Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried yn llawn yn y trafodaethau ar ôl Brexit, mewn cyfarfod adeiladol – y cyfarfod cyntaf o'i fath ers Etholiad Cyffredinol y DU.
Pwysleisiodd Lesley Griffiths hefyd pa mor bwysig yw i wahanol Lywodraethau'r DU barhau i gydweithio'n agos ar ôl i'r DU ymadael â'r UE ar 31 Ionawr.
Roedd y Gweinidog yn Llundain ar gyfer cyfarfod rheolaidd y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a oedd yn cynnwys Ysgrifennydd Gwladol DEFRA, Theresa Villiers, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros yr Economi Wledig, Fergus Ewing, ac uwch-swyddogion Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae'r cyfarfodydd pedairochrog wedi cael eu cynnal yn rheolaidd ers Refferendwm yr UE yn 2016.
Ar ôl y cyfarfod Dywedodd Lesley Griffiths:
"Roeddwn i'n hapus gyda'r trafodaethau adeiladol gyda gweinidogion o rannau eraill y DU heddiw. Mae'r cyfarfodydd pedairochrog rheolaidd wedi rhoi llawer o gyfleoedd imi gyflwyno'r achos dros amgylchedd, ffermwyr, pysgotwyr a chynhyrchwyr bwyd a diod yn uniongyrchol i Lywodraeth y DU.
"Wrth inni baratoi ar gyfer ymadael â'r UE a chychwyn ar y cyfnod ar ôl Brexit, fy neges i Lywodraeth y DU yw sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried wrth drafod masnach ac yn ystod trafodaethau ynghylch y berthynas â'r UE yn y dyfodol. Rydyn ni'n credu'n gryf hefyd na ddylai'r Safonau ar gyfer bwyd ac iechyd pobl ac anifeiliaid a mesurau ar gyfer diogelu'r amgylchedd gael eu herydu.
"Bydd y misoedd nesaf yn hanfodol. Mae'n bwysig iawn ar gyfer Cymru fod y trafodaethau rheolaidd â Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau datganoledig eraill yn parhau ar ôl inni ymadael â'r UE ar 31 Ionawr".