Mynd i'r afael â llygredd aer yw un o'r heriau mwyaf cymhleth sy'n ein hwynebu, heb ateb syml meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog newydd dros Newid yn yr Hinsawdd, wrth i Gymru nodi Diwrnod Aer Glân.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru, a fydd yn nodi fframwaith ar gyfer pennu targedau ansawdd aer newydd wedi'u llywio gan arfer gorau rhyngwladol a chanllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd. Bydd y Ddeddf hefyd yn gwella ein gallu i asesu a monitro ansawdd aer er mwyn helpu i leihau effaith aer gwael ar iechyd cenedlaethau presennol a'r dyfodol.
Ansawdd aer gwael yw'r risg iechyd amgylcheddol unigol fwyaf yn fyd-eang, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, gyda'r effeithiau'n cyfrannu at ddisgwyliad oes is. Yng Nghymru yn unig mae ansawdd aer gwael yn cyfrannu at fwy na 1,000 o farwolaethau bob blwyddyn.
Wrth siarad mewn digwyddiad Aer Glân yng Nghasnewydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"Yn ystod y pandemig rydym wedi gwneud newidiadau mawr i'r ffordd rydym yn byw ein bywydau oherwydd ein bod wedi dilyn y wyddoniaeth.
"Yn 2020, roedd plant yn ysgwyddo baich COVID-19, gan effeithio ar eu rhyddid, eu haddysg a'u lles meddyliol. Wrth i'n plant ddychwelyd i'w bywydau, rhaid i ni sicrhau eu bod yn mynd yn ôl i amgylchedd iach lle gallant ddysgu a chwarae'n ddiogel.
"Mae ffyrdd tawelach, aer glanach, llai o sŵn a chysylltiad agosach â natur i gyd yn ganlyniad y newidiadau a achoswyd gan y pandemig. Nawr mae angen i ni ddefnyddio'r cyfle hwn i lywio'r ffordd rydym yn ymateb i broblemau llygredd aer er mwyn diogelu iechyd ein plant a sicrhau dyfodol glanach.
"Nid yw parhau fel yr oeddem yn opsiwn, mae angen i ni wneud pethau'n wahanol a bod yn barod i fod yn ddewr. Rydym eisoes yn darparu cynlluniau addysgol ansawdd aer mewn partneriaeth ag EESW STEM Cymru, i rymuso pobl ifanc i wneud newid. Byddwn hefyd yn cydweithio â chymunedau, busnesau a'r sector cyhoeddus i annog pobl i chwarae eu rhan i sicrhau gwelliannau i ansawdd aer er mwyn cael Cymru iachach a mwy gwydn.
"Mae cael mynediad i amgylchedd iach ac anadlu aer glân yn hawl, nid braint!"
Bydd yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd 'wrth wraidd penderfyniadau Llywodraeth Cymru', gyda'r Prif Weinidog yn creu 'uwch-Weinyddiaeth' newydd i ddwyn ynghyd yr amgylchedd, trafnidiaeth, cynllunio, tai ac ynni i helpu Cymru i sicrhau newid parhaol.