Mae Mark Drakeford wedi dweud y bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau nad yw Cymru’n colli ceiniog o gyllid yn dilyn canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos ddiwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Wrth siarad cyn y sesiwn cwestiynau llafar yn y Senedd, dywedodd bod rhaid i Lywodraeth y DU warantu pob ceiniog o gyllid sy’n dod oddi wrth yr UE ar hyn o bryd.

Ychwanegodd bod Cronfeydd Strwythurol yr UE yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi twf a swyddi ar draws Cymru ac y bydd unrhyw arian sy’n cael ei golli yn cael effaith ar bobl, busnesau a chymunedau.

Dywedodd Mark Drakeford: 
“Mae Cymru’n elwa’n ariannol o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r miliynau o bunnoedd o arian Ewropeaidd sy’n dod i Gymru’n helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant; yn cefnogi busnesau; yn ysgogi arloesi ac yn helpu i adfywio cymunedau. Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig warantu na fydd Cymru ar ei cholled wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.”

Ers 2007, mae prosiectau’r UE wedi creu 11,900 o fentrau a thua 37,000 (gros) o swyddi; wedi helpu 72,700 o bobl i gael gwaith; ac wedi helpu dros 229,000 o bobl i ennill cymwysterau a 56,000 o bobl i fynd i addysg bellach.
Dan y gwerth £1.8bn o raglenni presennol sy’n cael cymorth yr UE, mae dros £700m o Gronfeydd Strwythurol yr UE eisoes wedi’u hymrwymo, 40% o gyfanswm y dyraniad ar gyfer 2014-20. 
Dywedodd Mark Drakeford:  
“Bydd toriadau i’r cyllid yn cael effaith wirioneddol ar ein cyllidebau a’n strategaethau ar gyfer swyddi a thwf. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ar yr union fater hwn. Tra bod trefniadau Brexit yn cael eu gwneud ar gyfer y tymor hir, byddwn yn parhau i gyflawni rhaglenni presennol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, gan fuddsoddi mewn prosiectau i sicrhau cysondeb i ddinasyddion, cymunedau, ffermwyr a busnesau.”

Er mwyn gadael yr UE, rhaid i Lywodraeth y DU roi rhybudd dan Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon, sy’n rhoi hyd at ddwy flynedd i drafod telerau’r ymadawiad.
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet: 
“Ein blaenoriaeth nawr yw cael eglurhad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig am natur, amseriad a chanlyniad y trafodaethau ynghylch ymadael, a sut y bydd yn gwneud yn iawn am golli’r arian Ewropeaidd sylweddol y mae Cymru yn ei dderbyn ar hyn o bryd, yn arbennig ar gyfer y rhannau mwyaf anghenus o Gymru.  “Rhaid i Gymru fod yn rhan o’r trafodaethau hyn er mwyn i ni gael y fargen orau bosib. Mae hyn yn cynnwys yr angen i Lywodraeth y DU ddiwygio’r hen fformiwla Barnett ar frys er mwyn sicrhau system ariannu decach i Gymru, gan ystyried yr anghenion sy’n codi wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.”