“Mae’n hanfodol bod gofalwyr di-dâl yn cael cefnogaeth i flaenoriaethu eu hiechyd a’u llesiant eu hunain ochr yn ochr â chyflawni eu cyfrifoldebau gofalu.”
Dyna neges y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, cyn dathlu Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, ac wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol cyntaf y Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofalwyr.
Gwnewch amser i Ofalwyr Ifanc yw thema Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc eleni, sydd â’r nod o annog mwy o oedolion a gweithwyr proffesiynol i wrando ar yr heriau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a fydd yn cwrdd â grŵp o ofalwyr ifanc i wrando ar eu profiadau yn nes ymlaen yr wythnos hon:
Mae gofalwyr ifanc yn gorfod ymdopi â llawer o wahanol bwysau wrth ofalu am rywun.
Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn gwneud amser i sgwrsio â nhw a chlywed sut maen nhw’n trio cydbwyso eu hamser addysg a hamdden â’u cyfrifoldebau gofalu. Hefyd mae’n bwysig eu bod nhw’n cael gwybod beth yw eu hawliau a sut y gallan nhw gael cymorth a chefnogaeth, gan gynnwys asesiad o’u hanghenion.
Rhaid eu hannog a’u helpu i wneud hyn fel ffordd o flaenoriaethu eu llesiant ein hunain.
Dywedodd Dr Catrin Edwards, Cyfarwyddwr dros dro Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
Mae gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr yng Nghymru yn dweud wrthym dro ar ôl tro pa mor werthfawr yw cael y cyfle i siarad â rhywun ynghylch y cymorth sydd ei angen yn yr ysgol neu gyda’u hiechyd meddwl. Mae sicrhau’r rhain ymhlith y newidiadau pwysicaf y gallai gweithwyr proffesiynol a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau eu cyflwyno os ydyn nhw am gefnogi’r gofalwyr hyn. Oherwydd yr argyfwng costau byw, a’r ffaith bod lefel y gofal a roddir gan ofalwyr wedi dwysáu yn ôl canlyniadau’r Cyfrifiad ac ymchwil ddiweddar yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, mae’n bwysicach nag erioed gwneud amser i wrando ar ofalwyr ifanc a gweithredu ar eu rhan.
Yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, rydyn ni’n falch o’r cyfle i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i helpu gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr i sôn am eu profiadau wrth y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc. Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni ddatblygu’r polisïau a’r newidiadau mewn arferion y mae gofalwyr ifanc eu hangen i’w helpu i ffynnu.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella bywydau gofalwyr di-dâl o bob oed drwy weithredu ystod o fesurau.
Mae’r rhain yn cynnwys buddsoddi £9m mewn Cronfa Seibiannau Byr genedlaethol dros gyfnod o dair blynedd, er mwyn trawsnewid sut mae gofalwyr di-dâl yn gallu manteisio ar seibiant a seibiannau byr yng Nghymru. Mae hefyd yn cefnogi’r ail Ŵyl Gofalwyr Ifanc ym mis Awst, gan roi cyfle i ofalwyr ifanc i gael seibiant a siarad â gweithwyr proffesiynol am eu cyfrifoldebau gofalu.
Rhoddir cyllid i Plant yng Nghymru i greu Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc newydd. Bydd sylwadau pobl ifanc yn helpu i lywio’r gwaith o weithredu ein Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, gan weithio gydag ysgolion, colegau a phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn gallu gwireddu eu potensial fel unigolion a mwynhau eu bywydau eu hunain ochr yn ochr â chyflawni eu rôl ofalu.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
Ers lansio ein Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, rydyn ni wedi cyflawni llawer iawn o ran cefnogi gofalwyr ifanc, ond rhaid hefyd edrych i’r dyfodol i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu i wella eu bywydau.
Dw i’n hyderus y gallwn ni lwyddo i gyflawni hyn drwy wneud amser i wrando ar ofalwyr di-dâl o bob oed.