Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, wedi amlinellu heddiw, y gwaith mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud gyda phartneriaid i leihau nifer y troseddau a digwyddiadau casineb sy'n digwydd ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yn Siambr y Cynulliad yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, ac wrth i'r ffigurau diweddaraf ddangos y cofnodwyd 2,941 o droseddau casineb yng Nghymru yn ystod 2016-17, sy'n gynnydd o 22.3% ers 2015-16, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

"Mae llawer o'r cynnydd hwn yn debygol o ddeillio o'r ffaith bod adrodd am y troseddau hyn wedi dod yn fwy cyffredin. Dyma arwydd cadarnhaol bod dioddefwyr yn adrodd am ddigwyddiadau o droseddau casineb a bod ganddynt hyder y bydd eu hachos yn cael sylw. Rhwng 2012 a 2015, dim ond 48% o ddioddefwyr troseddau casineb oedd yn eu hadrodd. Ers hynny, mae llawer o waith wedi cael ei wneud i wella ymwybyddiaeth a chodi hyder dioddefwyr i gymryd y cam hwnnw. 

"Er hynny, mae pryder gwirioneddol yn bodoli ymhlith yr heddlu, y trydydd sector, a phartneriaid eraill, o ran y nifer cynyddol o droseddau casineb a brofwyd y llynedd. Rydym felly wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r sefydliadau hyn i sicrhau bod ein gwaith yn cael yr effaith fwyaf bosibl ac i adeiladu cymunedau lle nad yw troseddau casineb yn cael eu goddef o gwbl, lle caiff dioddefwyr eu cefnogi'n llwyr. 

"Nid yw'n iawn cam-drin neu wahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd eu hil, eu cred, eu cenedlaetholdeb, eu hoed, eu rhywioldeb, eu rhywedd, eu hunaniaeth o ran rhywedd, neu oherwydd eu bod yn anabl. Ni ddylai neb gredu bod ganddynt yr hawl i gam-drin eraill. Rydym yn parhau i fynd i'r afael â'r math hwn o ymddygiad. Ddylai neb ddioddef gelyniaethu, bwlio neu ragfarn. Dyma pam ein bod yn gwneud safiad clir dros y mater hwn, a pham fod rhaid inni barhau â'n gwaith i wrthsefyll casineb a chreu cymunedau cynhwysol yma yng Nghymru."