Rhannwch eich straeon ynghylch prosiectau ynni adnewyddadwy llwyddiannus er mwyn dangos sut y gall mwy a mwy o bobl yng Nghymru wneud hyn yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ym mis Medi 2017 cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, dargedau newydd uchelgeisiol ar gyfer cynhyrchu ynni yng Nghymru a oedd yn cynnwys:

  • 1 Gigawatt (GW) o drydan adnewyddadwy i gael ei gynhyrchu’n lleol erbyn 2030;
  • Bydd gan brosiectau ynni adnewyddadwy o leiaf un elfen o berchnogaeth leol erbyn 2020.

Nod y cais am dystiolaeth, a fydd yn parhau am 12 wythnos, yw casglu tystiolaeth ynghylch y modd y gall cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yn lleol sicrhau manteision i Gymru a rhoi hyn ar waith ar draws y wlad mewn modd mwy teg.

Bydd hyn yn helpu i bennu'r heriau y bydd angen i ddatblygwyr, busnesau, awdurdodau lleol, cymunedau ac eraill eu gorchfygu er mwyn cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yn lleol ac ar y cyd ag eraill.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Rydym yn canolbwyntio ar gyflymu'r broses o drawsnewid ein system ynni yng Nghymru, ac yn benodol drwy ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy. Cyhoeddais dargedau newydd ac uchelgeisiol ym mis Medi'r llynedd er mwyn cyflawni system ynni carbon isel, gan gynnwys perchenogaeth leol. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da o safbwynt cyflawni'r targedau hyn.

"Mae dau brosiect cymharol newydd yn tystio i'r newid sy'n digwydd. Ymwelais â fferm wynt Pen y Cymoedd ddoe, sef y fferm wynt ar y tir fwyaf yng Nghymru a Lloegr. Mae Vattenfall wedi cefnogi ac wedi creu dros fil o swyddi yng Nghymru ac mae'r prosiect yn cyfrannu £1.8 miliwn yn flynyddol i gronfa mantais gymunedol.

"Mae datblygiad gwynt Awel Aman Tawe yn brosiect cymunedol ar raddfa tipyn llai. Y gymuned sy'n berchen ar y prosiect cyfan, sy'n golygu bod yr holl elw'n aros gyda'r rhanddeiliaid yn Nyffryn Aman.

"Bydd angen llawer iawn o brosiectau eraill tebyg yng Nghymru, rhai mawr a rhai bach a fydd yn defnyddio pob mathau o dechnolegau, a rhai cymunedol a rhai ar raddfa enfawr, er mwyn diwallu anghenion y dyfodol o ran ynni.

"Credwn fod modd cynllunio datblygiadau ynni y gall pobl leol eu cefnogi a chyfrannu atynt. Bydd y cais am dystiolaeth yr wyf yn ei lansio heddiw yn ystyried y modd y gallwn gyflawni hyn a'r modd y gall Cymru gyfan elwa i'r eithaf arno. Hoffwn annog cymunedau, datblygwyr, sefydliadau partner ac unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan a mynegi eu barn."