Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i'r cysylltiad rhwng prifysgolion ac ysgolion fynd y tu hwnt i hyfforddi athrawon

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn araith i arweinwyr addysg uwch ac academyddion o bob cwr o'r DU, cyhoeddodd y gall Cymru arwain y ffordd o ran ymgysylltu dinesig a rôl prifysgolion yn eu cymunedau.

Mae hyn yn ategu'r mae her Ms Williams yn ei gosod i brifysgolion; sef ailgydio yn eu hymgyrch ddinesig drwy wneud mwy i gysylltu'r campws, y gymuned a'r genedl gyda'i gilydd. Yn ei haraith, bydd yn dweud:

"Wrth inni ymateb i heriau Brexit, bydd rôl y brifysgol fel cyswllt rhwng y gymuned fyd-eang a'r gymuned leol yn bwysicach nag erioed.

"Mae gweledigaeth prifysgolion yn fyd-eang, ond yn y lle cyntaf mae angen iddynt fod yn flaengar yn eu hardaloedd eu hunain ac ennyn diddordeb bobl sydd yn byw yno.

"Dyma sut y byddant yn cyfrannu at ddatblygu Cymru hyderus, ryngwladol ac arloesol."

Gan nodi camau gweithredu i sicrhau gwell cysylltiadau rhwng prifysgolion ac ysgolion, wnaeth yr Ysgrifennydd Addysg cynnig:

  • Bod prifysgolion yn gweithio'n uniongyrchol gydag ysgolion i gefnogi'r gwaith o ddatblygu arweinwyr, dulliau rheoli ariannol, a rhaglenni cyrhaeddiad;
  • Y dylid gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr uwch-reolwyr ac arweinwyr prifysgol sy'n aelodau o gyrff llywodraethu ysgolion lleol; 
  • Cynnal mwy o raglenni diwydiant a rhaglenni israddedig mewn ysgolion i hyrwyddo cyfleoedd i ddysgwyr a phrofiad i fyfyrwyr mewn disgyblaethau allweddol, gan adeiladu ar lwyddiant ym maes ieithoedd a chodio.

Wnaeth Ms Williams hefyd dweud:

"Hoffwn weld prifysgolion Cymru yn cynnig arweinyddiaeth ddinesig sy'n croesi ffiniau.

"Dw i eisiau eich gweld yn gweithio y tu hwnt i'r sector addysg uwch ac yn ymgysylltu ag arweinwyr dinesig allweddol eraill ar lefel genedlaethol a chymunedol.

"Dylai prifysgolion ddefnyddio eu harbenigedd, eu profiad, a'u hadnoddau i gynnal gwaith arloesol cymdeithasol ac ymgysylltu dinesig. Bydd hyn yn adeiladu capasiti ar gyfer arweinyddiaeth yn y dyfodol, ac yn cefnogi sefydliadau cymunedol ac addysgol.

“Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Mae codi safonau, lleihau'r bwlch o ran cyrhaeddiad a sicrhau system sy'n ennyn hyder y cyhoedd yn arwain at falchder cenedlaethol.

"Rhaid i'n sector addysg uwch gyfrannu mwy at hyn – gan fynd y tu hwnt i baratoi athrawon yfory, er mor bwysig yw hynny hefyd wrth gwrs."

Wnaeth araith yr Ysgrifennydd Addysg canmol y gwaith a wneir eisoes ym Mhrifysgolion Cymru ac yn trafod pedair thema: arwain yn eu hardaloedd, cyfrannu at godi safonau ysgolion, datblygu cymdeithas o ddinasyddion gweithgar, a gweithredu fel sbardun ar gyfer mentrau cymdeithasol.