Er mwyn i Gynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru lwyddo rhaid wrth gydweithio adeiladol a gweithredu o'r safon uchaf.
Dyna oedd neges Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wrth annerch fforwm Ysgol Rheoli Busnes Prifysgol Abertawe oedd yn trafod trafnidiaeth a seilwaith.
Galwodd Ysgrifennydd y Cabinet ar i'r gymuned fusnes weithio gyda Llywodraeth Cymru i'w helpu i roi'i Gynllun Gweithredu ar yr Economi ar waith yn llwyddiannus.
Dywedodd:
"Mae ein Cynllun Economaidd yn gynllun ar gyfer twf cynhwysol sydd wedi'i adeiladu ar sylfeini cadarn, diwydiannau cryf y dyfodol a rhanbarthau cynhyrchiol.
"Mae'n rhoi cyfle cyffrous inni weithio mewn ffordd wahanol er mwyn sbarduno cyfoeth a lles, taclo anghydraddoldebau a diogelu'n gwlad a'n heconomi rhag cyfnod o newid digynsail o gyflym.
"Does dim amheuaeth bod y seilwaith trafnidiaeth, a'i gyfraniad at gysylltu cymunedau, pobl a busnesau â swyddi, cyfleusterau, gwasanaethau a marchnadoedd, yn allweddol i lwyddiant y cynllun. Yr her inni a'n gweledigaeth yw troi'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi’n ganlyniadau ystyrlon sy'n dod â budd i fusnesau a chymunedau.
"Bydd hynny'n golygu canolbwyntio ar roi ar waith yn llwyddiannus y newidiadau polisi pwysicaf a mwyaf blaenllaw, fel datblygu'r Contract Economaidd newydd a chreu'n Cronfa Dyfodol yr Economi.
"Wrth gwrs, allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae angen inni weithio'n gadarnhaol gyda'n partneriaid mewn busnesau, yn yr undebau llafur a'r trydydd sector, mewn llywodraeth leol ac eraill, er mwyn gwneud yn siŵr fod y Cynllun Gweithredu ar yr Economi’n cyflawni dros Gymru. Ac rwy'n pwyso ar ein partneriaid i weithio gyda ni ar y dasg bwysig hon."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi hefyd y bydd y misoedd a'r blynyddoedd i ddod yn hynod bwysig i ddyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Dywedod:
"Yn 2018, rydym yn disgwyl cael y grym i ddyfarnu'r fasnachfraint ar gyfer gwasanaethau rheilffordd nesaf Cymru a'r Gororau. Bydd hynny'n ein helpu i wella gwasanaethau a gweddnewid y rhwydwaith er mwyn inni allu troi'n uchelgais ar gyfer metro sy'n cysylltu pobl â swyddi a gwasanaethau'n realiti."