Daeth yr ymgynghoriad i ben 13 Hydref 2014.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffwn glywed eich barn am y contract a'r canllawiau atodol enghreifftiol ar gyfer Rhentu Cartrefi.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym am gael gwybod eich barn chi ynghylch y strwythur a gosodiad y dogfennau a’r canllawiau cysylltiedig. Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu ni i sicrhau bod y trefniadau Rhentu Cartrefi newydd yn gweithio mor effeithiol ag y bo modd.
Roedd y Papur Gwyn ar Rentu Cartrefi a oedd yn destun ymgynghoriad ar wahân yn 2013 yn cynnig cyflwyno fframwaith cyfreithiol mwy clir a syml yn lle'r gyfraith ddryslyd a chymhleth a geir ar hyn o bryd. Cafodd y Papur Gwyn gefnogaeth gref a bwriedir cyflwyno'r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2015.
Er mwyn sicrhau’r fframwaith cyfreithiol mwyaf effeithiol mae'n bwysig bod y contractau rhentu newydd yn hawdd eu deall a'u defnyddio. Bydd hyn yn helpu landlordiaid a thenantiaid i gytuno ar drefniadau o'r dechrau'n deg a hefyd yn atal anghydfodau nes ymlaen. Mae'r ymgynghoriad hwn yn egluro sut olwg fydd ar y contractau newydd ar gyfer Rhentu Cartrefi ynghyd ag enghreifftiau o'r math o ganllawiau atodol a fydd o bosibl yn ofynnol.
Dogfennau ymgynghori
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/140723-illustrative-model-contract-consultation-cy-thumb_jpg.jpg?itok=NJgLYgCx)
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 154 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/140723-annex-1-key-matters-cy-thumb_jpg.jpg?itok=Pr2SQxWF)
Atodiad 1 - Materion allweddol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 62 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/140723-annex-2-model-contract-cy-thumb_jpg.jpg?itok=1k-cnp13)
Atodiad 2 - Model o gontract cyfnodol safonol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 370 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/140723-annex-3-model-contract-summary-cy-thumb_jpg.jpg?itok=PrCH5Zs1)
Atodiad 3 - Crynodeb o'r contract cyfnodol safonol enghreifftiol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 33 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Annex_4_-_Example_of_an_easy_read_guide.jpg?itok=VgTHKBTO)