Neidio i'r prif gynnwy

Bydd busnesau bwyd a diod o Gymru, sy'n amrywio o gaws o wahanol flas i rawnfwydydd, yn chwarae rhan flaenllaw yn un o ddigwyddiadau masnach mwyaf y byd ym Mharis yr wythnos hon. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Lesley Griffiths yn ymuno â thri ar ddeg o gwmnïau blaenllaw o wahanol rannau o'r sector Bwyd a Diod yng Nghymru yn y digwyddiad 'Salon International de Alimentation' (SIAL) a gynhelir bob yn ail blwyddyn. 

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod ag arddangoswyr a chwsmeriaid er mwyn trafod cyfleoedd allforio a bydd yn mynychu derbyniad Hybu Cig Cymru er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd y sector bwyd a diod a'r sector cig coch yng Nghymru. 

Wrth siarad yn ystod digwyddiad SIAL, lle y daeth dros 7,000 o gwmnïau o 109 o wledydd ynghyd i rwydweithio ac arddangos eu cynhyrchion, pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn bwysicach nag erioed i sicrhau bod busnesau o Gymru'n meithrin cysylltiadau â phartneriaid ar draws Cymru ac yn manteisio ar bob cyfle i allforio eu cynhyrchion ymhellach. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod yn rhaid i fusnesau bwyd a diod o Gymru fanteisio ar y cyfle i gyfarfod â phartneriaid masnach posibl cyn Brexit a'r holl ansicrwydd sydd ynghlwm wrtho ac i dynnu sylw at eu cynhyrchion sy'n adnabyddus ar draws y byd. Mae diwydiant bwyd a diod Cymru wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd gwerth allforion yn 2017 gymaint â £527.4 miliwn, sy'n gynnydd o 21.1% neu £91.8 miliwn ers 2016. 

Gan fod gwerth allforion bwyd a diod o Gymru i'r Gymuned Ewropeaidd hefyd wedi cynyddu £47.6 miliwn rhwng 2016 a 2017, sy'n gynnydd o 13.2%, mae Lesley Griffiths wedi annog busnesau Cymru i ddefnyddio cyfleoedd fel SIAL i feithrin cysylltiadau a thynnu sylw marchnadoedd ehangach at eu cynhyrchion. 

Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig dewis eang a chynhwysfawr o raglenni er mwyn cefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru i gynyddu eu hallforion. Amrywia'r cymorth hwn o gymorth un i un wedi'i deilwra ynghylch strategaethau allforio a dewis marchnadoedd i arddangos mewn digwyddiadau allweddol fel SIAL. 

Mae presenoldeb Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn SIAL yn creu cyfle ardderchog i arddangos amrywiaeth ac ansawdd cynhyrchion bwyd a diod o Gymru, gan feithrin cysylltiadau busnes newydd, codi eu proffil a sicrhau cymaint â phosibl o werthiant o fewn marchnadoedd. 

Dywedodd Lesley Griffiths: 

"Mae SIAL yn gyfle gwych i fusnesau Cymru dynnu sylw at y bwydydd a'r diodydd o ansawdd uchel y maent yn eu cynhyrchu, wrth iddynt anelu at feithrin cysylltiadau ag eraill a'u marchnadoedd. 

“Mae’n hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth go iawn.  Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae’n hallforion bwyd a diod wedi cynyddu 20% ac wedi pasio'r garreg filltir o £500 miliwn am y tro cyntaf. 

"Eto i gyd, ar adeg mor heriol a chan fod Brexit yn prysur agosáu mae'n bwysicach nag erioed fod cwmnïau Cymru'n codi eu proffil rhyngwladol ac yn mynd ati mewn ffyrdd blaengar i werthu eu cynhyrchion i'r byd.

"Cig a chynhyrchion cig yw'r prif gynhyrchion o Gymru sy'n cael eu hallforio i'r Gymuned Ewropeaidd o hyd, gan gynrychioli dros chwarter gwerth yr holl allforion yn y categori hwn, ac mae angen i fusnesau o'r sector hwn atgyfnerthu'r cysylltiadau hyn a meithrin hyd yn oed mwy o bartneriaethau er mwyn gwarantu eu cynaliadwyedd yn y dyfodol.”

Dywedodd Kevin Roberts, Cadeirydd Hybu Cig Cymru: 

"Mae allforion yn gwbl allweddol i'r sector cig coch, ac yn cyfrannu dros £180 miliwn y flwyddyn at economi Cymru. Mae cysylltiadau a wneir yn SIAL Paris ac mewn digwyddiadau masnach tebyg yn arwain yn uniongyrchol at fusnes newydd. Rydym yn falch iawn fod pump allforiwr cig yn mynychu digwyddiad eleni fel rhan o gynrychiolaeth gadarn o sector bwyd a diod Cymru. 

"Ers i Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi'r llynedd y byddai £1.5 miliwn ar gael i HCC er mwyn hybu allforion rydym wedi dyblu ein hymdrechion i ddatblygu busnes gyda chleientiaid presennol, a hefyd wedi sicrhau bod Cig Oen a Chig Eidion â statws PGI yn cyrraedd hyd yn oed mwy o wledydd lle y mae galw mawr amdanynt a lle y maent yn uchel eu bri.

Bydd cwmni cydweithredol llaeth hynaf a mwyaf Cymru sef Hufenfa De Arfon yn mynychu SIAL ac yn tynnu sylw at gawsiau yn eu cyfres Dragon a gynhyrchir ar Benrhyn Llŷn gan ddefnyddio dim ond llaeth Cymreig o ffermydd ar draws y Gogledd a'r Canolbarth.

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr-Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon: 

"Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle euraidd i Hufenfa De Arfon gan y bydd yn creu ffenestr siop i ni arddangos ein cynhyrchion ac estyn ein marchnadoedd.

"Mae'n amser cyffrous i Hufenfa De Arfon a chan ein bod wedi buddsoddi £13 miliwn yn ein safle creu caws a phecynnu yn Chwilog mae cynyddu allforion o 5% i 13% yn darged pwysig o fewn ein strategaeth dwf dros y blynyddoedd nesaf. 

"Rydym yn edrych ymlaen at atgyfnerthu llawer o'n cysylltiadau o fewn y diwydiant gan ein bod wedi cynyddu ein hallforion yn sylweddol ers mynychu SIAL y llynedd. Rydym hefyd yn gobeithio creu cysylltiadau newydd o fewn y farchnad fyd-eang."

Dywedodd John Cullen, cyfarwyddwr gwerthu gyda GRH Food Company Ltd, sydd wedi mynychu cynhadledd SIAL fel ymwelydd ac a fydd yn arddangos am y tro cyntaf eleni, fod y digwyddiad wedi bod yn amhrisiadwy o safbwynt datblygu busnesau caws yng Ngwynedd. 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r cwmni wedi allforio mwy o'i gynhyrchion i Ewrop, Gogledd America a'r Dwyrain Canol, a hefyd ar draws y DU. Mae hefyd wedi symud i gyfleuster newydd 43,500 cyfleuster sgwâr ym Mharc Busnes Eryri, Minffordd ger Porthmadog ar ôl sicrhau grant gwerth £1.7 miliwn o Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, fel rhan o fuddsoddiad gwerth £6.5 miliwn. 

Dywedodd John Cullen: 

"Mae'n bwysig fod busnesau bwyd a diod yng Nghymru'n manteisio mwy ar gynadleddau o'r fath tra bo cyfle". 

"Mae'n gam pwysig iawn ar gyfer rhwydweithio ac yn helpu i roi busnesau bwyd a diod Cymru ar y map. Mae'n rhaid i chi fod yno, un ai fel ymwelydd neu arddangoswr, er mwyn creu'r cysylltiadau hynny. Bydd cefnogwyr rhyngwladol yn rhoi mwy o sylw i chi os byddwch yn bresennol yn yr arddangosfeydd hyn."

Caiff SIAL ei gynnal ym Mharis, Ffrainc, o 21-25 Hydref 2018.