Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau trên sy'n rhedeg rhwng Cymru a Llundain gael eu hailfapio fel eu bod yn cyd-fynd â masnachfraint newydd a gaiff ei chaffael a'i rheoli gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar fasnachfraint rheilffordd bresennol Great Western, pwysleisiodd Ken Skates yr angen am amserau teithio cyflymach, mwy o wasanaethau, gwell mynediad at Heathrow a hefyd yr angen i gyflawni addewidion Llywodraeth y DU o safbwynt buddsoddi yn y seilwaith.

Mae'r ymateb llawn i'r ymgynghoriad yn nodi blaenoriaethau Cymru a hefyd yn pwysleisio'r ffaith bod angen i unrhyw drefniadau newydd fod o fudd i Gymru. Nodir hefyd yr angen i drafod â Trafnidiaeth Cymru.

  • Gwasanaethau De Cymru - Mae'n rhaid i amserau teithio rhwng prif orsafoedd De Cymru a Llundain a Temple Meads Bryste wella yn ystod yr oriau brig. Gallai sawl newid i'r trefniadau gweithredu presennol hwyluso hyn, gan gynnwys rhoi'r gorau i aros mewn gorsafoedd yn Lloegr nad oes llawer o bobl o Gymru yn eu defnyddio. Mae'n rhaid i wasanaethau hefyd aros yng ngorsafoedd Parcffordd Caerdydd a Llanwern yn y dyfodol. 

  • Buddsoddi mewn seilwaith - Er mwyn sicrhau gwell gwasanaethau uniongyrchol rhwng Doc Penfro a Llundain ar drenau newydd sbon InterCity Express mae'n rhaid i'r buddsoddiad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017 ddigwydd mor fuan â phosibl.   Mae Achos Busnes ar gyfer ailddatblygu gorsaf Caerdydd Canolog eisoes wedi'i gyflwyno ac mae'n rhaid i'r gwaith trydaneiddio yng Nghaerdydd ddigwydd. Mae cyflawni'r cynllun hirddisgwyliedig ar gyfer creu mynediad o'r gorllewin i mewn i Faes Awyr Heathrow hefyd yn hanfodol i Gymru. 

  • Diwallu anghenion cwsmeriaid - Er mwyn adlewyrchu'r effeithiau arwyddocaol y mae problemau â gwasanaethau yn eu cael ar ganfyddiadau teithwyr o reilffordd effeithiol, dylai'r fasnachfraint newydd gymryd pob cam posibl i wella'r modd y caiff tarfu, boed wedi'i gynllunio neu beidio, ei reoli.    Rydym hefyd yn disgwyl i'r bobl sy'n darparu gwasanaethau yng Nghymru beidio  â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Ychwanegodd Ken Skates:

"Mae'n rhaid i unrhyw drefniadau newydd fod yn fuddiol i deithwyr Cymru a rhaid eu trafod â Trafnidiaeth Cymru. Mae achos cryf o blaid defnyddio'r model a ddatblygwyd ar gyfer gwasanaethau trawsffiniol o dan fasnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau wrth gaffael a rheoli'r gwasanaethau a gaiff eu cynnal ar hyn o bryd gan Great Western.

"Rydym wedi datblygu cytundebau manwl o safbwynt sut y gallai gwasanaethau trawsffiniol gael eu cyflwyno mewn modd sy'n ystyried swyddogaethau a rhwymedigaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd cysylltedd Cymru â chanolfannau economaidd a phyrth rhyngwladol Prydain yn ne-ddwyrain Lloegr yn dod yn fwyfwy pwysig i ffyniant Cymru ar ôl Brexit.

"Wrth gwrs ni fydd HS2 yn gwasanaethu Cymru'n uniongyrchol a bydd yn golygu bod yr amserau teithio rhwng sawl dinas a thref yng Ngogledd Lloegr a de-ddwyrain Lloegr yn lleihau. Mae gwir berygl y gallai hyn amharu ar allu lleoliadau yn Ne Cymru i gystadlu o safbwynt mewnfuddsoddi.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru fynd ati yn awr i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u cyflawni mewn modd a fydd yn adlewyrchu holl fuddiannau Cymru. Credaf y byddai hyn yn creu gwir gystadleuaeth a hefyd ddewisiadau gwirioneddol ar gyfer teithwyr yn Lloegr."