Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn dweud ei bod yn amser inni newid yn sylweddol y ffordd y caiff gwledydd y DU eu hariannu oherwydd Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Bydd hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gadw at yr addewid a wnaed yn ystod y refferendwm na fydd Cymru ar ei cholled yn ariannol wrth iddo lansio papur polisi Brexit diweddaraf Llywodraeth Cymru. Mae'r papur hwn yn amlinellu cynigion i lunio system gyllido newydd i sicrhau buddsoddiad teg a pharhaus i Gymru a gweddill y DU.

Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Datblygu dull newydd o ariannu sy'n hyrwyddo tegwch ar draws y DU, sy'n annog twf economaidd cytbwys ym mhob rhan o'r wlad ac sy'n seiliedig ar gydsyniad holl wledydd y DU. 
  • Disodli Fformiwla Barnett â system newydd yn seiliedig ar reolau sy'n sicrhau bod adnoddau yn cael eu dyrannu o fewn y DU ar sail angen cymharol.
  • Sicrhau nad yw Cymru yn colli ceiniog o gyllid yn sgil Brexit, ac y dylai Llywodraeth y DU wneud yn iawn am unrhyw gyllid yr UE sy'n cael ei golli heb unrhyw amodau na chymryd cyfran ei hun.
  • Sicrhau bod Cymru yn parhau i gael mynediad at bartneriaethau a rhwydweithiau Ewropeaidd pwysig gan gynnwys Horizon 2020, ERASMUS+, Rhaglen Ewrop Greadigol, Banc Buddsoddi Ewrop ac eraill. 
  • Ffordd newydd i bedair gwlad y DU gydweithio i gytuno ar faterion cyllidol yn lle fframwaith presennol yr UE. 
  • Sefydlu cyrff newydd sy'n annibynnol ar y llywodraeth i oruchwylio'r system newydd a datrys anghydfodau. 

Dywedodd Mark Drakeford:

"Nid yw'r ffordd bresennol o ddyrannu arian ar draws y Deyrnas Unedig yn addas at y diben. Mae Brexit yn dangos yn fwy nag erioed bod yr amser wedi dod i newid hyn er gwell.

"Rydyn ni angen system newydd o gyfrifo anghenion cyllid pob gwlad lle bydd pob rhan o'r Deyrnas Unedig yn elwa. Diben hyn yw sicrhau tegwch a bod yr adnoddau angenrheidiol yn cael eu dyrannu i'r ardaloedd sydd eu hangen fwyaf.

“Mae Brexit yn achosi cryn dipyn o ansicrwydd. Bydd yn  effeithio ar bob gwlad a rhanbarth yn y Deyrnas Unedig ac mae'n rhaid i ni ystyried sut y byddwn yn gweithredu y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni wedi cyflwyno cynigion ynghylch sut i ddod i gytundeb ar y cyllid, a sut y gallwn ddatrys anghydfodau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r llywodraethau datganoledig.

"Mae angen inni hefyd sicrhau mynediad parhaus at raglenni'r UE sy'n dod â buddsoddiad a chyfleoedd i Gymru.

"Mae ein cynigion ni'n berthnasol i'r Deyrnas Unedig gyfan, ac nid Cymru'n unig. Rhaid i Lywodraeth San Steffan weithio nawr gyda gwledydd, rhanbarthau a dinasoedd y Deyrnas Unedig i ddatblygu system ariannu deg a fydd yn sicrhau gwell dyfodol i bawb.”