Cyn gwneud datganiad yn y Cynulliad Cenedlaethol mae’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, wedi ailddatgan ei ymrwymiad i ddinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd sydd wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

“Rydyn ni wastad wedi bod yn glir ein bod yn cydnabod y cyfraniad amhrisiadwy y mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn ei wneud i’n heconomi a’n cymdeithas, ac y dylai unrhyw bolisi newydd ar fewnfudo gael ei seilio ar hynny. Ein neges fel Llywodraeth i ddinasyddion yr UE yng Nghymru yw 'Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad i fywyd Cymru a bydd croeso i chi bob amser yma.’

“Yn y ddogfen Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl, cynigiodd Llywodraeth Cymru ddull o ymdrin â mudo a oedd yn hyblyg ond a oedd hefyd wedi’i reoli. Byddai modd i bobl o Ewrop symud i’r DU pe baent wedi cael cynnig swydd ymlaen llaw neu pe bai modd iddynt ddod o hyd i swydd yn gyflym. Ein dadl oedd y dylai hyn gael ei ategu gan drefn gadarn o orfodi deddfwriaeth er mwyn atal camfanteisio ar weithwyr a thanseilio cyflogau ac amodau, gan gefnogi ein heconomi yr un pryd.

“Fe hoffwn i allu dweud bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar y galwadau hynny ac ar y cynigion a gyflwynwyd gennym ni yn ein papur Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl, gan dderbyn y dystiolaeth a gafwyd nid yn unig o Gymru ond o’r DU i gyd.

“Yn anffodus, nid felly y bu hi.

“Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn ym mis Rhagfyr y llynedd, yn amlinellu ei chynlluniau ar gyfer mewnfudo ar ôl inni ymadael a’r UE, nid oedd wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru ymlaen llaw, er ein bod wedi cael sicrhad y byddai hynny’n digwydd.

“Mae’r cynlluniau yn y Papur Gwyn yn anwybyddu grym y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynghori ar Fudo ynglŷn â’r effaith negyddol y byddai dull mwy cyfyngus o ymdrin â mewnfudo yn ei chael ar yr economi.

“Fel y dywedais yn glir yr wythnos diwethaf, ein safbwynt nawr yw ymgyrchu dros refferendwm a thros aros yn yr UE. Ond os byddwn yn ymadael, mae’n hanfodol ein bod yn darbwyllo Llywodraeth y DU bod arnom angen dull hyblyg, wedi’i reoli, o ymdrin â mewnfudo - dull sy’n deg ond sy’n osgoi gwneud niwed diangen i’n ffyniant.

“Cynigir rhoi rhestr i Gymru, ac i’r Alban, o alwedigaethau lle mae prinder. Ond nid yw hynny’n ateb os bydd yr un trothwy cyflog wedi’i osod ar y galwedigaethau ag sydd ar hyn o bryd.

“Rhaid inni gael polisi teg ar fudo – un sy’n diogelu dinasyddion yr UE sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac sy’n sicrhau bod anghenion ein masnach lafur yn cael eu diwallu at y dyfodol.

“Dylai unrhyw drothwy cyflog fod ymhell o dan £30,000. Rhaid inni sicrhau bod Cymru’n dal i gael ei gweld yn lle deniadol i fyw a gweithio ynddo a’n bod yn dal yn genedl groesawgar.

“Mae fy swyddogion yn cymryd rhan mewn rhaglen ymgysylltu 12 mis gyda’r Swyddfa Gartref, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, lle mae gwahanol agweddau ar y Papur Gwyn ar Fewnfudo yn cael eu trafod bob mis. Byddaf yn parhau i drafod gyda’r Swyddfa Gartref ar lefel Weinidogol ac ar lefel swyddogion, ac yn parhau i wneud yn siŵr bod buddiannau gorau Cymru a’n pobl yn cael eu cynrychioli’n llawn.”