Mae cymorth i bobl sydd newydd gael diagnosis o ddementia a’u hawl i gael gofal unigol yn argymhellion allweddol yn y cynllun gweithredu strategol diweddaraf ar ddementia.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd Vaughan Gething yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus heddiw ar y Cynllun Gweithredu Strategol ar Ddementia, 2017-2022 yng Nhgwrt Oldwell, gwasanaeth dydd arbenigol ar gyfer pobl â dementia yng Nghaerdydd.
Mae'r camau gweithredu’n cynnwys:
- Mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn mynd i ddatblygu dull lle mae tîm yn canolbwyntio ar yr unigolyn gyda gwasanaethau sydd wedi'u teilwra i'r unigolyn â dementia a'i ofalwyr
- Bydd Llywodraeth Cymru’n hyrwyddo ac yn datblygu ymchwil ar fyw gyda dementia sy’n cynnwys teuluoedd a gofalwyr fel cyd-ymchwilwyr ac sy’n anelu at fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a wynebir gan bobl â dementia
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething:
"Ni fydd gan unrhyw ddau unigolyn â dementia, neu'r rhai sy'n eu cefnogi, yr un anghenion â’i gilydd yn union. Ac eto fe wyddom fod dementia yn un o’r materion pwysicaf o ran iechyd a gofal cymdeithasol materion sy’n ein hwynebu. Amcangyfrifir bod rhwng 40,000 i 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw â dementia ar hyn o bryd.
"Rydym wedi gweithio'n agos â grwpiau eiriolaeth a phobl sydd â dementia i ddatblygu’r cynllun gweithredu strategol hwn ac rydym yn agor ymgynghoriad ar y cynllun heddiw.
"Mae'n edrych ar yr holl ffyrdd yr ydym yn gallu effeithio ar brofiad pobl sy'n byw gyda dementia: o atal a hybu iechyd; i fyw mor iach â phosibl ac mor hir â phosibl â dementia; i gefnogi ymchwil. Gobeithio y bydd pawb sydd â diddordeb yn ymateb i'n hymgynghoriad ac yn rhoi eu barn."
Datblygwyd y Cynllun Gweithredu Strategol drafft ar Ddementia, 2017-2022 yn sgil ymgysylltu'n agos â phobl sydd â dementia, eu teuluoedd, eu gofalwyr a grwpiau eiriolaeth ym maes dementia.