Neidio i'r prif gynnwy

Bu arbenigwyr o'r byd busnes, y sector adeiladu tai a'r sector cyhoeddus yn trafod gyda Alun Davies sut i sicrhau'r manteision gorau o'r gwaith o ddeuoli'r A465

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Trafodwyd hefyd y cynlluniau uchelgeisiol a gyhoeddwyd gan y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, sy’n cael ei gadeirio gan Alun Davies. 

Dywedodd: 

"Mae'r A465, sef Ffordd Blaenau'r Cymoedd, yn un o'r cysylltiadau strategol allweddol rhwng y dwyrain a'r gorllewin yng Nghymru. Mae'n rhan o'r Rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd ac yn borth rhyngwladol i'n heconomi yn Ne Cymru. 

"Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd ffordd ddeuol yn mynd yr holl ffordd o'r M4 ar hyd yr A465 i ganolbarth Lloegr a'r tu hwnt. 

"Rydyn ni eisoes yn gweithio i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn, gan adeiladu ar gynlluniau uchelgeisiol Tasglu’r Cymoedd. Mae hynny’n cynnwys ymrwymo i gau'r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru. 

"Mae hyn yn golygu sicrhau bod prosiectau fel hyn yn cynnwys cyfleoedd i'r gymuned leol hyfforddi a chael swyddi, a bod modd i gwmnïau o Gymru gystadlu am is-gontractau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates hefyd wedi nodi’n glir drwy’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi newydd ei fod am weld mwy o fuddsoddi arian cyhoeddus at ddiben cymdeithasol o’r math hwn yn economi Cymru dros y blynyddoedd nesaf." 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, Dr Victoria Winckler: 

"Mae gennym ni adnoddau gwych yng nghymunedau'r Cymoedd, a dyma pam bod yn rhaid inni gydweithio i sicrhau bod prosiectau seilwaith mawr, fel prosiect deuoli Blaenau'r Cymoedd, yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd caffael, o'n pobl a'n hamgylchedd rhyfeddol er mwyn dod â manteision i'n cymunedau." 

"Rydyn ni’n hynod falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Cynghrair Cymunedau Diwydiannol i sicrhau bod ffordd yr A465 yn cael ei defnyddio i'r eithaf. Fel llwybr, mae mor bwysig i'r bobl sy'n byw yn is-ranbarth Blaenau'r Cymoedd ag yw Metro De Cymru. Mae gan y prosiect y potensial i drawsnewid y rhanbarth wrth leihau amserau teithio'n sylweddol o fewn ardal Blaenau'r Cymoedd ac i weddill Cymru a'r DU." 

Aeth Mr Davies ymlaen i ddweud: 

"Mae'r rhan hon o Gymru yn llawn cyfleoedd, yn gyfoeth o ddiwylliant, pobl ac adnoddau naturiol, ynghyd â gobaith ac uchelgais. Wrth inni fynd ati i sicrhau ffyniant cymdeithasol ac economaidd hirdymor i'r holl gymunedau yn y Cymoedd, mae'n hanfodol ein bod yn manteisio i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd wrth law".