'Rhaid gwneud mwy i wella addysg am gylchred y mislif os ydyn ni am fynd i'r afael ag urddas mislif mewn ysgolion', meddai Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.
Mae cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru, sef Cymru sy'n Falch o'r Mislif, yn nodi'r uchelgais i wreiddio urddas mislif mewn ysgolion, a gwella adnoddau addysgol priodol mewn perthynas â chylchred y mislif.
Mae lles mislif a dysgu am gylchred y mislif yn fandadol o dan y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn nodi'r hyn y dylid ei ddysgu dros amser wrth i blant dyfu.
Y gobaith yw y bydd gwella argaeledd yr adnoddau addysgol a'r hyn a ddysgir am gylchred y mislif yn cael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â siarad am y mislif, yn helpu i'w ddeall yn well, ac yn chwalu'r tabŵau a'r mythau amdano.
Mae hyn yn cynnwys adnoddau addysgol fel Hwb: Chwalu'r Mythau am y Mislif, adnodd sydd wedi'i anelu'n bennaf at ddisgyblion ysgolion uwchradd.
Dau o nodau craidd cynllun gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif yw mynd i'r afael â thlodi mislif drwy wella mynediad at nwyddau mislif, a sicrhau urddas yn ystod y mislif drwy gael gwared ar unrhyw ymdeimlad o stigma neu gywilydd sy'n gysylltiedig â'r mislif.
Yn 2022, roedd Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r cyllid i £3.9 miliwn i sicrhau y gallai dysgwyr mewn ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach, a'r rhai mewn angen yn ein cymunedau, gael gafael ar nwyddau mislif am ddim.
Canfu adroddiad ymchwil i'r Grant Urddas Mislif fod cynnydd yn cael ei wneud o ran gwella argaeledd nwyddau mislif, gan gynnwys drwy ysgolion, i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad atynt.
Mae'r adroddiad hefyd yn argymell y dylid darparu mwy o wybodaeth i bobl am y mislif, ochr yn ochr â’r hyn a wneir yn y sector addysg, mewn ymgais i roi diwedd ar y stigma a'r tabŵau ynghylch siarad amdano.
Mae gwaith ar gyd-gynhyrchu adnoddau addysg ar les mislif, fel rhan o'r dysgu mandadol o dan y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, wedi dechrau hefyd. Rydym yn gweithio gydag eraill i sicrhau bod ymarferwyr yn gallu manteisio ar gymorth ac adnoddau proffesiynol sydd ar gael yn gyhoeddus, a'u rhannu ag ysgolion a lleoliadau eraill ledled Cymru.
Ymwelodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, â champws Gellihaf Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yng Nghaerffili i weld eu 'Hymgyrch i wella Urddas Mislif', sy'n ceisio rhoi gwybod i'r disgyblion am realiti'r mislif, gan chwalu'r mythau a magu hyder merched ifanc i siarad am eu cyrff mewn ffordd hyderus.
Mae'r ysgol hefyd yn rhannu'r berchenogaeth o gyfleusterau mislif sy'n cael eu datblygu ar draws dau safle.
Dywododd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol:
"Mae mynd i'r afael ag urddas mislif yn rhan allweddol o'n cynllun Cymru sy'n Falch o'r Mislif. Rhaid inni wneud mwy i wella addysg am gylchred y mislif os ydyn ni am fynd i'r afael ag urddas mislif mewn ysgolion.
"Mae wedi bod yn fraint imi gael cyfle i weld fy hunan y gwaith sy’n cael ei chynnal yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ar yr 'Ymgyrch i wella Urddas Mislif', sydd hefyd yn cynnwys eu hymdrechion i fagu hyder disgyblion ifanc i siarad am eu cyrff mewn ffordd hyderus.
"Os gallwn ni gael gwared ar y stigma sydd ynghlwm wrth siarad am y mislif, a chwalu'r mythau a'r tabŵau amdano hefyd, gallwn wella lles mislif disgyblion a’u hymwybyddiaeth o'r mislif mewn ysgolion ledled Cymru. Bydd hyn yn ei dro o fudd i'w hiechyd wrth iddyn nhw ddod yn oedolion."
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg:
"Rydyn ni'n ymdrechu i wella adnoddau addysg ynghylch y mislif, a sicrhau bod urddas mislif yn cael ei ystyried mewn canllawiau i ysgolion, awdurdodau lleol a cholegau.
"Mae lles mislif wedi'i gynnwys yn ein cwricwlwm drwy'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, sy'n cael ei gyflwyno yn ein hysgolion ar hyn o bryd. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda'r sector Addysg Uwch i hyrwyddo urddas mislif fel rhan o bolisïau ac arferion sefydliadau mewn perthynas â llesiant."
Dywedodd Tracey Neale, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhymni:
"Rydyn ni'n falch i allu dangos y ffordd rydyn ni'n mynd ati i ymgorffori urddas mislif yn ein cwricwlwm. A hefyd y ffordd rydyn ni'n cefnogi merched ifanc a theuluoedd ledled y fwrdeistref.
"Mae'n hanfodol bod disgyblion yn cael eu dysgu am realiti'r mislif. Rydyn ni'n cael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â siarad amdano, fel nad ydyn nhw'n ofni gofyn am help ac yn gallu dod i wybod mwy amdano."