Os yw’r denantiaeth wedi cychwyn cyn 15 Ionawr 1989, mae’n debygol o fod yn denantiaeth reoleiddiedig.
Mae Rhenti teg yn ffordd o reoli rhent. Dyma’r lefel rhent uchaf sydd wedi’i chofrestru gan Swyddogion Rhenti Cymru y gellid ei chodi ar denant.
Mae rheolau arbennig ar gyfer newid rhent ac amodau rhent. Os yw’r denantiaeth wedi cychwyn cyn 15 Ionawr 1989, mae’n debygol o fod yn denantiaeth reoleiddiedig. Mae hyn yn golygu y gall landlordiaid neu denantiaid wneud cais i gofrestru rhent.
Cofrestru’ch rhent
Gall landlordiaid neu denantiaid wneud cais i gofrestru rhent. Gall landlordiaid ofyn i Swyddogion Rhenti Cymru ei adolygu bob dwy flynedd.
Gallwch ei adolygu’n gynt os oes newidiadau wedi eu gwneud i’ch eiddo, fel atgyweiriadau neu welliannau.
Er mwyn cofrestru rhent, rhaid i chi gwblhau’r ffurflen berthnasol a’i hanfon at Swyddogion Rhenti Cymru.
Sut y mae rhenti teg yn cael eu pennu
Wrth bennu beth sy’n rhent teg, rhaid i’r swyddog rhent ystyried amgylchiadau’r achos.
- oed a chymeriad yr eiddo
- nifer, ansawdd a chyflwr y dodrefn a ddarperir
- unrhyw daliadau gwasanaeth sydd yn y rhent
- unrhyw ddiffyg atgyweirio
- ystyriaethau eraill, fel goleuo, gwresogi, cyfleustodau lleol
Gwneud cais am rent teg
Gall landlordiaid neu denantiaid wneud cais am rent teg. Dylent gwblhau’r ffurflenni perthnasol a’u dychwelyd at Swyddogion Rhenti Cymru.
Os yw’ch landlord am gynyddu eich rhent
Rhaid i’ch landlord roi gwybod yn ysgrifenedig i chi os ydynt eisiau cynyddu eich rhent cofrestredig.
Os cytunir i gynyddu’r rhent, gellir ei ôl-ddyddio i ddyddiad yr hysbysiad. Ni ellir ei ôl-ddyddio am gyfnod hwyach na 4 wythnos na chyn dyddiad cofrestru’r rhent.
Os ydych yn teimlo bod eich rhent cofrestredig yn rhy uchel
Gall landlordiaid neu denantiaid apelio yn erbyn y penderfyniad i gofrestru rhent teg. Rhaid i chi ysgrifennu at Swyddogion Rhenti Cymru o fewn 28 diwrnod i wneud y penderfyniad.
Efallai y bydd y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn ystyried y rhent cofrestredig, a byddant yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch y terfyn rhent a bennwyd.