Neidio i'r prif gynnwy

‘Mae buddsoddi mewn gwasanaethau a rhaglen gymorth benodedig ar gyfer y rheini sy’n gwella o effeithiau hirdymor COVID-19 yn hanfodol wrth inni ddechrau ailgodi ar ôl y pandemig’, dyna addewid y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ar ôl cwrdd â chlinigwyr a chleifion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:


Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £5miliwn fel rhan o raglen llwybr cleifion newydd o’r enw Adferiad, i ehangu'r ddarpariaeth o wasanaethau diagnosis, triniaeth, adsefydlu a gofal i'r rhai sy'n dioddef effeithiau hirdymor COVID-19, gan gynnwys COVID hir yng Nghymru.

Dull penodol i Gymru fydd hwn – sy’n ymateb i anghenion penodol yr unigolyn ac yn rhoi gofal mor agos at y cartref â phosibl.

Mae’r rhaglen Adferiad wedi’i chynllunio i gefnogi’r rhai sy’n dioddef o COVID hir a bydd yn parhau i ddatblygu wrth inni ddysgu mwy am yr effeithiau hir dymor ar y bobl sy’n gwella o COVID-19.

Bydd y rhaglen Adferiad, a fydd yn cael ei lansio’n nes ymlaen yr wythnos hon i gyd-fynd â chanllawiau newydd ar gyfer trin effeithiau hirdymor ar y bobl sy’n gwella o COVID, yn cael ei hadolygu bob chwe mis. Mae’n tanlinellu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn adnabod COVID hir fel cyflwr a all fod yn ddifrifol a gwanychol.

Nod y dull hwn yng Nghymru yw lleihau nifer y pwyntiau atgyfeirio ar gyfer pobl, gan ddarparu mannau cyfeirio clir i bobl gefnogi eu hunain os yw’n bosibl neu sicrhau eu bod yn cael mynediad at wasanaethau arbenigol os oes angen ar ôl ymgynghori gyda’u meddyg teulu.  

Targedu cyllid at lwybrau lle gall cleifion gael triniaeth bersonol ar gyfer eu hanghenion, yn ogystal â sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu mor agos i'r cartref â phosibl yw nodau allweddol fframwaith adsefydlu Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer o COVID.
Bydd y pecyn cyllid a’r rhaglen Adferiad yn datblygu gwasanaethau sylfaenol a chymunedol ymhellach i helpu unigolion sydd ag anghenion penodol o ganlyniad i effeithiau'r pandemig.

Dywedodd yr Athro Peter Saul, Cyd-gadeirydd RCGP Cymru:

Rwy’n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog y bydd adnoddau ychwanegol ar gael i gefnogi diagnosis a rheoli cleifion â COVID hir. Mae’r cyflwr wedi’i gwneud yn ofynnol inni ddysgu ac addasu’n gyflym i gefnogi ein cleifion.
“Gofal sylfaenol sy’n arwain gofal COVID hir a bydd y cyhoeddiad hwn yn rhoi’r hyder inni bod gennym y seilwaith, yr wybodaeth a’r data i feddygon teulu a’u timau ar draws Cymru ymateb i anghenion cleifion.

Bydd yr arian yn mynd tuag at y canlynol:

  • Helpu gweithwyr gofal iechyd a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i ddatblygu seilwaith i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd hyblyg er mwyn helpu pobl i wella o COVID-19 a COVID hir, a helpu'r rhai y mae'r pandemig yn effeithio'n ehangach arnynt.
     
  • Darparu hyfforddiant ac adnoddau digidol o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i helpu i wneud diagnosis ac ymchwilio a thrin COVID hir, a helpu pobl i gael eu trin a'u hadsefydlu.
     
  • Buddsoddi mewn offer digidol a fydd yn darparu data am y galw am wasanaethau a modelu capasiti, gan sicrhau bod y GIG yn helpu pobl i wneud y penderfyniadau cywir o ran eu gofal a'u triniaeth.

Daw hyn wedi i’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan gwrdd â chleifion a chlinigwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan dros yr wythnos ddiwethaf i ddysgu mwy am sut y maent yn mynd i’r afael â COVID hir.

Ddydd Iau (10 Mehefin) bu’r Gweinidog yn cwrdd â chleifion sydd wedi bod yn gwella o COVID hir ers dechrau’r pandemig mewn cyfarfod rhithwir, er mwyn dysgu am eu profiadau gofal a sut gefnogaeth y maent wedi’i chael.

Ddoe (14 Mehefin) aeth y Gweinidog i Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas i gwrdd â chlinigwyr sydd wedi bod yn darparu gwasanaethau Adsefydlu a Adfer o COVID, i ddysgu am sut y maent wedi bod yn trin cleifion a’r heriau y maent wedi’u hwynebu wrth ymdrin ag effeithiau hirdymor yn sgil feirws newydd.

Yn nes ymlaen yr wythnos hon, bydd Canllaw Cymru gyfan ar gyfer rheoli COVID hir yn cael ei lansio, ynghyd â’r rhaglen Adferiad. Bydd y canllaw pwysig hwn ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol yn cynnig yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer rheoli COVID hir ar draws GIG Cymru, a chaiff ei gefnogi gan becyn addysg ac adnoddau cynhwysfawr.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Mae wedi bod yn ddiddorol dysgu am sut rydym wedi bod yn mynd i’r afael ag effeithiau hirdymor COVID, gan gynnwys COVID hir ac effeithiau ehangach y pandemig yng Nghymru, a hynny gan weithwyr gofal iechyd ar y rheng flaen a chleifion sydd wedi dioddef o’r feirws ofnadwy hwn.

“Yng Nghymru rydym wedi ymrwymo i sicrhau llwybrau triniaeth ac adsefydlu wedi’u personoleiddio i ddiwallu anghenion pobl gan ein bod yn credu mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o ofalu am y bobl sy’n dioddef o effeithiau COVID hir.

“Rydym yn credu y bydd ein rhaglen Adferiad yn allweddol i sicrhau ein bod yn arwain y ffordd o ran gofal cleifion. Drwy fuddsoddi mewn staff, seilwaith, hyfforddiant a’r dulliau o ddarparu’r gwasanaethau hyn, rydym yn dangos ein hymrwymiad i wella diagnosis, triniaeth a gofal ar gyfer y rheini sydd â COVID hir.”