Mae Llywodraeth Cymru yn ei hannog i weithredu ar sail hynny a chynyddu gwariant cyhoeddus i fodloni’r galw cynyddol am wasanaethau cyhoeddus.
Mewn llythyr at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, mae’r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn nodi blaenoriaethau Cymru cyn Cyllideb yr Hydref ddydd Llun 29 Hydref 2018.
Mae’r Ysgrifennydd Cyllid yn annog Llywodraeth y DU i wneud cyfres o ymrwymiadau i Gymru, gan gynnwys:
- gwireddu ei haddewid na fydd Cymru’n colli ceiniog o gyllid yn sgil y penderfyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
- gwella ein gallu i fenthyca er mwyn cefnogi ein blaenoriaethau buddsoddi
- sicrhad y bydd y costau sy’n deillio o’r cytundebau cyflog a’r newidiadau diweddar i bensiynau yn cael eu cyllido’n llawn
- parhau i gydweithio’n adeiladol ar y pedwar syniad am drethi newydd
- cydnabod adroddiadau gan arbenigwyr a gwrthdroi’r penderfyniad i beidio â datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru
- mynd i’r afael â’r tanfuddsoddi sylweddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru ac ymrwymo i roi cyfran deg o gyllid rheilffyrdd i Gymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
“Rydyn ni wedi galw dro ar ôl tro am roi terfyn ar bolisi cyni Llywodraeth y DU, sydd wedi methu. Er fy mod yn rhoi croeso gofalus i awgrym Prif Weinidog y DU yn ddiweddar bod y cyfnod o gyni yn dod i ben, rwy’n edrych ymlaen at glywed beth fydd hyn yn ei olygu’n ymarferol. Mae’n bryd i Lywodraeth y DU gynyddu gwariant cyhoeddus i fodloni’r galw cynyddol am wasanaethau cyhoeddus ac i ddad-wneud y difrod sydd wedi’i achosi gan ddegawd o doriadau.
“Mae pwysau sylweddol o hyd ar yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith. Rydyn ni eisoes yn gwneud defnydd llawn o’n gallu i fenthyca, ond er mwyn parhau i gyflawni ein blaenoriaethau buddsoddi mae angen inni weld cynnydd yng Nghymru.
“Rydyn ni wedi bod yn galw’n gyson am roi terfyn ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus, felly mae’r cyhoeddiadau ynghylch cytundebau cyflog dros 1% i’w croesawu. Rydyn ni’n disgwyl nawr i Lywodraeth y DU ddarparu’r cyllid angenrheidiol – i bob grŵp yn y gweithlu – rhag i’r cynnydd mewn cyflogau effeithio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.”
Mae’r Ysgrifennydd Cyllid wedi pwyso hefyd ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n cael yr un faint o gyllid o raglenni cyfredol yr UE ar ôl Brexit – heb unrhyw frigdorri nac amodau.
Ychwanegodd:
“Mae’r ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn parhau i lesteirio rhagolygon twf Cymru a’r DU gyfan. Mae Adroddiad y Prif Economegydd a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn yn nodi, yn unol â barn nifer o arbenigwyr annibynnol, y gallai ein heconomi fod wedi crebachu tua 2 y cant yn barod yn sgil canlyniad y refferendwm. Mae’n debygol y byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus i economi Cymru.
“Rwy’n disgwyl i Lywodraeth y DU wireddu’r addewid a gafodd ei wneud yn y refferendwm na fyddai Cymru’n colli ceiniog yn sgil y penderfyniad i ymadael â’r UE. Rhaid sicrhau nad yw hyn yn mynd ag arian oddi wrth ein cymunedau nac yn cyfyngu ar ein gallu i barhau i fuddsoddi yn economi a phobl Cymru.”