Bydd raid i’r trafodaethau ar Brexit ganolbwyntio nawr ar sicrhau cytundeb pontio gyda’r Undeb Ewropeaidd. Dyna mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi’i ddweud.
“Flwyddyn ar ôl y refferendwm, mae’n dod yn fwyfwy amlwg y bydd negodi cytundeb ymadael, yn ogystal â chreu sylfaen ar gyfer y berthynas â’r UE yn y dyfodol, yn dasg amhosibl i’w chyflawni mewn dwy flynedd,”
meddai Mr Jones.
"Felly, wrth drafod gyda’r UE rhaid canolbwyntio ar gytuno ar drefniadau pontio a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2019. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn helpu i leihau’r ansicrwydd ynghylch Brexit, sy’n niweidio’r economi.”
Er gwaethaf blwyddyn brysur, a heriol yn aml, mae safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit wedi bod yn glir ac yn gyson ers drannoeth y refferendwm – sef bod rhaid parchu’r canlyniad ac mai’r economi sy’n dod gyntaf.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Roedd pobl braidd yn amheus pan welson nhw ein cynllun chwe phwynt y diwrnod wedi’r refferendwm, ond mae wedi dal ei dir ac wedi’i ddefnyddio’n sail i’n papur gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru.
“Ein dull cytbwys a chydlynol ni o ymdrin â’r ymadawiad â’r UE, gan roi blaenoriaeth i fuddiannau economaidd, yw’r peth agosaf sydd gan y DU at safbwynt negodi realistig sy’n bodloni anghenion holl ranbarthau’r DU.”
Wrth edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf, soniodd y Prif Weinidog am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyflawni wrth ymdrin â Brexit - cynnull cyfarfod arbennig o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ym mis Gorffennaf y llynedd, lansio ein papur gwyn Diogelu Dyfodol Cymru a’r papur polisi dilynol ar Brexit a Datganoli, a sefydlu’r Grŵp Cynghori ar Ewrop a’r Grŵp Trafod Amaeth a’r Amgylchedd. Hynny’n ogystal â cheisio sicrhad gan Lywodraeth y DU na fydd ein hymadawiad â’r UE yn cael effaith negyddol ar ein gwasanaeth iechyd a’n prifysgolion.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
“Mae’n amlwg bod ein papur gwyn ni wedi dylanwadu ar agwedd Llywodraeth y DU mewn meysydd pwysig megis cadw’r hawliau cyflogaeth presennol a phwysigrwydd hanfodol trefniadau pontio. Rydym hefyd wedi cael gwarant gan Lywodraeth y DU y byddant yn rhoi arian yn lle’r cyllid Ewropeaidd y byddai Cymru wedi’i dderbyn hyd at 2020.
“Mae’r ansicrwydd ac ansefydlogrwydd mae Llywodraeth DU wedi gadael i ddatblygu dros y flwyddyn diwethaf nawr yn cael ei gwaethygu gan yr anhrefn o gwmpas y Prif Weinidog.
“Heb fandad, heb strategaeth trafodaeth glir a gyda’r anghytundeb yn y cabinet ar sut i ymdrin â Brexit, bydd raid i lywodraeth y DU roi blaenoriaeth i drefniadau pontio nawr er mwyn sicrhau’r budd gorau i Brydain.”