Heddiw bydd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans yn cyflwyno'r achos o blaid datganoli Toll Teithwyr Awyr (APD) i Gymru wrth iddi ddarparu tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig.
Mae APD wedi'i datganoli i'r Alban ac yn rhannol i Ogledd Iwerddon ond mae'n dal i fod o dan reolaeth Llywodraeth y DU yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau ers tro y dylai fod ganddi bwerau dros APD, gan ei galluogi i ddenu mwy o deithiau hedfan i Gymru.
Ond mae Gweinidogion y Du wedi dweud y byddai'n rhoi mantais annheg i Gaerdydd dros feysydd awyr rhanbarthol eraill y DU. Mae'r pryderon hyn wedi cael eu chwalu gan ymchwil annibynnol.
A hithau'n siarad cyn ei sesiwn yn y Pwyllgor Materion Cymreig, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:
“Er gwaethaf galwadau cyson gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU ynghylch APD, nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto. Mae'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr i gyd yn rheoli APD i raddau amrywiol - nid oes unrhyw gyfiawnhad o gwbl dros drin Cymru'n wahanol.
“Mae cefnogaeth unfrydol o blaid datganoli APD i Gymru o du'r sectorau awyrennau, twristiaeth a busnes yng Nghymru ac mae'n bryd i Lywodraeth y DU roi'r gorau i lusgo ei thraed a newid ei safbwynt a hynny ar frys.”
Y mis diwethaf cyflwynodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates ddatganiad oddi wrth Gyngor Datblygu'r Economi i'r Pwyllgor Materion Cymreig, sy'n cynnal ymchwiliad ynghylch APD, o blaid datganoli'r dreth i Gymru.
Dywedodd Ken Skates:
“Mae methiant Llywodraeth y DU i ddatganoli APD yn parhau i osod cyfyngiadau na ellir eu cyfiawnhau ar ein gallu i hyrwyddo Cymru i farchnadoedd tramor a chefnogi twf yn y sector awyrofod a'r economi ehangach.
“Rydyn ni am i Lywodraeth y DU weld bod datganoli APD yn gyfle yn hytrach nag yn rhwystr. Byddai datganoli'r dreth yn dod â budd mawr i Faes Awyr Caerdydd, i Gymru a'r DU.”
Mae datganoli APD i Gymru yn gyson â pholisi Llywodraeth y DU o gefnogi'r sector awyrennau i wneud cyfraniad sylweddol at dwf economaidd y wlad ac economi'r DU ac mae'n cyd-fynd â threthi eraill sydd wedi cael eu datganoli i Gymru.