Er mwyn gwella diogelwch cleifion, mae gan fwy o fferyllwyr a meddygon mewn ysbytai fynediad electronig erbyn hyn i gofnodion cleifion sy’n cael eu cadw gan feddygon teulu yng Nghymru.
Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:
Mae’r newid hwn yn golygu y bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, o’r mis hwn ymlaen, yn sicrhau bod gwybodaeth allweddol o gofnodion cleifion y meddygon teulu ar gael yn electronig at ddibenion gofal wedi’i gynllunio, gan gynnwys yn ystod apwyntiadau cleifion allanol. Cyn nawr, dim ond fferyllwyr a meddygon mewn lleoliadau gofal brys, megis adrannau damweiniau ac achosion brys, oedd yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth hon.
Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Meddygon Teulu, BMA Cymru:
Dywedodd Mr Rhidian Hurle, Llawfeddyg Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Meddygol yng Ngwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru, a Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru:
Bydd yr aelod o staff gofal iechyd sy’n gofalu am y claf yn gofyn iddo am ei ganiatâd i edrych ar ei gofnodion, a bydd caniatâd yn cael ei geisio ar gyfer pob ymgynghoriad. Hefyd, drwy siarad â’u meddyg teulu, bydd cleifion yn gallu dewis peidio â bod yn rhan o’r system o gwbl os ydynt yn dymuno hynny.

“Mae’r newid hwn yn golygu y bydd gwybodaeth hanfodol ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn, waeth sut mae’r claf yn cael ei dderbyn i’r ysbyty. Bydd hyn yn helpu staff gofal iechyd i ddarparu gofal mwy diogel, yn enwedig o ran rheoli’r meddyginiaethau a roddir i’r claf.”
Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Meddygon Teulu, BMA Cymru:
“Drwy’r Teclyn Archwilio Integredig Deallus Cenedlaethol (NIIAS) newydd, ac ymrwymiad ffurfiol y Byrddau a’r Ymddiriedolaethau Iechyd i fonitro mynediad i gofnodion cleifion gan ddefnyddio’r system hon, mae’r Pwyllgor wedi cael sicrwydd llawn y bydd yn ddiogel ehangu mynediad fel hyn ac y bydd yn haws darparu gofal clinigol mwy diogel i’r cleifion.”
Dywedodd Mr Rhidian Hurle, Llawfeddyg Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Meddygol yng Ngwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru, a Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru:
“Dw i wrth fy modd ein bod ni yng Ngwasanaeth Gwybodeg y GIG, mewn partneriaeth â Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru, wedi gallu darparu’r adnodd newydd hwn yn rhan o’r feddalwedd glinigol sydd ar waith yn genedlaethol yn ein hysbytai.Mae rheolaethau llym ar waith i sicrhau bod yr wybodaeth am y cleifion yn ddiogel. Bob amser y bydd rhywun yn mynd at gofnod claf drwy’r gronfa ddata ddiogel, bydd yna gofnod o hynny a fydd yn hawdd ei archwilio.
“Drwy ehangu mynediad at gofnodion meddygon teulu, bydd hi’n haws i staff gofal iechyd ddarparu gofal mwy diogel, a bydd yn arbed amser wrth iddyn nhw geisio gael yr wybodaeth gywir am y cleifion y maen nhw’n gofalu amdanynt. Bydd hynny’n rhyddhau amser iddyn nhw ganolbwyntio ar anghenion y claf ei hun. Bydd y cleifion a hefyd y staff ar eu hennill.”