnod penodol sy'n dod i ben ar ôl 1 Rhagfyr 2022) byddwch yn trosi i gontract safonol cyfnod penodol. Gall landlord ddod â'ch contract cyfnod penodol i ben drwy roi rhybudd o ddau fis i chi ond rhaid iddo wneud hyn cyn i'r cyfnod penodol ddod i ben. Os ydych chi a'ch landlord yn hapus i feddiannaeth barhau ar ôl i'r cyfnod penodol ddod i ben, bydd y rheolau ar hysbysiad adran 173 yn dibynnu ar ba gontract sy'n disodli'r cyfnod penodol. Os byddwch yn parhau i fyw yn yr eiddo ar ôl y cyfnod penodol, bydd contract cyfnodol yn disodli'r cyfnod penodol, a rhaid i landlord roi chwe mis o rybudd i chi ddod â'r contract hwn i ben. Os ydych chi a'r landlord yn cytuno i ymrwymo i gontract cyfnod penodol arall, ni all landlord ddod â'r contract hwn i ben a rhaid iddo aros eto i hwn ddod i ben a chael contract cyfnodol yn ei le. Gall hyn fod yn eithaf cymhleth ac efallai yr hoffech ofyn am gyngor ar wahân gan Shelter Cymru neu Cyngor ar Bopeth.

Rwyf wedi derbyn rhybudd landlord o dan adran 173 yn gofyn imi adael. Sut rwy’n gallu gwirio bod y rhybudd yn ddilys?

Beth yw hawliau olyniaeth a sut mae’n effeithio arnaf?

Mae olyniaeth yn golygu, pan fyddwch yn marw, y gallwch drosglwyddo'ch cartref i aelod arall o'r teulu neu ofalwr sy'n byw yno gyda chi ar y pryd. Ni fydd modd ichi drosglwyddo eich cartref fwy na dwy waith – yn gyntaf i olynydd â blaenoriaeth (er enghraifft, eich priod/partner) ac yna i olynydd wrth gefn (er enghraifft, eich plentyn sy'n oedolyn neu ofalwr).   

Beth am anifeiliaid anwes?  

Dylai unrhyw gymal sy’n ymwneud ag anifeiliaid anwes yn eich contract ganiatáu i chi ofyn am ganiatâd i gadw anifail anwes. Ni fyddai gan eich landlord yr hawl i wrthod y cais yn afresymol.

A oes rhaid i mi ddweud wrth fy landlord os ydw i'n gadael fy eiddo heb ei feddiannu?

Os ydych yn gwybod y byddwch yn absennol o'r eiddo am fwy na 28 diwrnod yn olynol (er enghraifft, derbyniad i'r ysbyty neu wyliau estynedig) dylech roi gwybod i'ch landlord ymlaen llaw. 

A fydd cynlluniau blaendal tenantiaid yn aros yr yn fath?

Ydy, mae yr un trefniadau yn berthnasol ar gyfer diogelu blaendaliadau tenantiaeth. Nid yw'r blaendaliadau presennol sy'n gysylltiedig â chontractau wedi'u trosi a'u diogelu mewn cynlluniau sydd wedi'u cymeradwyo yn cael eu heffeithio.         

Beth yw Gofynion Ffitrwydd Tai i Fod yn Gartref?

Nod y Rheoliadau Ffitrwydd yw helpu i sicrhau bod landlordiaid yn cynnal a chadw anheddau i'w hatal rhag dod yn rhai nad ydynt yn ffit i bobl fyw ynddynt.

Os byddwch o’r farn nad yw eich eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo, ond nad yw'r landlord yn cytuno, y llys fydd yn penderfynu yn y pen draw a yw eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo ai peidio yn seiliedig ar y Rheoliadau. Byddai hawliad llys yn cael ei wneud yn yr un modd ag y gwneir hawliad diffyg atgyweirio ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, pe na fyddech yn talu rhent am nad oedd yr eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo, gallai’r landlord gymryd meddiannaeth o'r eiddo o bosibl – naill ai am fod sail y contract wedi'i dorri neu oherwydd y dyledion rhent difrifol.

 

A yw lleithder neu fowld yn ystyriaeth ar gyfer Ffitrwydd Tai i fod yn Gartref?

Ydy, gan y gallai hynny arwain at broblem iechyd, ac felly mae’n berygl posibl i iechyd.

A yw’r gyfraith wedi newid mewn perthynas â larymau mwg?

Ydy. Rhaid i’ch landlord sicrhau bod larwm mwg gwifredig ar bob llawr o’ch annedd sydd wedi’i gysylltu â chyflenwad trydan yr annedd.  Ni fydd y gofynion ar gyfer contractau wedi'u trosi yn berthnasol tan 1 Rhagfyr 2023. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Ffitrwydd tai i fod yn gartref canllawiau i landlordiaid.

A yw’r gyfraith wedi newid mewn perthynas â larymau carbon monocsid?

Ydy. Rhaid i’ch landlord sicrhau bod larwm carbon monocsid, sydd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn, ym mhob ystafell o’r annedd sy’n cynnwys cyfarpar nwy, cyfarpar hylosgi sy’n cael ei danio ag olew neu gyfarpar hylosgi sy’n llosgi tanwydd solet. 

A yw’r gyfraith wedi newid mewn perthynas â diogelwch trydanol?

Ydy. Rhaid i’ch landlord sicrhau bod arolygiad o ddiogelwch y system drydanol yn cael ei gynnal o leiaf pob pum mlynedd, a bod adroddiad dilys o gyflwr trydanol yr annedd ar gael.  Rhaid i chi gael copi o’r adroddiad hwnnw. Ni fydd y gofynion ar gyfer contractau wedi'u trosi yn berthnasol tan 1 Rhagfyr 2023. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Ffitrwydd tai i fod yn gartref canllawiau i landlordiaid.